Ôl-drefedigaethedd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Maes eang sy’n berthnasol i nifer o ddisgyblaethau academaidd yw astudiaethau ôl-drefedigaethol. Yn fras, mae’n ymwneud ag astudio effeithiau trefedigaethu ac ymerodraethau ar gymunedau trefedigaethedig. Mae ôl-drefedigaethedd yn aml yn edrych ar y berthynas rym rhwng yr hyn a elwir yn ‘fetropol’, sef y man lle crynhoir grym economaidd, gwleidyddol a diwylliannol yr ymerodraeth, a’r ‘ymylon’ neu’r ‘cyrion’, sef yn fras y mannau hynny sydd yn dioddef cael eu hecsbloetio yn economaidd gan y metropol. Yn draddodiadol, canolbwyntir ar ymerodraethau Ewropeaidd y 15-20g. a’u heffaith ar gymunedau ac ardaloedd ar gyfandiroedd America, Affrica ac Asia, ond nid ydyw’r maes wedi ei gyfyngu i hyn. Nodweddid y berthynas rhwng y metropol a’r cyrion gan drais, goruchafiaeth a hiliaeth, ac fe ddefnyddid yr hyn a elwir yn ddisgwrs trefedigaethol i roi cyfiawnhad moesol i’r berthynas hon. Defnyddid y disgwrs i bwysleisio israddoldeb pobl y cyrion, a goruchafiaeth ddiwylliannol, gymdeithasol a moesol y metropol, gan ddarlunio’r berthynas drefedigaethol sydd rhyngddynt fel un gymwynasgar, gyda’r metropol yn rhannu rhinweddau ei diwylliant datblygedig gyda’r cyrion cyntefig.

Ym maes beirniadaeth lenyddol, mae beirniaid ôl-drefedigaethol yn archwilio effeithiau’r profiad trefedigaethol ar gynnyrch llenyddol, yn arbennig effaith y disgwrs trefedigaethol. Ymddangosodd y term fel ffordd i ddisgrifio ac astudio yr hyn a elwir yn llenyddiaeth ôl-drefedigaethol, sef llenyddiaeth yr ardaloedd a ddaeth yn annibynnol o’r ymerodraethau Ewropeaidd wedi’r Ail Ryfel B yd. Er y gellid olrhain seiliau’r maes yn ôl i symudiadau Négritude y 1930au, neu ddatblygiad maes ‘llenyddiaith y Gymanwlad’ yn y prifysgolion Ewropeaidd, a gweithiau fel Orientalism gan Edward Said (1978), datblygodd y maes o ddifri yn sgil cyhoeddi The Empire Writes Back gan Bill Ashcroft, Gareth Griffiths a Helen Tiffin yn 1989, a Culture and Imperialism gan Edward Said yn 1993. Daeth ôl-drefedigaethedd i gynnwys ffordd o ddarllen testunau sy’n cynnig darlleniadau newydd o waith llenyddol ‘clasurol’ yr ymerodraethau eu hunain, ac i ddadansoddi’r disgwrs trefedigaethol. Mae’n cynnig ffordd o drafod dewisiadau ieithyddol llenorion mewn cymunedau sy’n amlieithog yn sgil trefedigaethu, a lle ceir anghyfartaledd rhwng statws ieithoedd brodorol a threfedigaethol. Caiff ei ddefnyddio hefyd fel fframwaith i ymdrin â llenyddiaeth gan gymunedau o aneddfeydd gwladfawyr [settler colonies], ac i astudio llenyddiaeth gwledydd fel Cymru, Iwerddon a gwledydd Ewropeaidd eraill sydd â hanes o drefedigaethedd ond nad ydynt yn ffitio’r un patrwm â threfedigaethau ymerodraethau’r 15-20g. Y mae ardaloedd fel Cymru ac Iwerddon wedi bod yn destun anghytuno, fodd bynnag, gyda rhai yn dadlau bod eu cynnwys o fewn maes ôl-drefedigaethedd yn gor-ehangu’r maes, gan arwain at gynnig cymariaethau annilys. Dadleuir bod cynnwys llenyddiaeth gan bobl o dras Ewropeaidd yn diystyru pwysigrwydd hierarchaeth hiliol o fewn y disgwrs trefedigaethol.

