Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ail Symudiad"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 11: Llinell 11:
 
Erbyn diwedd 1983 roedd amser a sylw Richard a Wyn Jones yn mynd i gyfeiriad datblygu label Fflach, ac fe benderfynwyd dod â’r band i ben. Fodd bynnag, ailffurfio fu eu hanes yn sgil y galw iddynt ddychwelyd i’r sîn roc. Rhyddhawyd recordiau megis yr EP Croeso i Gymru ar y cyd â [[Meic Stevens]] (Fflach, 1986), Dawnsio Hyd yr Oriau Mân (Fflach, 1987) a Rhy Fyr i Fod yn Joci (Fflach, 1989), yr olaf yn cynnwys cyfraniadau gan gitaryddion megis Chris Lewis o’r grŵp [[Jess]] a Peredur ap Gwynedd. Parhaodd y Jonesiaid i redeg Fflach, a daeth y band yn ôl at ei gilydd sawl gwaith yn niwedd yr 20g. a dechrau’r 21g. ar gyfer digwyddiadau byw ac er mwyn rhyddhau recordiau newydd. Roedd cyfraniad Ail Symudiad i ganu pop yn ystod yr 1980au yn un gwerthfawr, nid yn unig o ran cyflwyno cynulleidfaoedd Cymraeg i sain ‘y don newydd’ a chreu sîn bwysig yn ardal Aberteifi, ond hefyd wrth sefydlu label annibynnol Fflach, a fu’n ail yn unig i label Sain o ran cynnyrch a gwerthiant.
 
Erbyn diwedd 1983 roedd amser a sylw Richard a Wyn Jones yn mynd i gyfeiriad datblygu label Fflach, ac fe benderfynwyd dod â’r band i ben. Fodd bynnag, ailffurfio fu eu hanes yn sgil y galw iddynt ddychwelyd i’r sîn roc. Rhyddhawyd recordiau megis yr EP Croeso i Gymru ar y cyd â [[Meic Stevens]] (Fflach, 1986), Dawnsio Hyd yr Oriau Mân (Fflach, 1987) a Rhy Fyr i Fod yn Joci (Fflach, 1989), yr olaf yn cynnwys cyfraniadau gan gitaryddion megis Chris Lewis o’r grŵp [[Jess]] a Peredur ap Gwynedd. Parhaodd y Jonesiaid i redeg Fflach, a daeth y band yn ôl at ei gilydd sawl gwaith yn niwedd yr 20g. a dechrau’r 21g. ar gyfer digwyddiadau byw ac er mwyn rhyddhau recordiau newydd. Roedd cyfraniad Ail Symudiad i ganu pop yn ystod yr 1980au yn un gwerthfawr, nid yn unig o ran cyflwyno cynulleidfaoedd Cymraeg i sain ‘y don newydd’ a chreu sîn bwysig yn ardal Aberteifi, ond hefyd wrth sefydlu label annibynnol Fflach, a fu’n ail yn unig i label Sain o ran cynnyrch a gwerthiant.
  
 +
==Disgyddiaeth==
 +
''Aberjaber'' (Sain 1340M, 1985)
 +
 +
''Aberdaujaber'' (Sain 1410M, 1986)
 +
 +
''Y Bwced Perffaith'' (Sain SCD2157, 1997)
 +
 +
==Llyfryddiaeth==
 +
Stephen P. Rees, ‘[Traddodiad Celtaidd Newydd]? Perfformiad Offerynnol gan Grwpiau yn yr Adfywiad Gwerin yng Nghymru, c.1975–c.1989’, ''Hanes Cerddoriaeth Cymru'' 7 (2007), 325–43.
 +
 +
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]
 
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Diwygiad 14:47, 28 Ionawr 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Band roc ôl-bync o Aberteifi oedd Ail Symudiad a ddaeth i amlygrwydd yn bennaf yn ystod yr 1980au. Fe’i ffurfiwyd gan Richard Jones (gitâr, prif lais), ei frawd Wyn Jones (bas) a Gareth Lewis (drymiau); roedd bandiau pync Prydeinig fel yr Undertones a’r Buzzcocks yn ddylanwadau pwysig i ddechrau. Sefydlodd y band gyswllt cryf gyda’r band poblogaidd Cymraeg, Y Trwynau Coch, gan chwarae ochr yn ochr â hwy yn y blynyddoedd cynnar.

