Anterliwt

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:10, 22 Tachwedd 2016 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Drama werin o ganu, llefaru a dawnsio a ffynnai yn ystod y 17g. a’r 18g. yw anterliwt, ac megis ffurfiau eraill ar lenyddiaeth werinol neu boblogaidd, y mae iddi elfennau stoc, sefydlog y byddai’r gynulleidfa yn gyfarwydd â’u harwyddocâd. Roedd y rhain yn cynnwys cymeriadau’r Ffŵl a’r Cybydd a fyddai’n ymrafael a dadlau wrth i’r Ffŵl ifanc cellweirus geisio twyllo’r hen Gybydd a herian y merched gyda’i honiadau ac ystumiau rhywiol. Ochr yn ochr â’r haen draddodiadol hon ceid hefyd haen gyfnewidiol a adroddai alegori neu stori hanesyddol, chwedlonol neu Feiblaidd, a’r stori honno’n aml a roddai i’r anterliwt ei henw, megis Y Brenin Llŷr neu Y Dywysoges Genefetha.

Perthynai’r anterliwt i’r gogledd-ddwyrain yn bennaf. Dyma gadarnle’r faled ar y pryd hefyd ac yr oedd y ddwy ffurf yn tarddu o’r un ffrwd ddiwylliannol a roddai flaenoriaeth i fydryddiaeth berfformiadol. Yno, roedd anterliwtwyr megis Huw Jones, Llangwm (m.1782) Elis y Cowper (Ellis Roberts m.1789), Jonathan Hughes (1721-1805), a Twm o’r Nant (Thomas Edwards, 1739-1810), hefyd yn garolwyr ac yn faledwyr. O ganlyniad, er bod hiwmor mwyaf amrwd y Ffŵl a’r Cybydd yn nodweddiadol o adloniant awyr agored, bras yr anterliwt, ni welai’r anterliwtwyr ddim o’i le ar gyfuno hynny â moesoli ac athronyddu dyrchafol. Dyna a wnâi’r anterliwt yn ffurf mor rymus – cynigiai ddigon o hwyl a thynnu coes a’r hiwmor croch yr oedd y gynulleidfa yn ei ddisgwyl ond gallai’r awduron gorau hefyd gynnig rhywbeth ystyrlon i gnoi cil arno ymhell wedi i’r chwaraewyr symud i’r plwyf nesaf. Ystyrir mai Twm o’r Nant oedd y praffaf o’r anterliwtwyr am iddo gynnig sylwebaeth foesol a chymdeithasol yn ogystal â diddanwch.

Bu parchuso ar yr anterliwt erbyn diwedd oes Twm, ond diflannu fu ei thynged yn wyneb twf Methodistiaeth a newidiadau cymdeithasol y 19g. Trodd Twm o’r Nant, hyd yn oed, ei gefn ar y ffurf (er dychwelyd ati am resymau ariannol, cyn ei gwrthod drachefn), a bu chwynnu a sensora ar y deunydd gan feirniaid llên a golygyddion am genedlaethau wedyn. Mae gwaith ymchwil diweddar, fodd bynnag, yn hawlio i’r anterliwt ei lle drachefn gan gynnig persbectif newydd inni ar arwyddocâd cymdeithasol a llenyddol y ffurf, a chyfle i ail-ddarganfod lliw ac egni’r ieithwedd wreiddiol.

Siwan M. Rosser

Llyfryddiaeth

Evans, G. G. (1950), ‘Yr Anterliwt Gymraeg’, Llên Cymru, I:2, 83-96.

Evans, G. G. (1953), ‘Yr Anterliwt Gymraeg, II’, Llên Cymru, II:4, 224-231.

Jones, Ff. M., (gol.) (2014), Y Chwyldro Ffrengig a’r Anterliwt: Hanes Bywyd a Marwolaeth Brenin a Brenhines Ffrainc gan Huw Jones, Glanconwy (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Lake, A. C. (1994), ‘Puro’r Anterliwt’, Taliesin, 84, 30-39.

Roberts, A. C. (gol.) (2011), Twm o’r Nant: Dwy Anterliwt – Cyfoeth a Thlodi a Thri Cydymaith Dyn (Bangor: Dalen Newydd).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.