Mae’r term ‘ôl-drefedigaethol’ yn awgrymu astudiaeth o gyfnod penodol, ac mae tuedd i’w ystyried fel astudiaeth o gyfnod llinol, cronolegol sy’n ymestyn o’r cyfnod trefedigaethol hyd at y frwydr am annibyniaeth, ac yna tuag at gyfnod o ôl-drefedigaethedd. Ond mae’r cysyniad o neo-drefedigaethedd, a gwledydd fel Cymru nad ydynt yn ffitio’r model llinol hwn, wedi ymestyn ffiniau’r diffiniad. Bathwyd y term neo-drefedigaethedd gan Kwame Nkrumah (1909-1972) er mwyn disgrifio defnydd gwledydd dominyddol o’r farchnad rydd, globaleiddio, cyfalafiaeth ac ymerodraethedd diwylliannol i ymyrryd yn fewnol â gwledydd llai datblygedig er budd y gwledydd datblygedig, a hynny wedi diwedd ymerodraeth ffurfiol. I’r perwyl hwn, yn Saesneg, gwahaniaethir weithiau rhwng ‘postcolonialism’ a ‘post-colonialism’, gyda’r naill yn cyfeirio at gorff syniadaethol, a’r llall at gyfnod hanesyddol a chronolegol. Yn ei ysgrif ‘Bardd arallwlad: Dafydd ap Gwilym a theori ôl-drefedigaethol’ (2006) awgryma Dylan Foster Evans y ‘gellid efallai ddadlau o blaid defnyddio ffurf fel “oldrefedigaethol” yn y Gymraeg, er gwaethaf yr ymddangosiad chwithig’.

Beirniadaeth Lenyddol

Datblygodd beirniadaeth ôl-drefedigaethol dan ddylanwad beirniadaeth ôl-strwythurol, felly mae darlleniadau dadadeiladol o destunau yn elfen gyffredin o’r math yma o feirniadaeth. Bu meysydd seicoleg a Marcsiaeth hefyd yn ddylanwadau cryf, ac yn fwy diweddar mae ffeministiaeth ac ecofeirniadaeth wedi chwarae eu rhan hefyd. Dyma gynnig trosolwg ar rai o’r syniadau allweddol yn natblygiad y maes.

Un o’r rhai cyntaf i fynd i’r afael ag effaith y profiad trefedigaethol oedd Frantz Fanon (1925-1961). Edrychai Fanon, oedd â chefndir mewn seicoleg, yn benodol ar effaith hierarchaeth hiliol ar bobl o dras Affricanaidd yn nhrefedigaethau Ffrainc. Ganed Fanon ar Ynys Martinique, a oedd yn drefedigaeth Ffrengig ar y pryd. Ymladdodd yn Algeria a Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn mynd i Ffrainc i astudio seiciatreg, a bu’r hiliaeth a brofodd yn ystod y cyfnod hwnnw yn ddylanwad mawr ar ei waith. Cyhoeddodd Peau noire, Masques blancs [Wynebau du, mygydau gwyn] yn 1952 a Les Damnés de la Terre [Trueiniaid y ddaear] yn 1961. Roedd y cysyniad o hunan-aralliad [self-alienation] (term wedi ei fenthyg o fyd seicoleg) yn un pwysig yn ei waith wrth iddo ymdrin â sut yr oedd yr hunaniaeth ddu wedi ei thanseilio gan effaith hiliaeth a strwythurau iaith trefedigaethol i’r graddau fod pobl ddu eu hunain yn ymdrechu i fod yn ‘wyn’.

