Y Mabinogi

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn ddeunaw oed, caiff byd Lleu ei chwalu gyda’r newyddion ei fod wedi ei fabwysiadu. Ar yr un diwrnod, mae ei ffrind Rhiannon yn amau ei bod yn feichiog, ac mae Dan, sy’n byw yng nghysgod ei frawd mawr, yr un mor chwit chwat ag erioed.

Er gwaethaf eu problemau personol mae’r tri yn dod at ei gilydd ar ben-blwydd Lleu, ac yn cychwyn ar anturiaeth mewn cwch bysgota fychan. Ymhen ychydig maent yn gweld rhyw newid yn y dwr, ac maent yn sylweddoli eu bod, ar noswyl Gŵyl Fai, wedi dod o hyd i borth aur y Byd Arall, sydd i’w weld yn disgleirio ymhell o dan y don.

A hithau yn ferch annibynnol a phenstiff, dydy Rhiannon ddim yn meddwl ddwywaith cyn plymio i’r môr mawr, a dydy’r ddau arall ddim yn hir yn ei dilyn. Fel y maent yn plymio yn is ac yn is i’r dyfnderoedd ac yn nesàu at y porth, fe gânt eu cludo ganrifoedd yn ôl i fyd anhygoel y Mabinogi.

Ond mae gan Rhiannon, Manawydan a Lleu Llaw Gyffes eu problemau Canol Oesol eu hunain. Mae Rhiannon yn cael ei gorfodi i briodi rhywun nad yw’n ei garu, mae Manawydan yn ceisio gwneud iawn am gynllwynio mileinig brawd byrbwyll ac mae Lleu yn ceisio dygymod â'r ffaith i’w fam ei wrthod fel baban.

Wrth geisio goresgyn y problemau hyn rhaid i’r cymeriadau wynebu’r gwrthdaro rhwng ffawd, dewis personol a hud a lledrith.

Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: Mabinogi, Y

Teitl Amgen: Otherworld

Blwyddyn: 2003

Hyd y Ffilm: 90 munud

Cyfarwyddwr: Derek W. Hayes (a Marc Evans (golygfeydd byw))

Sgript gan: Martin Lamb / Penelope Middlebow

Addasiad o: chwedlau’r Mabinogi

Cynhyrchydd: Naomi Jones

Cwmnïau Cynhyrchu: Cartwn Cymru / S4C Rhyngwladol / Cyngor Celfyddydau Cymru / British Screen Productions / BSkyB

Genre: Addasiad, Animeiddio, Antur, Ffantasi

Cast a Chriw

Prif Gast

  • Daniel Evans (Dan)
  • Jenny Livsey (Rhiannon)
  • Matthew Rhys (Lleu)
  • Sue Jones-Davies (Siân)
  • Ioan Gruffydd (Bendigeidfran)

Cast Cefnogol

  • Lisa Palfrey – Arianrhod
  • Philip Madoc – Gwydion
  • Paul McGann – Matholwch

Gellir gweld rhestr lawn ar Gronfa Ddata’r BFI

Cerddoriaeth

  • John Cale

Sain

  • Peter Jeffreys / Ian Banks

Golygu

  • Williams Oswald

Cydnabyddiaethau Eraill

Manylion Technegol

Tystysgrif Ffilm: 12A

Fformat Saethu: 35mm

Lliw: Lliw

Gwlad: Cymru

Iaith Wreiddiol: Cymraeg (mae fersiwn Saesneg hefyd)

Lleoliadau Arddangos: Taith o sinemâu yng Nghymru yn 2003 : UGC Caerdydd a Casnewydd, a Cineworld Bryste o 27/06/03

Gwyl y Mabinogi, Gerddi Middleton

  • 29/07/03 – München Fantasy Filmfest, yr Almaen
  • 17/08/03 – Hamburg Fantasy Filmfest, yr Almaen
  • 05/05/04 – Trebon Film Festival, y Weriniaeth Tsiec
  • 29/10/04 – Waterloo Festival for Animated Cinema, Waterloo, Ontario (Canada)

Manylion Atodol

Llyfrau

Gwefannau

Adolygiadau

  • Osmond, Andrew. Sight and Sound (UK) Medi 2003, Vol. 13,

Erthyglau

  • Lamb, M., Middleboe, P. ‘Addasu y Mabinogi yn ffilm animeiddiedig’. Yn Chwileniwm, 139-156 (2002, Gwasg Prifysgol Cymru)

Marchnata

Gweler gwefan swyddogol Y Mabinogi



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.