'Cwm Rhondda'

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Hwyrach mai ‘Cwm Rhondda’ (‘Bread of Heaven’) yw’r enwocaf a’r fwyaf adnabyddus o holl emyn-donau Cymru.

Fe’i cyfansoddwyd gan John Hughes (1873–1932), brodor o Ddowlais a symudodd yn flwydd oed i Lanilltud Faerdref ger Pontypridd lle bu am weddill ei oes. Yn ddeuddeg oed dechreuodd weithio fel dryswr (y bachgen a oedd yn agor a chau drysau’r pwll) yng nglofa Celynnog, a chodi i fod yn glerc ym mhwll y Great Western yn Nhrehopcyn ger Pontypridd. Bu’n arweinydd y gân yn ei gapel yn Llanilltud Faerdref, a gwnaeth enw iddo’i hun yn lleol fel cyfansoddwr ac arweinydd corawl.

Cyfansoddodd John Hughes dros ddeg ar hugain o emyn-donau, er mai dim ond ‘Cwm Rhondda’ a gydiodd. Erys ansicrwydd ynglŷn â’r union flwyddyn y’i hysgrifennwyd: cred rhai mai yn 1905, yng ngwres Diwygiad 1904–5, y’i lluniwyd. Nid yw hynny’n amhosibl er mai’r gred gyffredin erbyn hyn yw mai yng nghymanfa ganu flynyddol Capel Rhondda, Trehopcyn, y’i canwyd yn gynulleidfaol am y tro cyntaf, ar ddydd Sul, 1 Tachwedd 1907, efallai ar achlysur agor organ newydd y capel gan T. D. Edwards, awdur yr emyn-dôn ‘Rhydygroes’. ‘Rhondda’ oedd yr enw a roddodd John Hughes ar ei dôn yn wreiddiol, ar ôl y capel y’i hysgrifennwyd hi ar ei gyfer, ond fe’i newidiodd i ‘Cwm Rhondda’ wedi i’r cerddor Harry Evans, yntau’n frodor o Ddowlais, dynnu ei sylw at y ffaith fod tôn o’r enw ‘Rhondda’ eisoes mewn bod (o waith M. O. Jones, Treherbert), ac o dan yr enw newydd y daeth tôn Hughes yn fyd-enwog.

'Cytgan yr emyn-dôn ‘Cwm Rhondda’.

Mae copi o’r dôn yn llawysgrif y cyfansoddwr yn dangos mai yng nghyweirnod A fwyaf y’i hysgrifennwyd ac yn y cywair hwnnw yr ymddangosodd mewn print yn y blynyddoedd cynnar, ond yn Ab fwyaf y’i cenir heddiw, ar eiriau Ann Griffiths ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’. Myn rhai fod cerddediad militaraidd y dôn a’r bas esgynnol ar wrthdro olaf cord y seithfed ar y llywydd yn y bumed linell, yn ei gwneud hi’n anaddas ar gyfer geiriau cyfriniol Ann, a bod emyn William Williams, Pantycelyn, ‘Arglwydd, arwain trwy’r anialwch’, yn gweddu’n well iddi (gw. Luff 1990, 223–4). Trosiad y Parchedig Peter Williams, a oedd yn gyfoeswr i Bantycelyn ond heb fod yn perthyn iddo, sef ‘Guide me O thou Great Jehovah’ (neu ‘Redeemer’), a ddaeth â’r dôn a’r geiriau i sylw’r byd. Daethpwyd i’w chanu ar bron pob achlysur cyhoeddus yng Nghymru, gan filwyr o Gymru yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf a chefnogwyr rygbi adeg gemau rhyngwladol.

Parodd poblogrwydd anghyffredin y dôn a’i chysylltiadau â’r maes chwarae i olygyddion llyfrau emynau’r prif enwadau, ac eithrio’r Bedyddwyr, enwad y cyfansoddwr ei hun, ei gwrthod (er iddi gael ei chynnwys yn Perlau Moliant yr Undodiaid yn 1928), ac nid tan adeg cyhoeddi Caniedydd yr Ifanc (1980), Atodiad Llyfr Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd (1985) ac yna Caneuon Ffydd (2001) y rhoddwyd iddi ei lle haeddiannol. Mae trefniant TTBB Arwel Hughes yn ffefryn gan gorau meibion. Mae plac coffa i John Hughes i’w weld ar y tŷ yn Nhon-teg, Llanilltud Faerdref, lle’r oedd yn byw pan gyfansoddodd ‘Cwm Rhondda’, a cheir un hefyd yng Nghapel Rhondda, Trehopcyn, lle y’i canwyd am y tro cyntaf.

Gareth Williams

Llyfryddiaeth

  • Alan Luff, Welsh Hymns and Their Tunes (Llundain, 1990)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.