Troi i edrych ar gynnyrch llenyddol yr ymerodraethau eu hunain a wnaeth Edward Said (1935-2003) yn ei gyfrol Orientalism (1978), gan ddadansoddi’r disgwrs trefedigaethol hwnnw yr oedd rhagflaenwyr iddo fel Aimé Césaire (1913-2008) a Frantz Fanon wedi ymateb iddo yn eu gwaith. Astudiai Said berthynas y Gorllewin a’r ‘Orient’, sef y diwylliannau dwyreiniol a oedd yn cael eu trefedigaethu gan ymerodraethau Ewropeaidd. Amlinella’r broses o greu yr ‘Orient’, sef rhyw ‘Ddwyrain’ homogenaidd a dychmygol, gan Ewropeaid fel gwrthbwynt i’w Gorllewin gwareiddiedig, uwchraddol hwy. Yn ôl Said caiff yr ‘Orient’ ei greu gan ddisgwrs, sef corff o destunau llenyddol, celf, a thestunau academaidd a gynhyrchwyd gan y Gorllewin i ddisgrifio a ‘chreu’ yr ‘Orient’. Amlyga waith Said effaith disgwrs hiliol, ystrydebol ar sut y dychmygir realiti.

Mae eraill wedi amlygu’r newidiadau diwylliannol a ddaeth yn sgil gwrthdrawiadau rhwng gwahanol ddiwylliannau. Mae Homi K Bhabha (1949- ) yn un o’r rhai a ddatblygodd y syniad o gymysgrywedd (neu hybridedd). O India y daw Bhabha, ac mae ei waith mwyaf adnabyddus yn ymwneud â datblygu cysyniadau fel cymysgrywedd. Yn ei gyfrol The Location of Culture (1994), archwilia’r gofod lle mae diwylliannau yn cwrdd, gan gyfeirio astudiaethau ôl-drefedigaethol tuag at ffiniau diwylliannol, aneddfeydd gwladfawyr a sefyllfaoedd eraill lle mae diwylliannau’r trefedigaethwyr a’r trefedigaethedig yn dylanwadu ar ei gilydd, gan greu ffurfiau diwylliannol newydd.

Ffordd arall o edrych ar sut y cynrychiolir cymunedau a ddioddefodd yn sgil trefedigaeth yw trwy gysyniad yr Isradd (Subaltern), sy’n deillio o waith Antonio Gramsci (1891-1937) ar hegemoni diwylliannol, a’i effaith ar grwpiau sydd ar y cyrion. Un a ddatblygodd ei waith yw Gayatri Chakravorty Spivak (1942-), hefyd o’r India. Gan dynnu ar ffeministiaeth, dadadeiladaeth, a Marcsiaeth, mae gwaith mwyaf dylanwadol Spivak yn ymwneud â sut mae’r ‘subaltern’, sef yr is-boblogaeth nad yw’n rhan o sefydliadau diwylliannol, yn cael ei gynrychioli. Yn ei herthygl ‘Can the subaltern speak?’ (1983) mae hi’n awgrymu na all yr isradd fyth siarad a chynrychioli hi ei hun.

Llenyddiaeth ôl-drefedigaethol

Datblygodd llenyddiaeth ôl-drefedigaethol yn bennaf yn y cyfnod wedi’r ail ryfel byd, wrth i’r ymerodraethau Ewropeaidd weld cyfnod o ddirywiad sylweddol yn eu hymerodraethau, ac wrth i gyn-drefedigaethau ennill annibyniaeth. Roedd yn gyfnod a esgorodd ar ffrwythlondeb llenyddol yn y gwledydd hyn, wrth i awduron ddefnyddio llenyddiaeth i drafod effaith y profiad trefedigaethol, i’w gwestiynu, ac i geisio ailfeddiannu eu llais a’u hunaniaeth wedi cyfnod o drefedigaethu diwylliannol yn ogystal ag economaidd. Mae llawer o’r testunau hyn yn herio'r disgwrs trefedigaethol. Dyma rai o awduron amlwg y symudiad: Ngũgĩ wa Thiong'o (1949 - ) o Kenya; Chinua Achebe (1930 - 2013) a Wole Soyinka (1934 - ) o Nigeria; Naguib Mahfouz (1911 - 2006) o’r Aifft; Tayeb Salih (1928 - 2009) o Sudan; Jean Rhys (1890 – 1979) o Dominica; Salman Rushdie (1949 -) o India; a Derek Walcott (1930 – 2017) o Santa Lucia.

