Williams, Margaret (g.1941)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores soprano, yn wreiddiol o Frynsiencyn, Ynys Môn, yw Margaret Williams a bu’n serennu ar lwyfan a theledu ers yr 1960au. Dechreuodd ganu mewn côr plant, ac yna fel unawdydd pan oedd hi’n wyth oed. Ymddangosodd ar y radio gyntaf pan oedd yn ddeuddeg oed. Y flwyddyn ddilynol dechreuodd gymryd rhan yng nghystadleuaeth radio Sêr y Siroedd, gan gynrychioli Sir Fôn. Hwn oedd cyfnod poblogrwydd grwpiau megis Hogia Bryngwran a Hogia Llandegai, a bu Margaret Williams yn aml yn perfformio ar yr un llwyfannau â nhw.

Ymddangosodd ar raglenni teledu TWW pan oedd yn ferch ysgol yn yr 1950au, ac ar raglenni Teledu Cymru yn yr 1960au, yn enwedig Moment for Melody, cyfres o wyth rhaglen ddeg munud. Bu’n athrawes yn ysgol gynradd Biwmares am gyfnod. Fodd bynnag, yn sgil penodi Meredydd Evans yn bennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru yn 1963 daeth yn wyneb mwy cyson fyth ar y teledu. Cafodd ei chyfres deledu gyntaf yn 1970 a bu’r rhaglen Margaret yn rhedeg ar S4C o 1982 hyd 1999.

Yn 1964 enillodd y grand slam eisteddfodol: Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd (Porthmadog), Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a’r Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe. Yn annhebyg i lawer o gantorion ifanc Cymreig ei chenhedlaeth, trodd yn broffesiynol yn 1966 gan ymddangos yn fynych ar raglen Ryan a Ronnie. Yn 1969 bu’n llwyddiannus yng nghystadleuaeth Cân i Gymru gyda’r gân ‘Cwilt Cymraeg’. Yn sgil hynny gofynnodd y gyfansoddwraig Grace Williams iddi ganu cân o’i heiddo a gomisiynwyd gan y BBC ar gyfer drama Esther Saunders Lewis.

Gydol ei gyrfa bu Margaret Williams yn serennu mewn sioeau cerddorol ledled Prydain, ar longau mordaith, ar raglenni teledu, ac ar lwyfannau Cymru. Yn ychwanegol at y gyfres Margaret, mae wedi ymddangos ar raglenni teledu megis Noson Lawen, Dechrau Canu Dechrau Canmol, Cwpwrdd Dillad, ac fel beirniad ar gyfer Cân i Gymru. Yn 2004 dathlodd ddeugain mlynedd yn y diwydiant perfformio ac i nodi’r garreg filltir enwyd rhosyn ar ei hôl: Rosa ‘Rhosyn Margaret Williams’.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

  • Y Goreuon/The Very Best of (Sain SCD2101, 1995)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.