9Bach (ll., Nain Bach)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Lisa Jên Brown â 9Bach yn perfformio yng Ngŵyl Hanner Cant (2012).
Band gwerin cyfoes. Ffurfiwyd y band ym Methesda yn 2005 gan Martin Hoyland (gitâr) a Lisa Jên Brown (llais). Canodd Lisa Jên ar albwm unigol Gruff Rhys, Candylion (Rough Trade, 2007), cyn i 9Bach ymddangos yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient yn 2008.

Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, 9Bach, ar label Gwymon yn 2009, a derbyniodd adolygiadau ffafriol yn y Guardian, Uncut a chyhoeddiadau Seisnig eraill (Denselow 2009). Cawsant eu cymharu â Portishead, Enya, a Tim Buckley. Yn 2012 perfformiodd y band yn Pesda Roc a Gŵyl y Gelli ac aethant i Awstralia fel rhan o brosiect ‘Mamiaith/Mother Tongue’, a drefnwyd gan yr Olympiad Diwylliannol, er mwyn cydweithio ar ganeuon gyda grŵp cynfrodorol y Black Arm Band. Canlyniad y cydweithio hwn oedd cyngherddau llwyddiannus yng Nghaernarfon a Llundain. Yn ystod yr un flwyddyn bu’r grŵp yn perfformio yn yr Ŵyl Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid, yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient unwaith eto ac yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion. Recordiwyd ail albwm yn Stiwdio Bryn Derwen, Bethesda, yn 2013.

Arwyddodd y grŵp i New World Records – label y cerddor a’r canwr Peter Gabriel – yn 2013 (Bevan 2013). Rhyddhawyd eu hail record hir Tincian ar label Real World flwyddyn yn ddiweddarach, cyn ei ddilyn yn 2016 gyda’u trydedd record hir, Anian, lle cafwyd cyfraniadau gan yr actores Maxine Peake, Rhys Ifans a Gabriel ei hun.

Craig Owen Jones

Disgyddiaeth

  • ‘Yr Eneth Ga’dd Ei Gwrthod’ [sengl] (Gwymon CD003, 2008)
  • ‘C’weiriwch Fy Ngwely’ [sengl] (Gwymon, CD005, 2009
  • 9Bach (Gwymon CD007, 2009)
  • Tincian (Real World Records CDRW202, 2014)
  • Anian (Real World Records CDRWP214, 2016)

Llyfryddiaeth

  • Robin Denselow, ‘[adolygiad o] 9Bach’, The Guardian (21 Awst 2009)
  • Nathan Bevan, ‘Peter Gabriel snaps up 9Bach after chance meeting in London black cab’, Wales Online, 27 Hydref 2013



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.