Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 4: Llinell 4:
 
(gw. hefyd [[Archifau]])
 
(gw. hefyd [[Archifau]])
  
Er bod casgliadau preifat o gerddoriaeth, ac ambell gasgliad eglwysig, yn bod cyn yr 20g., nid tan ddyfodiad y sefydliadau cenedlaethol a’r llyfrgelloedd cyhoeddus mawr y gwelwyd casgliadau sylweddol a oedd ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru. Cyn hynny casglwyd rhai eitemau o bwys i sefydliadau yn Lloegr, er enghraifft y [[llawysgrif]] o gerddoriaeth i’r delyn, ‘Llawysgrif [[Robert ap Huw]]’, a ddiogelwyd yn y Llyfrgell Brydeinig (MS Additional 14905). Agorwyd Coleg [[Prifysgol]] Cymru yn Aberystwyth yn 1872, daeth Prifysgol Cymru i fod yn 1893 a dechreuwyd datblygu casgliadau ymchwil. Sylfaenwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru ill dwy ar 19 Mawrth 1907, ac ar ddiwedd  y 19g. a dechrau’r 20g. y gwelwyd llyfrgelloedd cyhoeddus mawr megis Caerdydd yn adeiladu casgliadau ymchwil o bwys.
+
Er bod casgliadau preifat o gerddoriaeth, ac ambell gasgliad eglwysig, yn bod cyn yr 20g., nid tan ddyfodiad y sefydliadau cenedlaethol a’r llyfrgelloedd cyhoeddus mawr y gwelwyd casgliadau sylweddol a oedd ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru. Cyn hynny casglwyd rhai eitemau o bwys i sefydliadau yn Lloegr, er enghraifft y [[llawysgrif]] o gerddoriaeth i’r delyn, ‘Llawysgrif [[Ap Huw, Robert (c.1580-1665) | Robert ap Huw]]’, a ddiogelwyd yn y Llyfrgell Brydeinig (MS Additional 14905). Agorwyd Coleg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru yn Aberystwyth yn 1872, daeth Prifysgol Cymru i fod yn 1893 a dechreuwyd datblygu casgliadau ymchwil. Sylfaenwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru ill dwy ar 19 Mawrth 1907, ac ar ddiwedd  y 19g. a dechrau’r 20g. y gwelwyd llyfrgelloedd cyhoeddus mawr megis Caerdydd yn adeiladu casgliadau ymchwil o bwys.
  
Breintiwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru  â’r
+
Breintiwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru  â’r hawl trwy Ddeddf Hawlfraint 1911 (a diwygiadau diweddarach arni) i ofyn am gopi rhad ac am ddim o bopeth printiedig a gyhoeddir ym Mhrydain ac Iwerddon, gan gynnwys cerddoriaeth. Golyga hyn fod ganddi gasgliad cynhwysfawr o gerddoriaeth brintiedig a gyhoeddwyd gan weisg Prydeinig o 1912 ymlaen, pan ddaeth deddf 1911 i rym. Mae hyn yn cynnwys cyfran uchel (er nad pob dim) o gynnyrch tai cyhoeddi megis Novello, Boosey a Gwasg Prifysgol Rhydychen yn ogystal â chyhoeddwyr llai o faint. Ychwanegwyd at hynny gasgliadau o gerddoriaeth Ewropeaidd, gan gynnwys argraffiadau beirniadol cyflawn o waith cyfansoddwyr blaenllaw – yn eu plith Bach, Beethoven, Handel, Haydn, Mozart, Palestrina, Rossini, Shostakovich a Verdi. Ceir hefyd eitemau o ddiddordeb hanesyddol cyffredinol, gan gynnwys er enghraifft gopi cynnar (tua 1773) o sgôr brintiedig ''Messiah'' Handel. Yn ogystal, mae’r Llyfrgell wedi casglu’n ddiwyd amrywiaeth o gerddoriaeth brintiedig Gymreig o bob cyfnod, sy’n cynnwys nid yn unig amryfal weithiau cyfansoddwyr Cymreig, ond hefyd wahanol argraffiadau o’r rheini, yn ogystal â deunydd mwy effemeraidd megis rhaglenni cyngherddau a [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau]] cerddorol a rhaglenni cymanfaoedd canu lleol a chenedlaethol. Adeiladwyd hefyd yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru sy’n rhan o’r Llyfrgell Genedlaethol gasgliad o recordiau o ddiddordeb Cymreig o gyfnod y recordiau masnachol cynharaf (tua 1899) ymlaen, a sicrhawyd yr hawl i recordio deunydd o ddiddordeb Cymreig a ddarlledir ar radio a theledu at bwrpas archifo. Archifir yn ogystal ffilmiau, gwefannau a chyhoeddiadau electronig o ddiddordeb cerddorol Cymreig.
hawl trwy Ddeddf Hawlfraint 1911 (a diwygiadau diweddarach arni) i ofyn am gopi rhad ac am ddim o bopeth printiedig a gyhoeddir ym Mhrydain ac Iwerddon, gan gynnwys cerddoriaeth. Golyga hyn fod ganddi gasgliad cynhwysfawr o gerddoriaeth brintiedig a gyhoeddwyd gan weisg Prydeinig o 1912 ymlaen, pan ddaeth deddf 1911 i rym. Mae hyn yn cynnwys cyfran uchel (er nad pob dim) o gynnyrch tai cyhoeddi megis Novello, Boosey a Gwasg Prifysgol Rhydychen yn ogystal â chyhoeddwyr llai o faint. Ychwanegwyd at hynny gasgliadau o gerddoriaeth Ewropeaidd, gan gynnwys argraffiadau beirniadol cyflawn o waith cyfansoddwyr blaenllaw – yn eu plith Bach, Beethoven, Handel, Haydn, Mozart, Palestrina, Rossini, Shostakovich a Verdi. Ceir hefyd eitemau o ddiddordeb hanesyddol cyffredinol, gan gynnwys er enghraifft gopi cynnar (tua 1773) o sgôr brintiedig ''Messiah'' Handel. Yn ogystal, mae’r Llyfrgell wedi casglu’n ddiwyd amrywiaeth o gerddoriaeth brintiedig Gymreig o bob cyfnod, sy’n cynnwys nid yn unig amryfal weithiau cyfansoddwyr Cymreig, ond hefyd wahanol argraffiadau o’r rheini, yn ogystal â deunydd mwy effemeraidd megis rhaglenni cyngherddau a [[gwyliau]] cerddorol a rhaglenni cymanfaoedd canu lleol a chenedlaethol. Adeiladwyd hefyd yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru sy’n rhan o’r Llyfrgell Genedlaethol gasgliad o recordiau o ddiddordeb Cymreig o gyfnod y recordiau masnachol cynharaf (tua 1899) ymlaen, a sicrhawyd yr hawl i recordio deunydd o ddiddordeb Cymreig a ddarlledir ar radio a theledu at bwrpas archifo. Archifir yn ogystal ffilmiau, gwefannau a chyhoeddiadau electronig o ddiddordeb cerddorol Cymreig.
 
