Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Anterliwt a Cherddoriaeth mewn Anterliwtiau"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 6: Llinell 6:
 
Byddai’r ddeialog i gyd mewn penillion pedair llinell, yn dribannau fel arfer, ond weithiau mewn mesurau eraill, gyda chyffyrddiadau cynganeddol o bryd i’w gilydd. Cynhwysai’r anterliwt fel arfer gymeriadau stoc y Ffŵl a’r Cybydd, y naill yn cynrychioli ysbryd rhydd (a doethineb yn amlach na heb) a’r llall yn gocyn hitio, yn cynrychioli gormes ac awdurdod. Ceir yn yr anterliwtiau elfennau o ddiwinyddiaeth, doethinebu, stori Feiblaidd, stori werin neu ryw ddigwyddiad hanesyddol, a llawer  o ddychan cymdeithasol. Ceir protestio yn erbyn symudiadau’r oes a newid o bob math, sydd efallai’n esbonio poblogrwydd yr anterliwt mewn ardaloedd gwledig neilltuedig lle nad oedd croeso brwd i bethau newydd. Mae’r anterliwt ''Ffrewyll y Methodistiaid'' gan William Roberts, er enghraifft, yn deillio o’r 1740au cynnar ac yn bwrw ei chas ar y mudiad crefyddol newydd.
 
Diogelwyd anterliwtiau gan nifer o awduron, yn eu plith Huw Jones, Llangwm, ac Ellis Roberts. Digon cwrs yw cynnwys rhai o’r anterliwtiau, ond datblygodd y ffurf yn sylweddol yn llaw Twm o’r Nant (Thomas Edwards; 1739–1810), yr amlycaf o’r anterliwtwyr. Ceir yn ei waith ef fwy o bwyslais ar ddychan ac alegori, a llai o anlladrwydd nag a geir yng ngwaith rhai awduron eraill. Nid oes amheuaeth am boblogrwydd y perfformiadau. Yn ôl Elizabeth Baker yn 1785, gallai’r chwaraewyr, trwy godi ceiniog yr un ar y gynulleidfa, dderbyn rhwng 25 a 30 swllt mewn noson, sy’n cynrychioli cyfanswm o 300 i 360 o wrandawyr ([[Kinney]] 2011, 122).
+
Diogelwyd anterliwtiau gan nifer o awduron, yn eu plith Huw Jones, Llangwm, ac Ellis Roberts. Digon cwrs yw cynnwys rhai o’r anterliwtiau, ond datblygodd y ffurf yn sylweddol yn llaw Twm o’r Nant (Thomas Edwards; 1739–1810), yr amlycaf o’r anterliwtwyr. Ceir yn ei waith ef fwy o bwyslais ar ddychan ac alegori, a llai o anlladrwydd nag a geir yng ngwaith rhai awduron eraill. Nid oes amheuaeth am boblogrwydd y perfformiadau. Yn ôl Elizabeth Baker yn 1785, gallai’r chwaraewyr, trwy godi ceiniog yr un ar y gynulleidfa, dderbyn rhwng 25 a 30 swllt mewn noson, sy’n cynrychioli cyfanswm o 300 i 360 o wrandawyr ([[Kinney, Phyllis (g.1922) | Kinney]] 2011, 122).
  
Ceid llawer o ganu a dawnsio yn yr anterliwtiau, a byddai [[ffidil]] yn cyfeilio i’r dawnsio fel arfer. Mae’n debyg fod John Thomas yn ffidlwr anterliwtiau profiadol, gan iddo gofnodi nifer o’r tonau a ddefnyddid ynddynt, ac alawon dawns yw’r rhan helaethaf o’i ''repertoire'' (''Alawon John Thomas'' (Aberystwyth, 2004), iv). Enghraifft o alaw ddawns yw ‘Sboncbogel’, sy’n amrywiad ar yr alaw Elisabethaidd o Loegr, ‘Pepper is black’. Defnyddid alawon poblogaidd ar gyfer y caneuon, er nad enwir mohonynt yn y testunau bob tro – ‘Breuddwyd y Frenhines’, ‘Blodau’r Gogledd’, ‘Bryniau’r Werddon’, ‘Glan Meddwdod Mwyn', ''‘Miller’s Key’'', ''‘Crimson Velvet’'', ''‘Black-eyed Susan’''. Digwydd ‘Ar Hyd y Nos’ yn ''Ffrewyll y Methodistiaid''. Mae’r caneuon eu hunain yn aml yn gywrain eu gwead ac yn gyfoethog eu cynnwys.
 