Mae gweithiau ôl-drefedigaethol yn cael eu cysylltu â nifer o themâu penodol, fel colled, tensiynau hiliol, iaith, ac argyfyngau yn ymwneud â hunaniaeth. Maent yn aml yn ymdrechion i ymateb i’r disgwrs trefedigaethol, ac effaith hwnnw ar hunaniaeth cymunedau ac unigolion oddi mewn iddynt. Gall hyn gynnwys gwaith llenyddol sy’n dadadeiladu ac ail-greu hunaniaethau brodorol, yn cynnig archwiliad o hunaniaethau cymysgryw, neu’n cyfleu'r profiad o ddod wyneb yn wyneb â diwylliant gorllewinol o fewn fframwaith hierarchaidd. Mae llawer o lenyddiaeth ôl-drefedigaethol hefyd yn disgrifio’r strwythurau sydd, neu a oedd yn dominyddu eu cymunedau; yn archwilio eu cymunedau eu hunain a dadansoddi sut mae nhw’n gwrthsefyll trefedigaeth, a hefyd sut maen nhw eu hunain weithiau wedi bod yn gyfrannog yn y broses. Galwodd Ngũgĩ wa Thiong'o hyn yn broses o ‘ddadgoloneiddio’r meddwl’, sef ymdrech i wrthwynebu homogeneiddio diwylliannol, a dathlu gwahaniaeth. Yn ganolog i’r ymgyrch hwn y mae dyrchafu’r ieithoedd brodorol, yn hytrach na ieithoedd Ewropeaidd imperialaidd, ac mae’n cynnwys ailddarganfod, neu ail-greu hanes coll a hunan-gynrychiolaeth ddathliadol.

Cymru

Mae’r gymhariaeth rhwng Cymru fel gwlad ôl-drefedigaethol a’r gwledydd a enillodd eu hannibyniaeth oddi wrth ymerodraethau Ewropeaidd yn yr 20g. yn un gymhleth, gan fod seiliau ‘trefedigaethol’ Cymru yn perthyn i gyfnod hanesyddol cwbl wahanol i’r un a ystyrir gan lawer fel priod faes ymchwil beirniadaeth ôl-drefedigaethol (gweler trafodaeth Chris Williams ‘Problematizing Wales’ yn Postcolonial Wales, 2005). Mae nifer o ysgolheigion, gan gynnwys yn amlycaf o bosib R.R. Davies a’i erthygl ‘Colonial Wales’ (1972), wedi olrhain ‘ôl-drefedigaethedd’ Cymreig i gyfnod y goncwest, a’r cyfnod lle gellid dadlau bod Cymru mewn perthynas drefedigaethol ffurfiol gyda Lloegr. O 1282 hyd at Ddeddfau Uno 1536 a 1543 gellid disgrifio Cymru fel rhanbarth wedi ei threfedigaethu. Wedi’r Deddfau Uno, peidiodd y berthynas rhwng Lloegr a Chymru â bod yn un o drefedigaethwr a threfedigaethedig; yn hytrach, daeth Cymru yn rhan swyddogol o’r metropol. Y mae eraill (gweler pennod Richard Wyn Jones yn Postcolonial Wales) wedi dadlau fodd bynnag nad yw diwedd trefedigaethedd ffurfiol wedi golygu diwedd y berthynas rym anghytbwys, nac ar effaith trefedigaethedd ar ddiwylliant a chymunedau, ac felly fod fframwaith beirniadaeth ôl-drefedigaethol yn parhau i fod yn ddull ffrwythlon o astudio llenyddiaeth Cymru. Tu hwnt i faes llenyddiaeth, yr oedd y meddyliwr Cymraeg J. R. Jones (1911-1970) a ysgrifennodd yn helaeth am arwahanrwydd y genedl Gymreig o’r farn nad trefedigaeth oedd Cymru, ond bod theori ôl-drefedigaethol yn parhau yn berthnasol iddi.

