Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "'Calon Lân'"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 10 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
+
{{DEFAULTSORT:Calon Lân}}__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Un o [[emynau]] mwyaf adnabyddus Cymru, er nad ydyw, yn wahanol i donau fel [[Cwm Rhondda]], ‘Hyfrydol’ a ‘Llanfair’, yn gyfarwydd y tu allan i Gymru. Awdur y geiriau yw Gwyrosydd (Daniel James; 1848–1920), a aned yn Nhre-boeth, Abertawe. Bu’n gweithio yn y diwydiant tunplat cyn symud draw i’r maes glo, a glöwr yn Aberpennar ydoedd pan gyhoeddodd ‘Calon Lân’ yn ei gasgliad o farddoniaeth, ''Caniadau'', yn 1892. Ymddangosodd y geiriau a’r dôn gyfarwydd gyda’i gilydd am y tro cyntaf yn 1899 cyn dod yn boblogaidd iawn yn ystod Diwygiad 1904–5. Gŵr arall o gylch Abertawe a gyfansoddodd y dôn ‘Calon Lân’, sef John Hughes (1872–1914) a oedd yn wreiddiol o Benbryn ger Aberteifi ond a symudodd yn ddwyflwydd oed i Landŵr (mae’n un o sawl John Hughes yn ein hemynyddiaeth). Daeth yr emyn yn ffefryn gan dorfeydd rygbi, ac fe’i canwyd ar gryno-ddisg gyntaf (2012) Only Boys Aloud, côr o 140 o fechgyn ifanc o gymoedd de Cymru a ffurfiwyd gan [[Tim Rhys-Evans]] yn 2010.
+
Un o [[Emyn-donau | emynau]] mwyaf adnabyddus Cymru, er nad ydyw, yn wahanol i donau fel [['Cwm Rhondda']], ‘Hyfrydol’ a ‘Llanfair’, yn gyfarwydd y tu allan i Gymru. Awdur y geiriau yw Gwyrosydd (Daniel James; 1848–1920), a aned yn Nhre-boeth, Abertawe. Bu’n gweithio yn y diwydiant tunplat cyn symud draw i’r maes glo, a glöwr yn Aberpennar ydoedd pan gyhoeddodd ‘Calon Lân’ yn ei gasgliad o farddoniaeth, ''Caniadau'', yn 1892. Ymddangosodd y geiriau a’r dôn gyfarwydd gyda’i gilydd am y tro cyntaf yn 1899 cyn dod yn boblogaidd iawn yn ystod Diwygiad 1904–5. [[Delwedd:Calon Lân.png|thumb|Cytgan yr emyn 'Calon Lân'.]] Gŵr arall o gylch Abertawe a gyfansoddodd y dôn ‘Calon Lân’, sef John Hughes (1872–1914) a oedd yn wreiddiol o Benbryn ger Aberteifi ond a symudodd yn ddwyflwydd oed i Landŵr (mae’n un o sawl John Hughes yn ein hemynyddiaeth). Daeth yr emyn yn ffefryn gan dorfeydd rygbi, ac fe’i canwyd ar gryno-ddisg gyntaf (2012) Only Boys Aloud, côr o 140 o fechgyn ifanc o gymoedd de Cymru a ffurfiwyd gan [[Rhys-Evans, Tim (g.1972) | Tim Rhys-Evans]] yn 2010.
  
Cenir geiriau ‘Calon Lân’ yr un mor aml ar y dôn gynulleidfaol enwog ‘Blaenwern’ a gyfansoddwyd yng ngwres y Diwygiad gan William Penfro Rowlands, [[arweinydd]] Côr y Tabernacl, Treforys, o 1892 hyd 1919. Clywir canu’r geiriau hefyd ar yr emyn dôn ‘Converse’, o eiddo’r Americanwr C. C. Converse, sydd yn fwy cyfarwydd fel y dôn i’r emyn Saesneg, ‘What a friend we have in Jesus’.
+
Cenir geiriau ‘Calon Lân’ yr un mor aml ar y dôn gynulleidfaol enwog ‘Blaenwern’ a gyfansoddwyd yng ngwres y Diwygiad gan William Penfro Rowlands, [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinydd]] Côr y Tabernacl, Treforys, o 1892 hyd 1919. Clywir canu’r geiriau hefyd ar yr emyn dôn ‘Converse’, o eiddo’r Americanwr C. C. Converse, sydd yn fwy cyfarwydd fel y dôn i’r emyn Saesneg, ‘What a friend we have in Jesus’.
  
 
'''Gareth Williams'''
 
'''Gareth Williams'''
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 14:28, 25 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o emynau mwyaf adnabyddus Cymru, er nad ydyw, yn wahanol i donau fel 'Cwm Rhondda', ‘Hyfrydol’ a ‘Llanfair’, yn gyfarwydd y tu allan i Gymru. Awdur y geiriau yw Gwyrosydd (Daniel James; 1848–1920), a aned yn Nhre-boeth, Abertawe. Bu’n gweithio yn y diwydiant tunplat cyn symud draw i’r maes glo, a glöwr yn Aberpennar ydoedd pan gyhoeddodd ‘Calon Lân’ yn ei gasgliad o farddoniaeth, Caniadau, yn 1892. Ymddangosodd y geiriau a’r dôn gyfarwydd gyda’i gilydd am y tro cyntaf yn 1899 cyn dod yn boblogaidd iawn yn ystod Diwygiad 1904–5.
Cytgan yr emyn 'Calon Lân'.
Gŵr arall o gylch Abertawe a gyfansoddodd y dôn ‘Calon Lân’, sef John Hughes (1872–1914) a oedd yn wreiddiol o Benbryn ger Aberteifi ond a symudodd yn ddwyflwydd oed i Landŵr (mae’n un o sawl John Hughes yn ein hemynyddiaeth). Daeth yr emyn yn ffefryn gan dorfeydd rygbi, ac fe’i canwyd ar gryno-ddisg gyntaf (2012) Only Boys Aloud, côr o 140 o fechgyn ifanc o gymoedd de Cymru a ffurfiwyd gan Tim Rhys-Evans yn 2010.

Cenir geiriau ‘Calon Lân’ yr un mor aml ar y dôn gynulleidfaol enwog ‘Blaenwern’ a gyfansoddwyd yng ngwres y Diwygiad gan William Penfro Rowlands, arweinydd Côr y Tabernacl, Treforys, o 1892 hyd 1919. Clywir canu’r geiriau hefyd ar yr emyn dôn ‘Converse’, o eiddo’r Americanwr C. C. Converse, sydd yn fwy cyfarwydd fel y dôn i’r emyn Saesneg, ‘What a friend we have in Jesus’.

Gareth Williams



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.