Llinell 16: Llinell 16:
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
:William Roberts, ''Ffrewyll y Methodistiaid'', gol. A. Cynfael Lake (Caerdydd, 1998)
+
*William Roberts, ''Ffrewyll y Methodistiaid'', gol. A. Cynfael Lake (Caerdydd, 1998)
  
:Dafydd Glyn Jones, ‘The Interludes’, ''A guide to Welsh Literature c.1700–1800'', gol. Branwen Jarvis (Caerdydd, 2000), 210–55
+
*Dafydd Glyn Jones, ‘The Interludes’, ''A guide to Welsh Literature c.1700–1800'', gol. Branwen Jarvis (Caerdydd, 2000), 210–55
  
:''Alawon John Thomas: a fiddler’s tune-book from eighteenth- century Wales'', gol. Cass Meurig (Aberystwyth, 2004)
+
*''Alawon John Thomas: a fiddler’s tune-book from eighteenth-century Wales'', gol. Cass Meurig (Aberystwyth, 2004)
  
:Phyllis Kinney, ''Welsh Traditional Music'' (Caerdydd, 2011)
+
*Phyllis Kinney, ''Welsh Traditional Music'' (Caerdydd, 2011)
  
:Ffion Mair Jones (gol.), ''Y Chwyldro Ffrengig a’r Anterliwt'' (Caerdydd, 2014)
+
*Ffion Mair Jones (gol.), ''Y Chwyldro Ffrengig a’r Anterliwt'' (Caerdydd, 2014)
  
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 16:43, 25 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Drama fydryddol oedd yr anterliwt, a gyrhaeddodd anterth ei phoblogrwydd yng ngogledd Cymru rhwng ail hanner yr 17g. a dechrau’r 19g. Mae’n perthyn yn arbennig i siroedd Dinbych, Fflint a gogledd Meirionnydd. Er bod y gair yn tarddu o’r gair Saesneg interlude roedd yr anterliwt yn hollol Gymreig ei naws a’i chyflwyniad. Fe’i perfformid yn yr awyr agored, ar fin y ffordd, ar fuarth fferm neu westy, neu ar sgwâr y farchnad, ac yn aml defnyddid trol neu gert, neu ystyllen ar draws dau faril, i ffurfio llwyfan, heb lenni na chelfi. Nifer fach o chwaraewyr a geid fel arfer, a’r rheini’n chwarae mwy nag un rhan, yn pwysleisio mai chwarae rhan yr oeddynt, ac nid yn creu cymeriad fel mewn drama fodern. Dynion yn unig fyddai’n perfformio. Ceid cyfeiriadau cyfoes a lleol o fewn y ddrama a oedd yn fodd i ddwyn y gynulleidfa i mewn i’r chwarae.