Mae’r hyn y gellir ei ystyried yn llenyddiaeth ôl-drefedigaethol yn y Gymraeg yn bennaf yn ymdrin mewn rhyw fodd â’r berthynas rym rhwng Cymru a Lloegr. Mae themâu yn ymwneud ag imperialaeth ddiwylliannol yn bwysig yn enwedig yng nghyswllt y frwydr iaith, a hefyd themâu yn ymwneud â cholli tir, ac ailddarganfod neu ailddehongli hanes Cymru. Ar wahân i brofiad Cymru vis-à-vis Lloegr, rhan bwysig arall o hanes Cymru yw ei hanes hi fel gwlad Ewropeaidd vis-à-vis gweddill y byd. Yn hyn o beth, mae llenyddiaeth Gymreig a grëwyd dan ddylanwad yr ymerodraeth Brydeinig yn destunau ffrwythlon ar gyfer beirniadaeth ôl-drefedigaethol. Dylanwadodd gwleidyddiaeth ôl-drefedigaethol yn gryf ar lenyddiaeth Gymreig ddiwedd yr 20g. a dechrau'r 21g. ond prin iawn fu’r gwaith ym maes beirniadaeth lenyddol ôl-drefedigaethedd mewn cyd-destun Cymreig tan ddechrau’r 21g., gyda chyhoeddi Postcolonial Wales yn 2005 yn garreg filltir bwysig. Gellid ystyried y twf a fu ym mhoblogrwydd y cywydd yn ystod yr 20g. yn enghraifft o dwf llenyddiaeth ôl-drefedigaethol, gan ddadlau bod dychwelyd at y ffurf yn fodd o ail-feddiannu hanes cynhenid yn wyneb goruchafiaeth diwylliant Eingl-Americanaidd, a bod cynnwys a themâu cerddi gan feirdd fel Gerallt Lloyd Owen yn cynnwys nifer o’r un themâu â gweithiau clasurol ôl-drefedigaethol, fel iaith, colled, hanes a hunaniaeth (gweler ysgrif Jane Aaron, ‘Bardic Anti-Colonialism’). Gwelir hefyd y berthynas rhwng disgwrs gwleidyddol y cyfnod a’r cynnyrch llenyddol: yn ei ysgrif yn Postcolonial Wales tynnai Dylan Phillips sylw at y defnydd o ieithwedd ôl-drefedigaethol gan ymgyrchwyr iaith: ‘from the description of Whitehall policy in Wales as “colonial policy”, to the ironic labelling of the secretary of state for Wales as “governor general”’, ac adlewyrchir yr ieithwedd hon yng ngwaith nifer o lenorion, Twm Morys, Iwan Llwyd ac Angharad Tomos yn eu plith.

O droi i edrych ar enghreifftiau o ddefnyddio beirniadaeth ôl-drefedigaethol o safbwynt llenyddiaeth Gymraeg, defnyddiwyd fframwaith cymysgrywedd Bhabha Angharad Naylor a Dylan Foster Evans i archwilio gwaith Dafydd ap Gwilym mewn cyd-destun ôl-drefedigaethol. Dadleuodd Jane Aaron fod modd disgrifio barddoniaeth Gymreig o gyfnod Canu Heledd a chanu Gruffudd ab yr Ynad Goch fel enghreifftiau o farddoniaeth sy’n ymateb i brofiad trefedigaethedd, a bod barddoniaeth Gymreig yn cynnwys enghreifftiau o ganu gwrthdrefedigaethol o gyfnod y Cynfeirdd hyd y presennol. Cymhwyswyd elfennau o feirniadaeth ôl-drefedigaethol wrth astudio llenyddiaeth y cyfnod modern hefyd. Yn Memoir and Identity in Welsh Patagonia (2017) mae Geraldine Lublin yn astudio cofiannau Cymraeg a Sbaeneg gan ddisgynyddion y gymuned Gymraeg ym Mhatagonia trwy fframwaith theori aneddfeydd gwladfawyr. Un o effeithiau amlycaf perthynas Cymru â Lloegr yw’r ffaith fod gan Gymru erbyn yr 20g. ddwy iaith, ac mae nifer yn ystyried llenyddiaeth Eingl-Gymreig yn llenyddiaeth ôl-drefedigaethol hefyd, gyda Kirsti Bohata yn awgrymu ei fod yn llenyddiaeth subaltern sy'n ymwneud â themâu ôl-drefedigaethol fel colled, alltudiaeth a hunaniaeth.

