Ymdeithgan ac Ymdeithganau

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mae ymdeithganu, boed yn angladdol, araf, yn gyflym neu’n ddwbl-gyflym, yn rhan o atgofion a phrofiadau nifer fawr o bobl ers eu plentyndod. Unwaith y daeth yr ymdeithgan yn rhan o gerddoriaeth gelfyddydol yn yr 17g. ni phetrusai cyfansoddwyr mawr Ewrop cyn ei chynnwys mewn opera, symffoni a sonata (gw. Ffurfiau Offerynnol). Erbyn heddiw, mae ganddi swyddogaeth mewn achlysuron o bob math, o’r teuluol i’r cenedlaethol: ceir ymdeithganau llon ar gyfer organ, band neu gerddorfa mewn dathliadau a seremonïau mor amrywiol â phriodas a choroni, a rhai lleddf i gladdu a choffáu. Mae bandiau militaraidd yn rhoi gwên ar wyneb pawb a fu’n martsio, petai dim ond yn ddychmygol, i gyfeiliant ymdeithganau adnabyddus John Philip Sousa fel ‘Semper Fidelis’ (1888), ‘Liberty Bell’(1891) a ‘Stars and Strips Forever’ (1897), tra mae ‘Colonel Bogey’ (Kenneth Alford, 1914) yn rhan annatod o’r ffilm Bridge over the River Kwai (1957) fel y mae ‘Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech’ yn rhan o Zulu (1964) a’i chysylltiadau Cymreig adnabyddus.

Gan nad oes gan Gymru, ers yr Oesoedd Canol, draddodiad militaraidd ar wahân i gyfraniad ei chatrodau i luoedd arfog Prydain Fawr, prin yw ei hymdeithganau cynhenid, er i T. J. Powell (1897–1965), a adwaenid fel ‘Sousa Cymru’, ysgrifennu nifer ar gyfer y band pres: ‘Castell Coch’ yw’r fwyaf adnabyddus ohonynt. Ymhlith ymdeithganau y gellid eu hystyried yn rhai cenedlaethol, yn ogystal â ‘Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech’ y mae ‘Ymdaith Capten Morgan’ a genir gan unawdydd yn ystod defod cadeirio’r Eisteddfod Genedlaethol. Gwelodd y rhain olau dydd am y tro cyntaf yng nghasgliad Edward Jones (Bardd y Brenin), Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784 a 1794), a chaiff ‘Ymadawiad y Brenin’ a gyhoeddwyd gyntaf yng nghasgliad John Parry, British Harmony (1781) ei chanu ar yr organ wrth i’r Orsedd ymdeithio o gefn y Pafiliwn i’r llwyfan ar gyfer y prif seremonïau. Mae elfennau ymdeithgan i’w cael hefyd yn arwyddgan Urdd Gobaith Cymru, ‘Dathlwn glod ein cyn-dadau’, y geiriau gan Llew Tegid a’r alaw yn drefniant gan J. Lloyd Williams o ‘Ymdaith Capten Llwyd’.

Gareth Williams



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.