Byddai’r ddeialog i gyd mewn penillion pedair llinell, yn dribannau fel arfer, ond weithiau mewn mesurau eraill, gyda chyffyrddiadau cynganeddol o bryd i’w gilydd. Cynhwysai’r anterliwt fel arfer gymeriadau stoc y Ffŵl a’r Cybydd, y naill yn cynrychioli ysbryd rhydd (a doethineb yn amlach na heb) a’r llall yn gocyn hitio, yn cynrychioli gormes ac awdurdod. Ceir yn yr anterliwtiau elfennau o ddiwinyddiaeth, doethinebu, stori Feiblaidd, stori werin neu ryw ddigwyddiad hanesyddol, a llawer o ddychan cymdeithasol. Ceir protestio yn erbyn symudiadau’r oes a newid o bob math, sydd efallai’n esbonio poblogrwydd yr anterliwt mewn ardaloedd gwledig neilltuedig lle nad oedd croeso brwd i bethau newydd. Mae’r anterliwt Ffrewyll y Methodistiaid gan William Roberts, er enghraifft, yn deillio o’r 1740au cynnar ac yn bwrw ei chas ar y mudiad crefyddol newydd.

Diogelwyd anterliwtiau gan nifer o awduron, yn eu plith Huw Jones, Llangwm, ac Ellis Roberts. Digon cwrs yw cynnwys rhai o’r anterliwtiau, ond datblygodd y ffurf yn sylweddol yn llaw Twm o’r Nant (Thomas Edwards; 1739–1810), yr amlycaf o’r anterliwtwyr. Ceir yn ei waith ef fwy o bwyslais ar ddychan ac alegori, a llai o anlladrwydd nag a geir yng ngwaith rhai awduron eraill. Nid oes amheuaeth am boblogrwydd y perfformiadau. Yn ôl Elizabeth Baker yn 1785, gallai’r chwaraewyr, trwy godi ceiniog yr un ar y gynulleidfa, dderbyn rhwng 25 a 30 swllt mewn noson, sy’n cynrychioli cyfanswm o 300 i 360 o wrandawyr ( Kinney 2011, 122).

Ceid llawer o ganu a dawnsio yn yr anterliwtiau, a byddai ffidil yn cyfeilio i’r dawnsio fel arfer. Mae’n debyg fod John Thomas yn ffidlwr anterliwtiau profiadol, gan iddo gofnodi nifer o’r tonau a ddefnyddid ynddynt, ac alawon dawns yw’r rhan helaethaf o’i repertoire (Alawon John Thomas (Aberystwyth, 2004), iv). Enghraifft o alaw ddawns yw ‘Sboncbogel’, sy’n amrywiad ar yr alaw Elisabethaidd o Loegr, ‘Pepper is black’. Defnyddid alawon poblogaidd ar gyfer y caneuon, er nad enwir mohonynt yn y testunau bob tro – ‘Breuddwyd y Frenhines’, ‘Blodau’r Gogledd’, ‘Bryniau’r Werddon’, ‘Glan Meddwdod Mwyn', ‘Miller’s Key’, ‘Crimson Velvet’, ‘Black-eyed Susan’. Digwydd ‘Ar Hyd y Nos’ yn Ffrewyll y Methodistiaid. Mae’r caneuon eu hunain yn aml yn gywrain eu gwead ac yn gyfoethog eu cynnwys.

Perthyn i’w cyfnod yr oedd yr anterliwtiau. Aethant allan o ffasiwn yn gyflym yn nechrau’r 19g., a dim ond Tri Chryfion Byd o waith Twm o’r Nant a barhaodd yn destun adnabyddus. Yn ddiweddar, fodd bynnag, daethpwyd i werthfawrogi o’r newydd rymuster a chlyfrwch y ffurf arbennig hon ar lenyddiaeth a diddanwch y werin.

Rhidian Griffiths

Llyfryddiaeth

  • William Roberts, Ffrewyll y Methodistiaid, gol. A. Cynfael Lake (Caerdydd, 1998)
  • Dafydd Glyn Jones, ‘The Interludes’, A guide to Welsh Literature c.1700–1800, gol. Branwen Jarvis (Caerdydd, 2000), 210–55
  • Alawon John Thomas: a fiddler’s tune-book from eighteenth-century Wales, gol. Cass Meurig (Aberystwyth, 2004)
  • Phyllis Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011)
  • Ffion Mair Jones (gol.), Y Chwyldro Ffrengig a’r Anterliwt (Caerdydd, 2014)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.