Mae modd gofyn beth fydd dylanwad datganoli ar lenyddiaeth Gymraeg, wrth i Gymru wneud camau symbolaidd, os petrus tuag at ddad-wneud uniad 1536, ac wrth i newidiadau yn sgil Brexit fygwth y datganoli hwnnw. Dyma lle y gall dealltwriaeth an-llinol o ôl-drefedigaethedd gynnig ffyrdd ffrwythlon o ddarllen llenyddiaeth Gymraeg.

Grug Muse

Llyfryddiaeth

Ashcroft, B. et al. (1989), The Empire Writes Back: Theory and practice in post-colonial literatures (Llundain: Routledge).

Aaron, J., a Williams, C. (2005), Postcolonial Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Bhabha, H. K. (gol.) (1990), Nation and Narration (Llundain: Routledge).

Bhabha, H. K. (1994), The Location of Culture (Llundain: Routledge).

Bohata, K. (2005), Postcolonialism Revisited (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Brooks, S. (2004), O Dan Lygaid y Gestapo: Yr Oleuedigaeth Gymraeg a Theori Lenyddol yng Nghymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Davies, R.R. (1974), ‘Colonial Wales’, Past & Present (Rhydychen: Oxford University Press), 65, 3-23.

Evans, D. (2006), ‘ “Bardd arallwlad”: Dafydd ap Gwilym a theori ôl-drefedigaethol’, Llenyddiaeth Mewn Theori, gol. Owen Thomas (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), 39-72.

Fanon, F. (1952), Peau noire, masques blancs (Paris: Les Éditions du Seuil), cyfieithwyd fel Black Faces, White Masks, Charles Lam Markmann (Efrog Newydd: Grove Press, 1967).

Fanon, F. (1961), Les Damnés de la terre (Paris: Maspéro) cyfieithwyd fel The Wretched of the Earth, Constance Farrington (Efrog Newydd: Grove Weidenfeld, 1963).

Forsdick, C., Murphy, D. (goln) (2003), Postcolonial Studies: A Critical Introduction (Llundain: Routledge).

George, A. (2004), ‘ “ Nithio’r main”: Golwg ar farddoniaeth Dafydd ap Gwilym yng ngoleuni theori ôl-drefedigaethol’ (MA Cymru Caerdydd.

Jones, J.R. (1966), Prydeindod (Llandybie, Llyfrau’r Dryw).

Jones, R. M. (1998), Ysbryd y Cwlwm: Delwedd y Genedl yn ein Llenyddiaeth (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Lublin, G. (2017), Memoir and Identity in Welsh Patagonia (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru).

Lublin, G. (2009), ‘Y Wladfa: gwladychu heb drefedigaethu?’, Gwerddon, 4, 8-23.

Naylor, A. (2012), ‘ “Trafferth mewn tafarn” a’r gofod hybrid’, Ysgrifau Beirniadol, 31, 93-118.

Nkrumah, K. (1963), Africa Must Unite, (Llundain: Heinemann).

Said, E. (1978) Orientalism, (Efrog Newydd, Pantheon Books).

Said. E. (1993) Culture and Imperialism, (New York: Knopf).

Spivak, G. (1988) Can the subaltern speak? (Basingstoke: Macmillan).

Thomas, M. (1999), Corresponding Cultures: The Two Literatures of Wales (Caerdyddd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Williams, D. (2000), ‘Pan-Celticism and the Limits of Post-Colonialism: W.B Yeats, Ernest Rhys, and Williams Sharp in the 1890s’, Nations and Relations: Writing Across the British Isles, goln T. Brown a R. Stephens (Caerdydd: New Welsh Review), 1-29.

Williams, H. (2007), Postcolonial Brittany: Literature Between Languages (Rhydychen, Peter Lang).

Young, R. (2001), Postcolonialism: An Historical Introduction (Oxford: Blackwell).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.