Ôl-strwythuraeth

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:22, 7 Chwefror 2018 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Ni ellir deall ôl-strwythuraeth heb gyfeirio at strwythuraeth, oherwydd y mae’r cyntaf i raddau yn ddatblygiad naturiol o’r olaf, ond hefyd yn cynrychioli ymwrthodiad llwyr ag ef. Pan ddaeth ‘theori’ o Ffrainc i brifysgolion Prydain a’r Unol Daleithiau a’r Almaen, daeth yn bennaf ar ffurf ‘ôl-strwythuraeth’, felly gellir dweud i ôl-strwythuraeth gael llawer mwy o ddylanwad ar ein disgyrsiau beirniadol na strwythuraeth. Mae hyn hefyd yn wir am feirniadaeth lenyddol Gymraeg. Cysylltir rhai theorïwyr â strwythuraeth ac ag ôl-strwythuraeth fel ei gilydd: Roland Barthes (1915-1980), Michel Foucault (1926-1984), Jacques Lacan (1901-1981), Julia Kristeva (1941-), ond y mae enw Jacques Derrida (1930-2004) yn sefyll allan oherwydd gellid dadlau mai ef fel unigoyn a fu’n gyfrifol am newid strwythuraeth yn ôl-strwythuraeth, gan iddo achosi trobwynt yn 1967 wrth gyhoeddi tri llyfr allweddol: La Voix et le phénomène, De la grammatologie, a L’Ecriture et la différance. Noder na chawsant mo’u cyfieithu tan y saithdegau.

Cyfeirir at Derrida fel athronydd yn bennaf, er na dderbynnir ei waith fel athroniaeth gan y traddodiad Eingl-Americanaidd Analitig, ac er i’w ddylanwad fod yn drymach ar feirniadaeth lenyddol (a’i gytras astudiaethau diwylliannol) nag ar athroniaeth fel disgyblaeth academaidd. Un esboniad ar hyn yw bod Derrida, yn y bôn, yn ymarfer ‘darllen agos’, boed hynny o destunau llenyddol (fel barddoniaeth Mallarmé) neu o destunau athronyddol (o Platon i Rousseau). Dadleua Derrida fod unrhyw drafodaeth sy’n rhagdybio ‘strwythur’ yn un sy’n cymryd yn ganiataol bod trefn yn perthyn i’r cyfryw strwythur. Cynigia sawl enw ar yr hyn sy’n gosod trefn (e.e. tarddiad, diwedd/ nod, telos), gan gynnwys y gair ‘canol’, gan ddatgan bod y ‘cysyniad o strwythur heb ganol yn amhosibl’. Y broblem, yn ôl Derrida, yw bod y ‘canol’ (sef yr hyn sy’n gosod trefn) yn cael ei ragdybio fel rhywbeth sydd y tu allan i’r strwythur, neu yn rhywbeth mwy na’r strwythur ei hun, ac sydd felly yn rheoli’r strwythur o’r tu allan, neu o’r tu cefn. Dyna ystyr ei ddatganiad: ‘Nid y canol yw’r canol’. Honna Derrida fod holl hanes metaffiseg y Gorllewin yn ddim ond hanes gosod un ‘canol’ yn lle un ‘arall’, neu mewn geiriau eraill fod holl draddodiad athronyddol y Gorllewin wedi bod yn un logoganolog (h.y. un sy’n ystyried bod geiriau yn mynegi neu'n cyfeirio at wirionedd sydd y tu allan i iaith) . Newidiodd hyn i gyd, ym marn Derrida, yn y cyfnod modern, ac er nad yw’n dal un ohonynt yn gyfrifol am y newid, enwa Friedrich Nietzsche (1844-1900), Sigmund Freud (1856-1939) a Martin Heidegger (1889-1976) fel meddylwyr dylanwadol yn hyn o beth. Yr hyn sydd wedi digwydd yn yr 20g., meddai Derrida, yw iddi ddod yn amlwg mai dyn oedd wedi gosod y ‘canol’ yno, oherwydd ei ddeisyfiad am ganol (neu am osod trefn yn y bydysawd).