  
Mae’r Llyfrgell hefyd yn gartref i gasgliad eang o
+
Mae’r Llyfrgell hefyd yn gartref i gasgliad eang o lawysgrifau ac [[archifau]] cerddorol o bwys. Yno y cedwir er enghraifft ‘Antiffonal Penpont’ (llawysgrif NLW 20541E), llyfr gwasanaeth canoloesol sy’n cynnwys gwasanaeth penodol ar gyfer Gŵyl Ddewi; llawysgrifau [[Williams, Edward (Iolo Morganwg) (1747-1826) | Iolo Morganwg]], [[Jenkins, John (Ifor Ceri; 1770-1829) | Ifor Ceri]] a [[Williams, J. Lloyd (1854-1945) | J. Lloyd Williams]] o gerddoriaeth  draddodiadol  Gymreig; a chasgliadau o donau a llyfrau pricio o’r 18g. a’r 19g. Ceir yno gasgliadau o lawysgrifau nifer dda  o gyfansoddwyr blaenllaw y 19g. a’r 20g., gan gynnwys [[Joseph Parry]], [[Williams, Grace (1906-77) | Grace Williams]], [[Thomas, Mansel (1909-86) | Mansel Thomas]], [[Daniel Jones]], [[Elwyn-Edwards, Dilys (1918-2012) | Dilys Elwyn-Edwards]], [[Hoddinott, Alun (1929-2008) | Alun Hoddinott]] a [[Mathias, William (1934-92) | William Mathias]], yn ogystal â deunydd archifol megis llythyrau a phapurau amryw o gerddorion Cymreig. Ymhlith y realia a gedwir yn y Llyfrgell mae [[crwth]] y dywedir ei fod yn eiddo i [[Jones, Edward (Bardd y Brenin; 1752-1824) | Edward Jones]] (Bardd y Brenin).
lawysgrifau ac [[archifau]] cerddorol o bwys. Yno y cedwir er enghraifft ‘Antiffonal Penpont’ (llawysgrif NLW 20541E), llyfr gwasanaeth canoloesol sy’n cynnwys gwasanaeth penodol ar gyfer Gŵyl Ddewi; llawysgrifau [[Iolo Morganwg]], [[Ifor Ceri]] a [[J. Lloyd Williams]] o gerddoriaeth  draddodiadol  Gymreig; a chasgliadau o donau a llyfrau pricio o’r 18g. a’r 19g. Ceir yno gasgliadau o lawysgrifau nifer dda  o gyfansoddwyr blaenllaw y 19g. a’r 20g., gan gynnwys [[Joseph Parry]], [[Grace Williams]], [[Mansel Thomas]], [[Daniel Jones]], [[Dilys Elwyn-Edwards]], [[Alun Hoddinott]] a [[William Mathias]], yn ogystal â deunydd archifol megis llythyrau a phapurau amryw o gerddorion Cymreig. Ymhlith y realia a gedwir yn y Llyfrgell mae [[crwth]] y dywedir ei fod yn eiddo i [[Edward Jones]] (Bardd y Brenin).
 
