Adolygiad rhent

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cymal neu ddarpariaeth mewn prydles yw adolygiad rhent ble mae’r rhent i’w ailystyried ar ddiwedd cyfnodau penodedig, er enghraifft bob 3, 5 neu 7 mlynedd neu ar ddyddiadau penodedig. Mae’r dulliau o adolygu a’r drefn sydd rhaid ymlynu wrthynt wedi'u nodi yn y brydles.

Os na fydd modd i’r prydleswr a’r prydlesai ddod i gytundeb, fel arfer mae darpariaeth er cyfeirio'r mater i drydydd parti a fydd yn derbyn y gorchymyn i ddyfarnu, naill ai cyflafareddwr neu arbenigwr annibynnol er enghraifft.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“Valuation: Principles into Practice”, R. E. H. Hayward ac W. H. Rees, Estates Gazette, pumed argraffiad, tudalennau 5, 146, 149, 150-151, 201, 490 a 516-517



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.