Gellir gweld traethawd enwog Barthes, ‘Marwolaeth yr awdur’ (1967), fel rhyw fath o faniffesto ar gyfer ôl-strwythuraeth. Ynddo dengys Barthes mai peth cymharol fodern yw ffigwr yr ‘awdur’, a honna mai'r bardd Ffrangeg Stéphane Mallarmé (1842-1898) fu’n gyfrifol am ei dranc. Gimic yw’r gor-ddramateiddio hyn, wrth gwrs, a’r defnydd o eirfa eithafol fel ‘marwolaeth’, er bod Mallarmé ei hun yn defnyddio’r un eirfa. Yr hyn sy’n bwysig yn nhraethawd Barthes yw ei ddisgrifiad o’r hyn a adewir ar ôl, neu yr hyn a grëir o ganlyniad i ddiflaniad yr awdur. Yn lle’r awdur daw’r ‘scripteur’, ffigwr sydd, yn ôl Barthes, yn ‘cael ei eni yr un pryd â’i destun’, ac na ddylid meddwl amdano fel ‘tad’ i’r testun, h.y. fel awdurdod sy’n bodoli rhywle y tu allan neu tu hwnt i’r testun, ond yn hytrach fel un o gynhyrchion y testun. Iaith ei hun, felly, sy’n gyfrifol am greu’r testun, ac nid awdur. Noder y defnydd o’r gair ‘testun’ (texte) yn hytrach na ‘nofel’, ‘cerdd’ ac yn y blaen; yn dilyn syniadau Barthes am ddiflaniad yr awdur, endid amhersonol yw’r testun. Mae'n perthyn i hanes llenyddiaeth, neu hyd yn oed i hanes testunau, neu hanes ysgrifennu, yn hytrach nag i berson, unigolyn o gig a gwaed a adwaenir fel ‘awdur’. Ni all testun berthyn i unigolyn beth bynnag, meddai Barthes, oherwydd nad yw gwreiddioldeb yn bosibl. Gwaddol Rhamantiaeth yw’r syniad o wreiddioldeb, sy’n ddall i’r ffaith bod pob testun yn ddibynnol ar destunau eraill. ‘Gwe o ddyfyniadau’ (‘un tissu de citations’) yw disgrifiad Barthes o’r testun sydd yn weddill wedi inni gael gwared â’r cysyniad o awdur, a chynigia Barthes hefyd derm i gymryd lle ‘llenyddiaeth’, sef 'écriture'. Yr hyn sydd wedi diflannu, felly, ers Mallarmé, ac yn sicr ers Barthes, yw’r syniad Rhamantaidd o unigolyn, un sy'n meddu ar ‘wreiddioldeb’, yn creu llenyddiaeth y mae modd ei llwyr ddeall trwy astudio bywyd a syniadau (h.y. gweithiau eraill), neu fwriadau’r awdur. A’r hyn sy’n newydd yw’r cysyniadau o ‘destun’, o ‘scripteur’, ac o ‘écriture’. ‘Pris genedigaeth y darllenydd yw marwolaeth yr awdur’, meddai Barthes yn ei ffordd ddramatig ei hun, sef ffordd o ddweud bod pob testun yn agored i ddeongliadau gwahanol, a bod ‘ystyr’ testun yn rhywbeth llawer ehangach, a llawer mwy cymhleth na bwriad yr awdur. Lluniodd Michel Foucault draethawd dylanwadol ar y pwnc hwn hefyd, sef ‘Beth yw awdur?’ (1969), lle sonia am yr eironi bod gweithiau llenyddol i fod i roi anfarwoldeb i’r ‘awdur’, ond eu bod yn awr yn ei ladd, ac mai erbyn hyn: ‘Pwrpas ysgrifennu yw creu gwagle i’r ysgrifennwr ddiflannu iddo’.

