Williams, Maria Jane (1795-1873)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Maria Jane Williams i deulu bonheddig plasty Aberpergwm yng Nglyn-nedd, Morgannwg. Cynhaliai’r teulu nosweithiau llawen a gwleddoedd ar gyfer cantorion, dawnswyr a beirdd lleol a dderbyniai nawdd a chefnogaeth ganddynt. Cantores a chasglwr alawon gwerin oedd Jane a chwaraeai’r gitâr a’r delyn. ‘Llinos’ oedd ei henw barddol a’i chyfraniad pennaf i gerddoriaeth Cymru oedd Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (1844), sef y casgliad cyhoeddedig cyntaf o ganeuon brodorol y genedl (Huws 1973, 93).

Ffrwyth un o gystadlaethau Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni, Hydref 1838 (er mai yn 1837 y derbyniodd hi’r wobr), yw’r rhan fwyaf o gynnwys y gyfrol. Rhoddwyd y wobr gan y Foneddiges Elizabeth Brown Greenly (Llwydlas) ar gyfer ‘y casgliad gorau o alawon gwreiddiol Cymreig heb eu cyhoeddi, ynghyd â’r geiriau, fel y’u cenir hwy gan werin Cymru’ (Huws 1994, xvi). Bu Jane yn ddiwyd rhwng 1837 ac 1844 yn llunio cyfeiliannau i’r delyn neu’r piano ar gyfer yr alawon, yn ymestyn y casgliad ac yn eu golygu, eu tacluso a’u cywiro. Tarddai’r alawon yn gyfan gwbl o Went a Morgannwg ac yn y gyfrol y cyhoeddwyd y gân werin boblogaidd ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’ am y tro cyntaf.

Roedd cyfnewid a chymharu deunydd yn nodweddiadol o waith casglu hynafiaethwyr a chasglwyr yr oes ac nid oedd casgliad Jane Williams yn eithriad. Cawsai awgrymiadau a gwelliannau gan Arglwyddes Llanofer (y Foneddiges Augusta Hall), John Jones (Tegid) a Taliesin Williams (ab Iolo), sef mab Iolo Morganwg. Defnyddiwyd alawon o gasgliadau llawysgrifol Iolo Morganwg yn sail i’r cyhoeddiad a gohebai Jane yn aml ag Arglwyddes Llanofer a Tegid er mwyn cael manylion cefndir yr alawon, awgrymiadau ynghylch geiriau’r penillion a chywiriadau. Ceir cyfanswm o 43 cân werin yn y gyfrol ac mae’n enghraifft o gasgliad o alawon llafar gwlad y werin bobl, o’i chymharu â’r cyhoeddiadau eraill a ddaeth i olau dydd yn yr un cyfnod, fel cyhoeddiad John Parry (Parry Ddall; Rhiwabon) ac Evan Williams, Antient British Music (1742). Alawon a cheinciau’r telynorion, rhai a apeliai at gynulleidfaoedd rhyngwladol y dydd, a geid yn y casgliad hwnnw, tra oedd casgliad Jane Williams yn enghraifft o ganu’r werin gyffredin a baledi’r cantorion lled broffesiynol (Williams 1975, 54).

Yn ogystal â hyn, bu Jane yn cynorthwyo cerddorion blaenllaw’r oes trwy gynnig ei gallu a’i harbenigedd cerddorol at eu gwasanaeth. Er enghraifft, bu’n gymorth i John Parry (Bardd Alaw) wrth iddo ddwyn ynghyd ddeunydd ar gyfer ei gyhoeddiad The Welsh Harper a bu’n cynghori John Thomas (Pencerdd Gwalia) ar gyfer ei gyhoeddiadau yntau hefyd (Jones 1994, 67). Yn yr un modd, cafodd Jane fenthyg casgliadau llawysgrifol John Jenkins (Ifor Ceri) yn dilyn ei farwolaeth yn 1829, sef Melus-seiniau Cymru a Melus-geingciau Deheubarth Cymru, a chyhoeddodd hithau ambell fersiwn o’r alawon hyn yn The Cambrian Journal rhwng 1854 ac 1857 (Stephens 1997, 373).

Cafwyd deffroad ym myd cerddoriaeth draddodiadol Cymru gyda gwaith casglu a chofnodi Iolo Morganwg ar drothwy’r 19g. Fodd bynnag, ni welwyd penllanw’r deffroad hwnnw tan ganol y ganrif honno, bron ugain mlynedd wedi marwolaeth Iolo, pan gyhoeddwyd cyfrol Jane Williams. Dyma gyfrol a nodweddai’r adfywiad ym myd canu gwerin Cymru; yn wahanol i’r casgliadau o geinciau offerynnol y telynorion a ymddangosodd trwy gydol y 18g., alawon gwerin ynghyd â geiriau a welir yn y gyfrol hon. Bu Jane farw ar 10 Tachwedd 1873.

Leila Salisbury

Llyfryddiaeth

  • Daniel Huws, ‘Ancient National Airs of Gwent and Morganwg’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, XV/1 (Haf, 1967), 31–54
  • ———, ‘Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg’, Cerddoriaeth Cymru/ Welsh Music, 4/5 (Gaeaf, 1973–4), 93–107
  • W. S. Gwynn Williams (gol.), Welsh National Music and Dance (Wrecsam, 1975)
  • Daniel Huws (gol.), Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (Aberystwyth, 1994)
  • ———, ‘Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg: 1844–1994’, Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music, 9/7 (Gaeaf, 1994–5), 22–5
  • Phylip Jones, ‘Traddodiad Cerddorol Nedd a’r Cyffiniau’, Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music, 9/7 (Gaeaf, 1994–5), 67–76
  • M. Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997)
  • Phyllis Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.