  
O’i dechreuad bron, ymddiddorodd  Amgueddfa Genedlaethol Cymru mewn [[offerynnau]] cerdd ac ymhlith casgliadau Amgueddfa Cymru (yn bennaf yn Amgueddfa Werin Cymru) ceir nifer o enghreifftiau o offerynnau Cymreig, gan gynnwys crythau, pibgyrn a thelynau unrhes a theires. Ceir yno dri phibgorn Cymreig o ogledd Cymru yn dyddio o’r 18g. a chrwth o wneuthuriad Richard Evans o Lanfihangel Bachellaeth sy’n dwyn arno’r dyddiad 1742. Ymhlith y telynau yng nghasgliad yr Amgueddfa ceir [[telyn]] unrhes y dywedir ei bod yn eiddo i’r llenor Ellis Wynne (1670/1–1734) o’r Lasynys ger Harlech; [[telyn deires]] o’r 18g. a wnaed gan John Richards, Llanrwst; a phedair telyn, un delyn unrhes a thair telyn deires, o wneuthuriad Bassett Jones, Caerdydd. Ceir hefyd sawl piano hanesyddol ac enghraifft o ''virginal'' sy’n dyddio o 1654. Mae Amgueddfa Werin Cymru yn gartref i eitemau sy’n ymwneud â digwyddiadau cerddorol, megis ‘Cwpan Caradog’, a enillwyd gan Gôr De Cymru dan arweiniad Caradog (Griffith Rhys Jones; 1834–97) yn y Palas Grisial yn 1872 ac 1873, a gramoffon o 1904 a oedd yn eiddo i’r gantores [[Adelina Patti]]. Ceir hefyd gasgliad o 31 o silindrau cwyr a recordiwyd gan y Fonesig [[Ruth Herbert Lewis]] yn nyddiau cynnar casglu caneuon gwerin yng Nghymru, a defnyddiau sy’n cofnodi gwaith maes yr Amgueddfa o ran casglu, a recordiadau o gantorion gwerin, [[canu plygain]], Adrodd Pwnc a defodau gwerin megis y Fari Lwyd.
+
O’i dechreuad bron, ymddiddorodd  Amgueddfa Genedlaethol Cymru mewn [[Organoleg ac Offerynnau | offerynnau]] cerdd ac ymhlith casgliadau Amgueddfa Cymru (yn bennaf yn Amgueddfa Werin Cymru) ceir nifer o enghreifftiau o offerynnau Cymreig, gan gynnwys crythau, pibgyrn a thelynau unrhes a theires. Ceir yno dri phibgorn Cymreig o ogledd Cymru yn dyddio o’r 18g. a chrwth o wneuthuriad Richard Evans o Lanfihangel Bachellaeth sy’n dwyn arno’r dyddiad 1742. Ymhlith y telynau yng nghasgliad yr Amgueddfa ceir [[telyn]] unrhes y dywedir ei bod yn eiddo i’r llenor Ellis Wynne (1670/1–1734) o’r Lasynys ger Harlech; [[telyn deires]] o’r 18g. a wnaed gan John Richards, Llanrwst; a phedair telyn, un delyn unrhes a thair telyn deires, o wneuthuriad Bassett Jones, Caerdydd. Ceir hefyd sawl piano hanesyddol ac enghraifft o ''virginal'' sy’n dyddio o 1654. Mae Amgueddfa Werin Cymru yn gartref i eitemau sy’n ymwneud â digwyddiadau cerddorol, megis ‘Cwpan Caradog’, a enillwyd gan Gôr De Cymru dan arweiniad Caradog (Griffith Rhys Jones; 1834–97) yn y Palas Grisial yn 1872 ac 1873, a gramoffon o 1904 a oedd yn eiddo i’r gantores [[Patti, Adelina (1843-1919) | Adelina Patti]]. Ceir hefyd gasgliad o 31 o silindrau cwyr a recordiwyd gan y Fonesig [[Lewis, Ruth Herbert (1871-1946) | Ruth Herbert Lewis]] yn nyddiau cynnar casglu caneuon gwerin yng Nghymru, a defnyddiau sy’n cofnodi gwaith maes yr Amgueddfa o ran casglu, a recordiadau o gantorion gwerin, [[canu plygain]], Adrodd Pwnc a defodau gwerin megis y Fari Lwyd.
  
