Wyn, Fflur (g.1981)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y soprano Fflur Wyn yn Sir Gaerfyrddin. Amlygwyd ei diddordeb mewn cerddoriaeth yn gynnar yn ei phlentyndod, gyda’r eisteddfod a’r capel yn ddylanwadau amlwg arni, a daeth yn aelod o Gwmni Opera Ieuenctid Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Derbyniodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera cyn astudio gyda Beatrice Unsworth a Clara Taylor yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain, lle graddiodd gyda BMus (Hons) Dip. RAM yn 2004. Fe’i hetholwyd yn Aelod Cysylltiol o’r Academi (ARAM) yn sgil ei chyfraniad sylweddol i gerddoriaeth hyd yma. Mae eisoes wedi ennill llu o wobrau gan gynnwys Ysgoloriaeth Bryn Terfel (2000), Bwrsari Kathleen Ferrier (2001), ynghyd â gwobr gyntaf (a gwobr y gynulleidfa) yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Handel (2005). Cyrhaeddodd rownd derfynol Cystadleuaeth i Gantorion Cymreig yn 2004 a 2012.

Wedi manteisio ar y profiad o berfformio ar lwyfannau eisteddfodol yn ystod ei hieuenctid, canodd gyda Bryn Terfel a Chôr Rhuthun yn sioe gerdd Atgof y Sêr gan Robat Arwyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych yn 2001. Mae bellach yn adnabyddus ar brif lwyfannau cyngerdd ac opera Prydain, gyda rhai o’i pherfformiadau cyngerdd diweddar yn cynnwys dehongliad o ariâu cyngerdd Mozart gyda cherddorfa Aurora yn neuadd gyngerdd King’s Place, Llundain, yn Ionawr 2011. Yn Ebrill 2015 perfformiodd raglen o ganeuon o dan ddylanwad cerddoriaeth werin a thraddodiadol yn St John’s Smith Square, Llundain. Canodd mewn cynhyrchiad o’r Dioddefaint yn ôl Sant Mathew gan J. S. Bach gyda Cherddorfa Oes yr Oleuedigaeth a fu ar daith yn ystod 2015.

Ym myd opera, a chydag Opera Cenedlaethol Cymru, perfformiodd rannau yn Jephtha ac Orlando gan Handel ynghyd â Guillaume Tell gan Rossini; cyfrannodd i gynhyrchiad o’r Ffliwt Hud gan Opera North, ac opera Michael Berkeley, Jane Eyre, gyda Music Theatre Wales. Mae rhai o’i pherfformiadau diweddaraf yn cynnwys prif rolau mewn dau o gynyrchiadau Opera Holland Park: Lakmé gan Delibes (2015) a’r opera gyfoes i deulu, Alice’s Adventures in Wonderland, gan Will Todd (2013-5). Wrth drafod ei pherfformiad yn Lakmé, dywed Richard Fairman fod ‘Fflur Wyn yn berchen ar ansawdd pur a chain yn ei llais [...] a gall alw ar ddigon o gryfder lleisiol i lenwi’r theatr led-awyr-agored’. Mewn adolygiad o Alice, nododd Peter Reed fod Fflur Wyn wedi ‘llwyddo i swyno trwy bortreadu cyfuniad Alice o ddiniweidrwydd a doethineb’.

Tristian Evans

Disgyddiaeth

  • Alice (Signum SIGCD420, 2015)

Llyfryddiaeth

  • Peter Reed, ‘Alice’s Adventures in Wonderland’, Opera Magazine (Hydref, 2013), 1335-6
  • Alun Gibbard, ‘Byw ym myd hud a lledrith Alice’, Golwg, 27/5 (23 Gorffennaf 2015), 20-1
  • Alun Guy, Cantorion o Fri: Ar Lwyfan Cymru (Llandysul, 2004)
  • Richard Fairman, ‘Lakmé, Opera Holland Park, London - review’, Financial Times (12 Gorffennaf 2015)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.