Er mai darllen agos yw methodoleg ôl-strwythuraeth mae’n gwbl wahanol i agwedd y Beirniaid Newydd (S. New Critics). Tra roedden nhw’n chwilio am undod mewn testun, er enghraifft trwy weld ffurf darn o lenyddiaeth fel rhywbeth sy’n atgyfnerthu’i ystyr, mae beirniaid ôl-strwythurol, neu ddadadeiladwyr, yn gwneud y gwrthwyneb. Maent yn darllen yn groes i’r graen er mwyn canfod anghysondebau a chroes-ddweud o fewn y testun - yng ngeiriau Barbara Johnson: ‘to expose the warring forces of signification within the text’. Mae’r agwedd tuag at iaith hefyd yn gwbl wahanol, gydag ôl-strwythuraeth yn rhoi sylw i oblygiadau’r bwlch rhwng iaith a’r byd, gan gofio ei bod hi’n amhosib edrych ar iaith o’r tu allan iddi. Os derbyniwn nad yw iaith yn adlewyrchiad o’r byd ond yn hytrach mai iaith sy’n creu yr hyn a welwn, yna does yna ddim llinyn mesur sy’n bodoli y tu allan i iaith, ac mae ‘realiti’ yn beth testunol. Dyna ystyr un o osodiadau enwocaf Derrida : ‘il n’y a pas de hors texte’ (does yna ddim byd y tu allan i neu y tu hwnt i’r testun heblaw mwy o destunau), a gyfieithiwyd gan R.M. (Bobi) Jones (nad yw’n cytuno ag e) fel : ‘Does dim byd y tu allan i Fynegiant’. Mae’r tueddiad ôl-strwythurol i drin popeth fel rhethreg ac i weld popeth fel ‘testun’ yn tynnu meysydd eraill yn agosach at lenyddiaeth, ac os rhywbeth mae’r goblygiadau yn fwy yn achos disgyblaethau eraill fel hanes neu wyddoniaeth. Mae’r tueddiad hefyd wedi arwain rhai i gyhuddo dadadeiladwyr o wneud eilun o iaith. Ond ‘rheswm’, sef sail y traddodiad athronyddol, yw'r hyn y maent yn ei herio mewn gwirionedd. Dro ar ôl tro dangosodd Derrida mor ansad yw’r parau deuol sy’n nodweddu ein rhesymeg, parau megis presenoldeb/absenoldeb, meddwl/corff, natur/artiffisial, llythrennol/trosiadol.

Mewn traethawd ar Jean-Jacques Rousseau (1712-1778) â Derrida i’r afael â’r pâr deuol ysgrifennu/llafar. Yn ôl Derrida mae Rousseau, yn enghreifftio traddodiad athronyddol y Gorllewin sy’n gwahaniaethu rhwng y peth ei hun (gwrthrych neu gysyniad) a’r hyn sy’n cynrychioli’r peth (e.e. gair). Mae gair yn sefyll dros y peth, yn gwneud iawn am absenoldeb y peth, ac mae’n rhoi mynediad uniongyrchol at y peth, fel ffenest dryloyw. O fewn y fframwaith hwn mae’r gair llafar ynymddangos yn fwy uniongyrchol na’r gair ysgrifenedig, oherwydd bod yr ynganydd yn bresennol ar y pryd. Mae ysgrifennu, ar y llaw arall, gam ymhellach oddi wrth y peth, neu’r cysyniad, gan fod yr ynganydd yn absennol. Felly mae ysgrifennu ddau gam oddi wrth y gwirionedd, neu’r ‘syniad’ a fynegir, ac yn ddibynnol yn y pen draw ar y llafar. Perthyn Rousseau i’r traddodiad hwn, ac yn ei draethawd ‘Sur l’origine des langues’ (tarddiad ieithoedd) mae’r llafar yn blaenori ar yr ysgrifenedig. Yn nhrafodaeth Derrida ohono disgrifia’r ysgrifenedig fel ‘supplément’: rhywbeth sy’n sefyll dros, neu’n ychwanegiad at y llafar. Ond mae i’r ‘supplément’ ei resymeg ei hun, a dengys trafodaeth Derrida ansadrwydd y pâr deuol ysgrifennu/ llafar. Yn ei hunangofiant Les Confessions, mae ar Rousseau angen yr ysgrifenedig er mwyn i bobl gael gweld y gwir Jean-Jacques, yn hytrach na’r un sy’n dod drosodd mewn sgyrsiau ac ati (y llafar), oherwydd yn ôl Rousseau caiff geiriau llafar mewn sgwrs eu camddehongli. Wrth ysgrifennu’r hunangofiant gwna ei hun yn absennol o’r gymdeithas (sydd wedi ei gamddeall a’i gamddehongi) er mwyn creu fersiwn ysgrifenedig o’i hunan sy’n agosach at y gwir. Felly mae’n dewis ysgrifennu er mwyn dangos ei wir hunan i bobl, a phwrpas yr hunangofiant felly yw cywiro’r llafar, gan ychwanegu ato, a gwneud iawn am ei ffaeleddau. Gwelir felly bod gan ysgrifennu rinweddau a briodolwyd i’r llafar, a cheir bod y pâr deuol llafar/ysgrifenedig yn ansad yn syniadaeth Rousseau. Mae’r hyn oedd angen ychwanegiad (ysgrifennu) yn meddu ar yr union rinweddau a briodolwyd i’w wrthwyneb (llafar). Mae ysgrifennu yn gwneud iawn am absenoldeb yr ynganydd, ond hyd yn oed pan fo’r llafar yn bresennol mae angen ysgrifennu. Yn y modd yma caiff y gwirionedd ei ohirio bob amser.