O fewn llyfrgelloedd prifysgolion Cymru ceir sawl casgliad o gerddoriaeth. Cedwir llawysgrifau [[David de Lloyd]] (1883–1948) a chasgliad George Ernest Powell, Nanteos, yn llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Yn llyfrgell Prifysgol Caerdydd cedwir casgliad teulu Mackworth o ardal Castell-nedd, sy’n cynnwys llawysgrifau cerddorol a deunyddiau printiedig o’r 16g. hyd y 18g., a chasgliad Theodore Edward Aylward, a fu’n organydd Eglwys Gadeiriol Llandâf, sy’n cynnwys dros 700 o eitemau cerddorol. Ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd y lleolir casgliad y BBC o gerddoriaeth o’r 18g. a’r 19g., a chasgliadau llawysgrifau a defnyddiau personol y gyfansoddwraig [[Morfydd Llwyn Owen]] (1891-1918) a’r cyfansoddwr [[David Wynne]] (1900-83). Yn yr un modd mae Llyfrgell ac [[Archifau]] Prifysgol Bangor yn gartref i gasgliadau o ddiddordeb cerddorol. Yno ceir er enghraifft bapurau R. D. Griffith (1877-1958), hanesydd canu cynulleidfaol Cymru, a chasgliad [[Mary Davies]] (1855-1930) o ddeunydd sy’n ymwneud â blynyddoedd cynnar [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] a’r casglu arloesol ar ganeuon gwerin Cymraeg ym mlynyddoedd cynnar yr 20g.
+
O fewn llyfrgelloedd prifysgolion Cymru ceir sawl casgliad o gerddoriaeth. Cedwir llawysgrifau [[De Lloyd, David (1883-1948) | David de Lloyd]] (1883–1948) a chasgliad George Ernest Powell, Nanteos, yn llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Yn llyfrgell Prifysgol Caerdydd cedwir casgliad teulu Mackworth o ardal Castell-nedd, sy’n cynnwys llawysgrifau cerddorol a deunyddiau printiedig o’r 16g. hyd y 18g., a chasgliad Theodore Edward Aylward, a fu’n organydd Eglwys Gadeiriol Llandâf, sy’n cynnwys dros 700 o eitemau cerddorol. Ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd y lleolir casgliad y BBC o gerddoriaeth o’r 18g. a’r 19g., a chasgliadau llawysgrifau a defnyddiau personol y gyfansoddwraig [[Owen, Morfydd (1891-1918) | Morfydd Llwyn Owen]] (1891-1918) a’r cyfansoddwr [[Wynne, David (1900-83) | David Wynne]] (1900-83). Yn yr un modd mae Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor yn gartref i gasgliadau o ddiddordeb cerddorol. Yno ceir er enghraifft bapurau R. D. Griffith (1877-1958), hanesydd canu cynulleidfaol Cymru, a chasgliad [[Davies, Mary (1855-1930) | Mary Davies]] (1855-1930) o ddeunydd sy’n ymwneud â blynyddoedd cynnar [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] a’r casglu arloesol ar ganeuon gwerin Cymraeg ym mlynyddoedd cynnar yr 20g.
  
Bu’n arfer ers blynyddoedd i lyfrgelloedd cyhoeddus
+
Bu’n arfer ers blynyddoedd i lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru grynhoi casgliadau o lyfrau cerddorol a recordiau i’w benthyca, ac weithiau setiau cerddorol i ddiwallu anghenion grwpiau offerynnol a lleisiol lleol. Ac mae Tŷ Cerdd yng Nghaerdydd, sy’n cynnwys Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru, yn gartref i gasgliad pwysig o weithiau gan gyfansoddwyr Cymreig cyfoes.
yng Nghymru grynhoi casgliadau o lyfrau cerddorol a recordiau i’w benthyca, ac weithiau setiau cerddorol i ddiwallu anghenion grwpiau offerynnol a lleisiol lleol. Ac mae Tŷ Cerdd yng Nghaerdydd, sy’n cynnwys Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru, yn gartref i gasgliad pwysig o weithiau gan gyfansoddwyr Cymreig cyfoes.
 
  
 
'''Rhidian Griffiths'''
 
'''Rhidian Griffiths'''

Diwygiad 16:41, 25 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(gw. hefyd Archifau)

Er bod casgliadau preifat o gerddoriaeth, ac ambell gasgliad eglwysig, yn bod cyn yr 20g., nid tan ddyfodiad y sefydliadau cenedlaethol a’r llyfrgelloedd cyhoeddus mawr y gwelwyd casgliadau sylweddol a oedd ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru. Cyn hynny casglwyd rhai eitemau o bwys i sefydliadau yn Lloegr, er enghraifft y llawysgrif o gerddoriaeth i’r delyn, ‘Llawysgrif Robert ap Huw’, a ddiogelwyd yn y Llyfrgell Brydeinig (MS Additional 14905). Agorwyd Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth yn 1872, daeth Prifysgol Cymru i fod yn 1893 a dechreuwyd datblygu casgliadau ymchwil. Sylfaenwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru ill dwy ar 19 Mawrth 1907, ac ar ddiwedd y 19g. a dechrau’r 20g. y gwelwyd llyfrgelloedd cyhoeddus mawr megis Caerdydd yn adeiladu casgliadau ymchwil o bwys.

Breintiwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru â’r hawl trwy Ddeddf Hawlfraint 1911 (a diwygiadau diweddarach arni) i ofyn am gopi rhad ac am ddim o bopeth printiedig a gyhoeddir ym Mhrydain ac Iwerddon, gan gynnwys cerddoriaeth. Golyga hyn fod ganddi gasgliad cynhwysfawr o gerddoriaeth brintiedig a gyhoeddwyd gan weisg Prydeinig o 1912 ymlaen, pan ddaeth deddf 1911 i rym. Mae hyn yn cynnwys cyfran uchel (er nad pob dim) o gynnyrch tai cyhoeddi megis Novello, Boosey a Gwasg Prifysgol Rhydychen yn ogystal â chyhoeddwyr llai o faint. Ychwanegwyd at hynny gasgliadau o gerddoriaeth Ewropeaidd, gan gynnwys argraffiadau beirniadol cyflawn o waith cyfansoddwyr blaenllaw – yn eu plith Bach, Beethoven, Handel, Haydn, Mozart, Palestrina, Rossini, Shostakovich a Verdi. Ceir hefyd eitemau o ddiddordeb hanesyddol cyffredinol, gan gynnwys er enghraifft gopi cynnar (tua 1773) o sgôr brintiedig Messiah Handel. Yn ogystal, mae’r Llyfrgell wedi casglu’n ddiwyd amrywiaeth o gerddoriaeth brintiedig Gymreig o bob cyfnod, sy’n cynnwys nid yn unig amryfal weithiau cyfansoddwyr Cymreig, ond hefyd wahanol argraffiadau o’r rheini, yn ogystal â deunydd mwy effemeraidd megis rhaglenni cyngherddau a gwyliau cerddorol a rhaglenni cymanfaoedd canu lleol a chenedlaethol. Adeiladwyd hefyd yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru sy’n rhan o’r Llyfrgell Genedlaethol gasgliad o recordiau o ddiddordeb Cymreig o gyfnod y recordiau masnachol cynharaf (tua 1899) ymlaen, a sicrhawyd yr hawl i recordio deunydd o ddiddordeb Cymreig a ddarlledir ar radio a theledu at bwrpas archifo. Archifir yn ogystal ffilmiau, gwefannau a chyhoeddiadau electronig o ddiddordeb cerddorol Cymreig.

Mae’r Llyfrgell hefyd yn gartref i gasgliad eang o lawysgrifau ac archifau cerddorol o bwys. Yno y cedwir er enghraifft ‘Antiffonal Penpont’ (llawysgrif NLW 20541E), llyfr gwasanaeth canoloesol sy’n cynnwys gwasanaeth penodol ar gyfer Gŵyl Ddewi; llawysgrifau Iolo Morganwg, Ifor Ceri a J. Lloyd Williams o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig; a chasgliadau o donau a llyfrau pricio o’r 18g. a’r 19g. Ceir yno gasgliadau o lawysgrifau nifer dda o gyfansoddwyr blaenllaw y 19g. a’r 20g., gan gynnwys Joseph Parry, Grace Williams, Mansel Thomas, Daniel Jones, Dilys Elwyn-Edwards, Alun Hoddinott a William Mathias, yn ogystal â deunydd archifol megis llythyrau a phapurau amryw o gerddorion Cymreig. Ymhlith y realia a gedwir yn y Llyfrgell mae crwth y dywedir ei fod yn eiddo i Edward Jones (Bardd y Brenin).