Ar ôl gigio yn ardal Aberteifi yn gynnar yn 1979, ymddangosodd Ail Symudiad yn noson Twrw Tanllyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn yr un flwyddyn, ac yna ym Mhafiliwn Corwen yn ddiweddarach ym mis Awst o flaen torf o 700, gan gefnogi’r Trwynau Coch a Rhiannon Tomos. Yn fuan wedyn daethant i sylw Eurof Williams, a oedd wedi sefydlu’r label annibynnol Recordiau Sgwâr yn 1977 gydag Eric Dafydd ac oedd hefyd yn gynhyrchydd rhaglen gerddoriaeth BBC Radio Cymru ar fore Sadwrn, Sosban. Estynnodd ef wahoddiad iddynt chwarae sesiwn ar gyfer y sioe, ac yn sgil llwyddiant y sesiwn honno recordiodd y band eu sengl cyntaf, ‘Whisgi a Soda’, ar label Sain fel rhan o gyfres newydd senglau Sain (gydag aelod newydd, Robin Davies, ar y gitâr flaen erbyn hyn). Roedd llawer o gigiau’n cael eu trefnu yng Nghymru ar ddechrau’r 1980au ac roedd Ail Symudiad yn un o’r bandiau prysuraf, yn chwarae’n gyson mewn lleoliadau megis Pafiliwn Corwen, Clwb Tanybont yng Nghaernarfon, Dixieland yn Rhyl, Plas Coch ar Ynys Môn, a Blaendyffryn ger Llandysul.

Yn 1981 penderfynodd y band sefydlu eu label annibynnol ei hun, sef Fflach. Record gyntaf y label oedd y sengl Twristiaid yn y Dre, a ddangosai ddylanwad amlwg y Buzzcocks, ac fe ddaeth sengl arall a oedd yn cynnwys y gân ‘Geiriau’ yn arbennig o boblogaidd ar donfeddi Radio Cymru. Aeth y band ar daith genedlaethol yr un flwyddyn, a recordiwyd sengl arall (ar y cyd ag Angylion Stanli), ‘Edrych trwy y Camerâu’, yn 1982. Hyrwyddwyd y record trwy daith arall yn ystod yr haf a drefnwyd gan Gymdeithas Adloniant Cymru. Erbyn hyn roedd Ail Symudiad wedi ennill eu plwyf fel un o brif fandiau Cymru, gan ennill sawl gwobr yn nosweithiau Gwobrau Sgrech, ac ymddangosent ar y teledu ac ar y radio yn rheolaidd. Yn ystod yr un cyfnod, bu’r band yn recordio eu halbwm cyntaf yn stiwdio Sain, ac fe ryddhawyd Sefyll ar y Sgwâr tua diwedd 1982, gyda Richard Morris yn cynhyrchu ac yn chwarae’r gitâr. Adlewyrchai’r cynnwys newid cyfeiriad o sain amrwd y senglau cynnar tuag at arddull fwy slic, gloyw a phop-aidd ei naws. Ond roedd difrifoldeb yn perthyn i rai caneuon hefyd, megis yr epig naw-munud ‘Cymru am Ddiwrnod’, a oedd yn sylwebaeth ddeifiol ar genedlaetholdeb byrhoedlog nifer fawr o Gymry ar ddiwrnod gêm rygbi ryngwladol.

Erbyn diwedd 1983 roedd amser a sylw Richard a Wyn Jones yn mynd i gyfeiriad datblygu label Fflach, ac fe benderfynwyd dod â’r band i ben. Fodd bynnag, ailffurfio fu eu hanes yn sgil y galw iddynt ddychwelyd i’r sîn roc. Rhyddhawyd recordiau megis yr EP Croeso i Gymru ar y cyd â Meic Stevens (Fflach, 1986), Dawnsio Hyd yr Oriau Mân (Fflach, 1987) a Rhy Fyr i Fod yn Joci (Fflach, 1989), yr olaf yn cynnwys cyfraniadau gan gitaryddion megis Chris Lewis o’r grŵp Jess a Peredur ap Gwynedd. Parhaodd y Jonesiaid i redeg Fflach, a daeth y band yn ôl at ei gilydd sawl gwaith yn niwedd yr 20g. a dechrau’r 21g. ar gyfer digwyddiadau byw ac er mwyn rhyddhau recordiau newydd. Roedd cyfraniad Ail Symudiad i ganu pop yn ystod yr 1980au yn un gwerthfawr, nid yn unig o ran cyflwyno cynulleidfaoedd Cymraeg i sain ‘y don newydd’ a chreu sîn bwysig yn ardal Aberteifi, ond hefyd wrth sefydlu label annibynnol Fflach, a fu’n ail yn unig i label Sain o ran cynnyrch a gwerthiant.

Disgyddiaeth

Aberjaber (Sain 1340M, 1985)

Aberdaujaber (Sain 1410M, 1986)

Y Bwced Perffaith (Sain SCD2157, 1997)

Llyfryddiaeth

Stephen P. Rees, ‘[Traddodiad Celtaidd Newydd]? Perfformiad Offerynnol gan Grwpiau yn yr Adfywiad Gwerin yng Nghymru, c.1975–c.1989’, Hanes Cerddoriaeth Cymru 7 (2007), 325–43.



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.