Roedd tanseilio parau deuol yn thema gyson yng ngwaith Derrida, ac yn achos y drafodaeth ar Rousseau llafar/ysgrifenedig oedd y ffocws. Enghraifft arall, un sy’n mynd â ni at graidd traddodiad athronyddol y Gorllewin, yw’r 'real a’r delfrydol'. Mae traethawd Derrida ‘La double séance’ (1972) yn mynd i’r afael â’r ffordd y mae Platoniaeth wedi tra-arglwyddiaethu ar ein ffyrdd o ddehongli celf fimetig. Mae’r traddodiad Platonaidd yn rhagdybio bwlch rhwng unrhyw wrthrych a’r cynrychioliad ohono, oherwydd ei fod yn seiliedig ar y bwlch rhwng y gwrthrych a’r delfryd. Dengys dadansoddiad Derrida o destun gan Mallarmé (‘Mimique’, 1886) yn y traethawd hwn sut y disodlir y bwlch gan Mallarmé a’i ad-leoli i ofod newydd rhwng y cynrychioliad a’r broses gynrychioli ei hun. Felly trwy gyfrwng darlleniad dadadeiladol sy’n dibynnu ar chwarae ar eiriau (yn yr achos hwn: hymen, entre, antre), mae Derrida yn gwyrdroi’r syniad cyfarwydd am y bardd Mallarmé fel Delfrydwr neu Blatonydd. I’r gwrthwyneb, meddai, mae testun Mallarmé yn arddangos, neu'n rhagfynegi’r rhwyg a fu o fewn maes athroniaeth tua dechrau’r ugeinfed ganrif.

Daeth syniadau Derrida i Brydain trwy adrannau Ffrangeg, ond yn bennaf trwy waith aelodau o ‘Ysgol Yale’, sef grwp o ysgolheigion ym Mhrifysgol Yale ddiwedd yr 1970au, a ddylanwadwyd gan ei athroniaeth: Paul de Man (1919-1983), Barbara Johnson (1947-2009), J. Hillis Miller (1928-) a Geoffrey Hartman (1929-2016). Yn achos Cymru, mae beirniadaeth lenyddol John Rowlands yn adleisio llawer o syniadau ôl-strwythuraeth, ond nid aildwymo syniadau Ffrengig a wna, ond yn hytrach myfyrio ar y traddodiad beirniadol Cymraeg ac ar ei arfer ei hun. Dywedodd Rowlands am iaith: ‘Mae iaith yn ein cyflyru trwy wthio arnom, fel petai, yr holl arwyddocâd cudd sydd wedi’i storio ynddi. Gosod patrwm dynol ar y byd a wna iaith, nid darlunio’r byd fel y mae’. Am yr awdur meddai Rowlands: ‘Ond buasai’n iechyd i ni yng Nghymru fynd dros ben llestri a chael gwared ag awduron, oherwydd gallant fod yn gryn niwsans. […] Gweithiau llenyddol yw maes diddordeb y beirniad, a does a wnelo dehongli’r rheini ddim oll â lladd ar eu hawduron na’u canmol.’ Dywedodd yn blwmp ac yn blaen ei fod yn hoff o’r feirniadaeth newydd hon, a gellir darllen ei erthygl ‘Beirniadu’n groes i’r graen’ (1990) fel maniffesto dros ddadadeiladu, fel ffordd o fywiogi beirniadaeth Gymraeg. Dywed ynddi: ‘Gwell gen i, fel Barthes, weld marwolaeth y llenor a chroesawu genedigaeth y darllenydd’, a ‘Niwsans amherthnasol ydi llenorion o gig a gwaed’. Daeth eraill yng Nghymru o dan ddylanwad ôl-strwythuraeth, ac yn y 1990au yn arbennig cyhoeddwyd beirniadaeth lenyddol gan Simon Brooks a Johann Schimanski a arddelai ddulliau Derrida ac eraill (gweler Dadadeiladu).

