Anonymedd

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:00, 4 Ebrill 2019 gan Gwenda Richards (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Anonymity

Person sy’n hysbys i’r gohebydd ond yn aros yn ddienw i’r cyhoedd. Daeth ysgrifennu cynnwys heb ddatgelu enw’r awdur yn gyffredin ar ôl i’r wasg argraffu wneud cylchrediad testunau yn bosibl heb unrhyw gysylltiad ymarferol rhyngddyn nhw a’u hawduron. Mae anonymedd mewn newyddiaduraeth yn gysylltiedig ag allbwn newyddion dienw a ffynonellau dienw, ac yn y ddau achos mae’n tanseilio tueddiad ehangach newyddiaduraeth tuag at ddatgelu clir.

Yn aml, mae newyddiadurwyr yn cytuno i gadw ffynhonnell yn ddienw er mwyn cael gwybodaeth ganddo, ond yn hanesyddol, mae derbyn anonymedd fel amod ar gyfer rhannu gwybodaeth wedi arwain at uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ym myd newyddiaduraeth. Ni fyddai sgandal Watergate, er enghraifft, wedi dod i’r fei heb ymyrraeth ffynhonnell ddienw.

Yn y blynyddoedd ers hynny, sefydlwyd confensiynau ynglŷn â chadw ffynonellau’n ddirgel oherwydd bygythiadau i fywoliaeth neu les y ffynhonnell. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd yn nifer y problemau sy’n codi yn achos hygrededd newyddiadurwyr yn sgil rhai ffynonellau nad ydynt yn bodoli, neu bod newyddiadurwyr yn methu â gwirio honiadau, neu bod y ffynhonnell yn dal dig yn erbyn rhywun ac am ddial arno. Mae rhai newyddiadurwyr wedi camdrin anonymedd er mwyn creu storïau ffug neu anghywir, gydag enghreifftiau (cymharol brin) o gamymddwyn wedi dod yn destun newyddion yn eu hunain.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.