Williams, Sioned (g.1953)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Prif delynores Cerddorfa Symffoni’r BBC (Llundain, er 1990), unawdydd ac un a fu’n amlwg ym maes ymchwil cerddoregol i hanes a repertoire y delyn yng Nghymru a’r tu hwnt. Fe’i ganed ym mhentref Mancot, dwyrain Sir y Fflint. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Glanrafon ac Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug. Bu’n fyfyrwraig i Elinor Bennett yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru rhwng 1971 ac 1974, ac yna i Renata Scheffel-Stein ac Osian Ellis yn yr Academi Gerdd Frenhinol rhwng 1974 ac 1976, lle sicrhaodd gymhwyster ôl-radd ym maes perfformio.

Ar drothwy ei gyrfa broffesiynol ymaelododd â rhai o ensemblau siambr newydd y cyfnod, gan gynnwys Endymion, Gemini a Spectrum, yn ogystal â’i thriawd Nimrod Harp Trio, a bu’n gweithio fel prif delynores gyda’r London Sinfonietta a Cherddorfa’r Philharmonia. Sicrhaodd fri rhyngwladol fel unawdydd wedi ennill cystadlaethau’r ISM a CAG Efrog Newydd, gan berfformio rhai gweithiau am y tro cyntaf erioed. Bu’n cydweithio gyda chorau fel The BBC Singers, The Sixteen, The Holst Singers a chorau eglwysi cadeiriol San Steffan a St Paul.

Llwyddodd i ehangu repertoire unawdol trwy ailgyflwyno darnau anghofiedig a thrwy gyfrwng gweithiau comisiwn (yn eu plith rai gan Michael Finnissy, Gareth Glyn, Paul Patterson, John Tavener ac yn y blaen) a gweithiau arloesol a heriol gan Amir Sadeghi Konjani, Dominic Murcott a Graham Fitkin (concerto i’r delyn MIDI o wneuthuriad cwmni Camac). Trwy gydol ei gyrfa gweithiodd gyda rhai o arweinyddion amlycaf y byd cerdd, gan gynnwys Jiøí Bìlohlávek, Pierre Boulez, Andrew Davis a Leonard Slatkin, ynghyd â’r cyfansoddwyr John Adams, Harrison Birtwistle, John Cage, Elliott Carter, Sofia Gubaidulina, Peter Maxwell Davies, Jonathan Harvey, Oliver Knussen, Michael Tippett a Mark Anthony Turnage.

Er iddi dreulio rhan sylweddol o’i gyrfa yn Lloegr, cyfrannodd at fyd y delyn yng Nghymru trwy gyfrwng ei hymchwil i waith a chasgliadau John Parry (Parry Ddall; Rhiwabon), o’r 18g. a John Thomas (Pencerdd Gwalia) o’r 19g. Lluniodd drawsysgrif (ynghyd â nodiadau) o’r Four New Lessons for Harp (sef y pedair Sonata gyflawn allan o gasgliad John Parry a gyhoeddwyd yn 1761), a recordiodd drawsdoriad o weithiau amrywiol gan Parry a Thomas, a’u poblogeiddio ymhlith caredigion byd y delyn yn rhyngwladol.

Cyflwynodd ei hymchwil hefyd i gynulleidfaoedd ledled Ynysoedd Prydain trwy gyfrwng darlith-gyngherddau, er enghraifft The harp in Wales - an unbroken tradition, and a new outlook; Blind John Parry - Master of High Baroque; John Thomas - Harpist to the Queen (Victoria); a Benjamin Britten - his harp legacy. Derbyniodd ysgoloriaethau a chymorth gan nifer o gyrff cerddorol a diwylliannol ym Mhrydain, gan gynnwys The Countess of Munster Musical Trust, The Boise & Mendelssohn Musical Foundation a Chyngor Celfyddydau Prydain. Derbyniodd Gymrodoriaethau (er anrhydedd) gan yr Academi Gerdd Frenhinol, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Choleg Cerdd a Dawns, Trinity Laban (Llundain), am ei chyfraniad i gerddoriaeth. Hi oedd y Gymraes gyntaf ar fwrdd cyfarwyddwyr Cyngres Telyn y Byd (1999) a bu’n llywydd Cymdeithas Telyn y Deyrnas Unedig (2007). Enillodd barch ac edmygedd fel athrawes a hyfforddwraig, a sefydlodd gwrs Astudiaethau Proffesiynol ar gyfer telynorion, y cyntaf o’i fath ym Mhrydain.

Wyn Thomas

Disgyddiaeth

  • Harp Music by John Parry (Meridian E45002, 1981)
  • Harp Music by John Thomas (Meridian E4577066, 1983)
  • A Ceremony of Carols gan Benjamin Britten (Hyperion CDA66220, 1986)
  • Land of Heart’s Desire (Hyperion CDA66988, 1997)
  • Danse Sacrée et Profane gan Debussy (Chandos 10717, 2012)

Llyfryddiaeth

  • Sioned Williams (gol.) Four New Lessons for Harp by John Parry (Piasco, 1982)
  • ———, Spiders by Paul Patterson (Llundain, 1985)
  • ———, Wessex Graves by Michael Berkeley (Rhydychen, 1986)
  • ———, Suite BWV 1006a by J. S. Bach (Rhydychen, 1986)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.