Gwerth cofio mai prif nod ôl-strwythuraeth yw cwestiynu’r berthynas rhwng testun ac ‘ystyr’, ac nad yw hyn yn gonsýrn newydd o bell ffordd. Mae’r syniad bod testun yn golygu rhywbeth amgen i’r hyn y mae’n ymddangos ei fod yn dweud, wedi bod yn ganolog i feirniadaeth lenyddol erioed. A fyddai’r fath beth â thraddodiad o feirniadaeth lenyddol yn bod fel arall? Mae’r thema yma’n ganolog i rai o weithiau mawr canon y Gorllewin: Mme Bovary, Candide a Pantagruel. Ond mae ôl-strwythurwyr yn mynd â’r syniad i’r eithaf, trwy ofyn beth yw natur iaith? Sut mae’n gweithredu? Beth all iaith ei wneud? Cwestiynau sy’n eu gosod ar y ffin rhwng llenyddiaeth ac athroniaeth. Yn olaf dylid nodi eironi unrhyw ymgais i ddistyllu syniadaeth Derrida i erthygl esboniadol, ac annog y darllenydd i fynd at ei destun amlweddog.

Heather Williams

Llyfryddiaeth

Aaron, J. (1992), ‘Darllen yn groes i’r drefn’, yn Rowlands, J. (gol.), Sglefrio ar Eiriau (Llandysul: Gomer), 63-83.

Barthes, R. (1967), ‘The Death of the Author’, Aspen, 5-6, atgynhyrchir yn Image, Music, Text, Stephen Heath (Llundain: Fontana, 1977), ac yn Modern Criticism and Theory: A Reader, gol. David Lodge (Llundain: Longman, 1988), 167-72. Fersiwn Ffrangeg, ‘La mort de l’auteur’ (1968), yn Le Bruissement de la langue (Paris: Seuil, 1984).

Culler, J. (1983), On Deconstruction: Theory and Criticism after Structuralism (London: Routledge).

Derrida, J. (1967), L’Ecriture et la différance (Paris: Seuil), cyfieithwyd fel Writing and Difference, Allan Bass (Llundain: Routledge, 1978), atgynhyrchir detholiad defnyddiol yn ‘Structure, sign and play in the discourse of the human sciences’, yn Modern Criticism and Theory: A Reader, gol. David Lodge (Llundain: Longman, 1988), 108-123.

Derrida, J. (1967), De la grammatologie (Paris: Minuit), cyfieithwyd fel Of Grammatology, Gayatri Chakravorty Spivak (Baltimore a Llundain: Gwasg Prifysgol Johns Hopkins, 1976).

Derrida, J. (1967), La Voix et le phénomène (Paris: Presses universitaires de France), cyfieithiwyd fel ‘Speech and Phenomena’ and Other Essays on Husserl’s Theory of Signs, David B. Allison (Evanston: Gwasg Prifysgol Northwestern, 1973).

Derrida, J. (1972), ‘La Double séance’, yn La Dissémination (Paris : Seuil), cyfieithiwyd fel Dissemination, Barbara Johnson (Chicago: Gwasg Prifysgol Chicago, 1981).

Foucault, M. (1969), ‘Qu’est-ce qu’un auteur’, yn Dits et Écrits I: 1954-1969, (Paris : Gallimard, 1994), testun 69, cyfieithiwyd fel ‘What is an author’, yn Modern Criticism and Theory: A Reader, gol. David Lodge (Llundain: Longman, 1988), 197-210.

Jefferson, A. (1982), ‘Structuralism and poststructuralism’, yn Modern Literary Theory: A Comparative Introduction, gol. Ann Jefferson a David Robey (Llundain: Batsford), 92-121.

Johnson, B. (1978), The Critical Difference: Essays in the Contemporary Rhetoric of Reading (Baltimore: Gwasg Prifysgol Johns Hopkins).

Jones, R.M. (Bobi), (1990), ‘Wrth angor (12): Dadadeiladu neu Dimothïeg’, Barddas, 162, 17-21.

Kamuf, P. (gol.) (1991), A Derrida Reader: Between the Blinds (Llundain: Harvester Wheatsheaf).

Norris, C. (1987), Deconstruction: Theory and Practice (Llundain: Fontana).

Rowlands, J. (1989), Cnoi Cil ar Lenyddiaeth (Llandysul: Gwasg Gomer).

Rowlands, J. (1990), ‘Beirniadu’n groes i’r graen’, Taliesin, 71.

Rowlands, J. (1996), ‘Chwarae â chwedlau: cip ar y nofel Gymraeg ôl-fodernaidd’, Y Traethodydd, CLI, rhif 636, 5-24.

Rhys, R. (1993), ‘Dadadeiladaeth Ddieflig?’, Barn 365, 44.

Wimsatt Jr, W.K. a Monroe C. Beardsley, (1946), ‘The Intentional Fallacy’, ail-argraffwyd yn Wimsatt, The Verbal Icon: Studies in the Meaning of Poetry(Llundain: Methuen, 1954), 3-17.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.