'Hen Wlad fy Nhadau'

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:16, 26 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Anthem genedlaethol Cymru. Ysgrifennwyd y geiriau yn 1856 gan Evan James (Ieuan ab Iago; 1809–78), gwehydd a bardd poblogaidd o Bontypridd, a lluniwyd y gerddoriaeth gan ei fab, James James (Iago ab Ieuan; 1833–1902), a oedd yn delynor.

Ceir gwahanol fersiynau o stori cyfansoddi’r gân, gyda rhai’n mynnu mai’r geiriau a ddaeth yn gyntaf, a rhai’n dweud mai llunio’r geiriau a wnaeth y tad ateb alaw yr oedd ei fab wedi ei chyfansoddi’n barod. Mae’n ymddangos, fodd bynnag, mai lunio’r geiriau a wnaeth Evan James mewn ateb i wahoddiad a dderbyniasai gan ei frawd i ymuno ag ef yn yr Unol Daleithiau, lle’r oedd cynifer o Gymry’r cyfnod yn chwilio am well byd, a bod y gân yn ddatganiad fod gwlad genedigaeth y bardd (sef ‘gwlad ei dadau’) yn ddigon da iddo ef. Rhoddwyd iddi yr enw ‘Glan Rhondda’, gan mai ar lannau’r afon, yn ôl traddodiad, y daeth yr alaw i feddwl y cyfansoddwr.

Mae’n debyg fod yr alaw wedi ei chanu’n gyhoeddus am y tro cyntaf yng nghapel Tabor, Maesteg, yn 1856; daeth yn adnabyddus ym Morgannwg, ac argraffwyd y geiriau ar daflenni baled. Cynhwyswyd yr alaw’r geiriau (heb eu priodoli i Evan a James James) mewn casgliad gan Llewelyn Alaw (Thomas David Llewelyn; 1828–79) a wobrwywyd yn Eisteddfod Llangollen yn 1858, ac fe’u cynhwyswyd, eto yn ddienw, gan feirniad y gystadleuaeth, John Owen (Owain Alaw; 1821–83) yn ei gasgliad cyntaf o Gems of Welsh Melody a gyhoeddwyd gan Isaac Clarke yn Rhuthun yn 1860.

Owain Alaw oedd yn gyfrifol am drefnu fersiwn gwreiddiol James James a rhoi i’r gân y naws emynyddol a’i gwnaeth yn gân dorfol boblogaidd: mae copïau llawysgrif cynnar yn awgrymu mai alaw ddawns ysgafn yn amseriad cyfansawdd 6/8 oedd ei ffurf wreiddiol gan James James, a oedd yn delynor poblogaidd a chwaraeai mewn tafarndai yn ei ardal. O fewn ychydig flynyddoedd, daeth y gân yn adnabyddus mewn eisteddfodau, a’i defnyddio’n gân gystadleuol gan gorau yn ogystal ag yn gân i’w chanu i gloi defodau a chyngherddau. Ceir tystiolaeth er enghraifft iddi gael ei chanu fwy nag unwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, ac fe’i poblogeiddiwyd gan Eos Morlais (Robert Rees) wedi iddo ei chanu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1874.

Anthem Genedlaethol Cymru, ‘Hen Wlad fy Nhadau’.

Yn 1884 ceisiodd Frederick Atkins, organydd yng Nghaerdydd, danseilio gwreiddioldeb y gân drwy hawlio ei bod yn addasiad o’r gân draddodiadol o’r Alban, Rosin the Beau, ond ni chafodd lawer o gefnogaeth i’w haeriad. Derbyniodd ‘Hen Wlad fy Nhadau’ sêl cymeradwyaeth y frenhiniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1887 wrth i Dywysog Cymru sefyll pan ganwyd hi. O hynny allan fe’i hystyrid yn gynyddol yn anthem genedlaethol i’r Cymry, ac fe’i defnyddiwyd fwyfwy ar achlysuron cyhoeddus. Fe’i canwyd am y tro cyntaf mewn gêm rygbi ryngwladol ar achlysur gornest fawr Cymru yn erbyn Seland Newydd yn 1905. Lluniwyd geiriau Llydaweg i’r alaw gan W. Jenkyn Jones ac fe’i derbyniwyd yn anthem genedlaethol i Lydaw hefyd.

Mae ei phoblogrwydd mewn gemau rygbi rhyngwladol yn yr 20g. wedi sicrhau ei bod yn adnabyddus fel anthem ar draws y byd, ac fe’i cynhwysir yn rheolaidd mewn casgliadau printiedig o anthemau cenedlaethol y gwledydd. Mae ei symudiad llyfn a’r uchafbwyntiau a geir yn y gytgan yn ei gwneud yn gân addas tu hwnt i dorfeydd, ac fe’i hystyrir yn gyffredinol yn un o’r goreuon o blith anthemau cenedlaethol.

Rhidian Griffiths

Llyfryddiaeth

  • Gwyn Griffiths, Gwlad fy Nhadau (Llanrwst, 2006)
  • Meredydd Evans, ‘Pwy oedd “Orpheus” Eisteddfod Llangollen 1858?’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 5 (2002), 59–64



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.