Williams, Menai (g.1942)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o gynheiliaid cerdd dant yng Nghymru yn yr 20g. a’r 21g. Fe’i ganed yn Ninbych, gyda’r cartref yn y Bylchau, pentref cyfagos. A’i thad yn weinidog gyda’r Presbyteriaid a fu mewn amryw o ofalaethau, derbyniodd ei haddysg gynradd ac uwchradd mewn aml i fan, gan gynnwys y Rhyl, Penrhyndeudraeth, Ysgol Ramadeg y Bermo, Ysgol Ardudwy ac Ysgol Ramadeg y Genethod, Rhiwabon. Aeth yn ei blaen i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1960 gan astudio cerddoriaeth, Ffrangeg, Lladin ac athroniaeth. Graddiodd gyda gradd BA yn 1964.

Y dylanwad mawr arni oedd ei mam, a ddeuai o linach gerddorol o gantorion gwerin a cherdd dant, a buan y dechreuodd hithau ymddiddori yng nghrefft canu penillion. Ar ôl derbyn gwersi gan y delynores Gwenllian Dwyryd, cafodd gyfle i osod cerdd dant a chyfeilio i’r artistiaid gan ddilyn ôl troed ei mam. Bu hefyd yn aelod o gôr Madrigal Penrhyndeudraeth dan arweiniad Harri Jones Williams, lle dysgodd lawer am ddisgyblaeth a lliwio geiriau.

Bu’n athrawes gerdd ar hyd ei gyrfa. Ar ôl priodi ac ymsefydlu yn Nyffryn Ogwen bu’n athrawes mewn nifer o ysgolion, megis Ysgol Dyffryn Ogwen, Ysgol Eifionydd ac Ysgol Syr Hugh Owen cyn ymddeol yn 2000. Cafodd brofiad hefyd yn y sector gynradd yn Ysgol Pen-y-bryn, Bethesda, ac Ysgol yr Hendre, Caernarfon. Daeth ieuenctid yr ysgolion uchod i sylw’r cyhoedd trwy eu llwyddiannau mewn cystadlaethau canu a cherdd dant.

Bu Menai Williams hefyd yn hyfforddi unigolion, corau a phartïon y tu allan i fyd addysg, ym maes cerdd dant ac yn ehangach. Bu’n arweinydd ar Gôr Meibion y Penrhyn, Côr Meibion Caernarfon, Hogia’r Ddwylan a Chôr Cymunedol Dyffryn Ogwen gan ddod yn fuddugol droeon mewn gwyliau ac eisteddfodau yng Nghymru a thu hwnt. Treuliodd beth amser yn creu cysylltiadau â chorau dramor a chrëwyd partneriaethau rhwng nifer o’r corau Cymreig a rhai yn Ewrop, yn enwedig yr Almaen. Rhyddhawyd recordiadau o’r corau ynghyd ag ambell artist gwadd, megis y gantores Leah Owen yn canu’r garol ‘Ganwyd Iesu’, a ddaeth yn boblogaidd iawn yn yr 1980au.

Ym myd cerdd dant y gwnaeth ei chyfraniad pennaf a hynny fel beirniad, cyfeilydd a sylwebydd ar deledu a radio. Mae’n adnabyddus hefyd fel cyfansoddwr ceinciau megis Ceinciau’r Dyffryn a Mwy (Cymdeithas Cerdd Dant, 2011). Bu’n weithgar gyda’r Gymdeithas Gerdd Dant fel cadeirydd, aelod o’r pwyllgor gwaith a golygydd cerdd cylchgrawn y Gymdeithas, Allwedd y Tannau.

Sioned Webb



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.