Alarm, The

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp roc o’r Rhyl a dderbyniodd gryn lwyddiant rhyngwladol yn ystod yr 1980au. Ffurfiodd y band yn 1981 a’r aelodau oedd Mike Peters (prif lais, gitâr), David Sharp (llais, gitâr), Eddie MacDonald (gitâr fas) a Nigel Twist (drymiau). Bu’r band yn perfformio o dan nifer o enwau (megis The Toilets a Seventeen) cyn penderfynu ar The Alarm ar ôl cyfansoddi cân gyda’r un teitl.

Amcan y band oedd cymhwyso elfennau pync-roc bandiau megis y Clash, roc ysbrydol ac angerddol U2, ynghyd â sain acwstig roc-gwerin Bob Dylan a chantorion protest yr 1960au. Clywir dylanwad egnïol pync-roc yn ‘Sixty-Eight Guns’, sengl gyntaf a mwyaf llwyddiannus y grŵp, a ryddhawyd yn 1983. Roedd ochr fwy telynegol yn perthyn i’w haddasiad o gân Peter Seeger ‘The Bells of Rhymney’, i gefnogi streic y glowyr yn 1984. Rhoddai eu pedwerydd record hir, Electric Folklore Live (I.R.S., 1988), sylw i’w perfformiadau byw tanllyd. Fel yr awgryma teitl eu pumed record hir, Change (I.R.S., 1989), daeth newid cyfeiriad, gyda’r grŵp yn fwy parod i gydnabod hunaniaeth Gymraeg a Chymreig. Rhyddhawyd fersiwn Cymraeg o’r record, a bu’r band yn rhannu llwyfannau gyda grwpiau megis Maffia Mr Huws a Jess. Fodd bynnag, yn dilyn rhyddhau y record hir Raw/Tân yn 1991, dywedodd Peters ei fod am adael y band.

Aeth Mike Peters (g.1959), ati i dorri cwys newydd iddo’i hun fel artist unigol gan ffurfio Mike Peters and the Poets (of Justice) gyda’i wraig Jules Peters ac aelodau’r grŵp Jess o Aberteifi (roedd Brychan Llŷr wedi cynorthwyo Peters gyda chyfieithiadau o’i ganeuon i’r Gymraeg ar gyfer Tân). Rhyddhaodd Peters gyfres o senglau ynghyd â’r record hir Aer (Crai, 1994), ond ni wnaeth agwedd hunanfoddhaus a ffugdeimladol rhai o’r caneuon argyhoeddi cynulleidfaoedd Cymru, ac ni fu’r fenter yn un gwbl lwyddiannus.

Ail-ffurfiodd The Alarm ar gyfer taith dathlu ugain mlynedd yn 2001, gyda’r band yn rhyddhau trefniant newydd o ‘Sixty-Eight Guns’ o dan yr enw Poppy Fields yn 2004. Yn fwy diweddar, ar ôl dioddef o ganser, bu Peters yn weithgar iawn yn codi arian ar gyfer achosion da, gan sefydlu’r elusen Love Hope Strength er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â lewcemia. Rhyddhawyd rhaglen ddogfen o’r enw Mike Peters on the Road to Recovery yn 2006 er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr ac o waith yr elusen.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Declaration (I.R.S. IRSA-7044, 1984)
  • Strength (I.R.S. MIRF-1004, 1985)
  • Spirit of ’76 (I.R.S. IRMT-109, 1985)
  • Eye of The Hurricane (I.R.S. DMIRG-1023, 1987)
  • Electric Folklore Live (I.R.S. DMIRM-5001, 1988)
  • Change (I.R.S. EIRSACD-1020, 1989)
  • Newid [fersiwn Cymraeg o Change] (I.R.S. EIRSAW- 1020, 1989)
  • Raw (I.R.S. EIRSA-1055, 1991)
  • Tân [fersiwn Cymraeg o Raw] (Crai CD014, 1991)

Mike Peters and the Poets:

  • ‘It Just Don’t Get Any Better Than This’ [sengl] (Crai 41CD, 1994)
  • ‘Back Into The System’ [sengl] (Crai 40CD, 1994)
  • ‘Nol i Mewn i’r System’ [fersiwn Cymraeg o ‘Back Into The System’] (Crai 40CDW, 1994)
  • Breathe (Crai 47CD, 1994)
  • Aer [fersiwn Cymraeg o Breathe] (Crai 47CDW, 1994)

Casgliadau:

  • Standards (I.R.S. EIRSACD-1043, 1990)
  • The Best Of The Alarm And Mike Peters (EMI 4937512, 1998)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.