O’i dechreuad bron, ymddiddorodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru mewn offerynnau cerdd ac ymhlith casgliadau Amgueddfa Cymru (yn bennaf yn Amgueddfa Werin Cymru) ceir nifer o enghreifftiau o offerynnau Cymreig, gan gynnwys crythau, pibgyrn a thelynau unrhes a theires. Ceir yno dri phibgorn Cymreig o ogledd Cymru yn dyddio o’r 18g. a chrwth o wneuthuriad Richard Evans o Lanfihangel Bachellaeth sy’n dwyn arno’r dyddiad 1742. Ymhlith y telynau yng nghasgliad yr Amgueddfa ceir telyn unrhes y dywedir ei bod yn eiddo i’r llenor Ellis Wynne (1670/1–1734) o’r Lasynys ger Harlech; telyn deires o’r 18g. a wnaed gan John Richards, Llanrwst; a phedair telyn, un delyn unrhes a thair telyn deires, o wneuthuriad Bassett Jones, Caerdydd. Ceir hefyd sawl piano hanesyddol ac enghraifft o virginal sy’n dyddio o 1654. Mae Amgueddfa Werin Cymru yn gartref i eitemau sy’n ymwneud â digwyddiadau cerddorol, megis ‘Cwpan Caradog’, a enillwyd gan Gôr De Cymru dan arweiniad Caradog (Griffith Rhys Jones; 1834–97) yn y Palas Grisial yn 1872 ac 1873, a gramoffon o 1904 a oedd yn eiddo i’r gantores Adelina Patti. Ceir hefyd gasgliad o 31 o silindrau cwyr a recordiwyd gan y Fonesig Ruth Herbert Lewis yn nyddiau cynnar casglu caneuon gwerin yng Nghymru, a defnyddiau sy’n cofnodi gwaith maes yr Amgueddfa o ran casglu, a recordiadau o gantorion gwerin, canu plygain, Adrodd Pwnc a defodau gwerin megis y Fari Lwyd.

O fewn llyfrgelloedd prifysgolion Cymru ceir sawl casgliad o gerddoriaeth. Cedwir llawysgrifau David de Lloyd (1883–1948) a chasgliad George Ernest Powell, Nanteos, yn llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Yn llyfrgell Prifysgol Caerdydd cedwir casgliad teulu Mackworth o ardal Castell-nedd, sy’n cynnwys llawysgrifau cerddorol a deunyddiau printiedig o’r 16g. hyd y 18g., a chasgliad Theodore Edward Aylward, a fu’n organydd Eglwys Gadeiriol Llandâf, sy’n cynnwys dros 700 o eitemau cerddorol. Ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd y lleolir casgliad y BBC o gerddoriaeth o’r 18g. a’r 19g., a chasgliadau llawysgrifau a defnyddiau personol y gyfansoddwraig Morfydd Llwyn Owen (1891-1918) a’r cyfansoddwr David Wynne (1900-83). Yn yr un modd mae Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor yn gartref i gasgliadau o ddiddordeb cerddorol. Yno ceir er enghraifft bapurau R. D. Griffith (1877-1958), hanesydd canu cynulleidfaol Cymru, a chasgliad Mary Davies (1855-1930) o ddeunydd sy’n ymwneud â blynyddoedd cynnar Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a’r casglu arloesol ar ganeuon gwerin Cymraeg ym mlynyddoedd cynnar yr 20g.

Bu’n arfer ers blynyddoedd i lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru grynhoi casgliadau o lyfrau cerddorol a recordiau i’w benthyca, ac weithiau setiau cerddorol i ddiwallu anghenion grwpiau offerynnol a lleisiol lleol. Ac mae Tŷ Cerdd yng Nghaerdydd, sy’n cynnwys Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru, yn gartref i gasgliad pwysig o weithiau gan gyfansoddwyr Cymreig cyfoes.

Rhidian Griffiths



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.