Ap Rhys, Philip

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(m.1566)

Organydd a chyfansoddwr oedd Philip ap Rhys ac un o’r Cymry niferus a drigai yn Llundain yn oes y Tuduriaid. Enwir ‘Philipp Ryse, organ player’ gyntaf yng nghyfrifon plwyf 1547–8 St Mary at Hill (ger Billingsgate); ymddengys iddo adael yr eglwys honno am Eglwys Gadeiriol Sant Paul adeg y Nadolig 1547, ond dychwelodd fel ‘Mr Philip of Poles’ yn organydd gosber ar 17 Gorffennaf 1559. Ef oedd yr ail o ran pwysigrwydd o chwe ficer corawl Eglwys Sant Paul, a bu’n canu’r organ yno gydol teyrnasiad Mari Tudur (1553–8), gan gynnwys ‘at the precessyone tyme in Whitsone weeke’; mae ei lofnod yn ymddangos hefyd ar Ddeddf Goruchafiaeth Sant Paul 1559. Yn ddiweddar, darganfuwyd ei ewyllys, a wnaed ar 14 Tachwedd 1563 ac a brofwyd ar 3 Rhagfyr 1566, sy’n nodi ei fod yn byw ‘within the parish of Aldermanbury’ ac yn un o’r ‘vicars in the cathedral church of St Paul in London’. Mae’r ewyllys yn cadarnhau ei fod i’w gladdu ym mynwent eglwys Aldermanbury, mai ei wraig, Anne, fyddai’r unig ysgutor ac mai’r tystion oedd ei frawd John Apprice (y gadawodd Philip wahanol ddarnau o ddillad iddo) a Harry Blower (a benodwyd hefyd yn oruchwyliwr). Gadawodd Philip i Harry 'the chief of such books of song as pleaseth him to have after the perusing of hem’, ac roedd y cyfansoddwr Edmund Strowger (a adawodd ddarn yn y casgliad o weithiau organ a ddisgrifir isod) i gael ‘such books as the said Harry shall think good’.

Mae saith darn o gerddoriaeth organ gan ‘phelyppe apprys Off Saynt poulls in London’ yn goroesi yn yr haen gyntaf o gasgliad adnabyddus o gerddoriaeth organ ar gyfer y litwrgi Lladin (MS Additional 29996 y Llyfrgell Brydeinig). Dyma’r unig ffynhonnell hysbys o’i gerddoriaeth, ac ymddengys fod y cyfan o’r cynnwys wedi’i gyfansoddi cyn 1548; mae’n ddiddorol i’r cofnodydd ddewis y ffurf ddigamsyniol Gymreig ar ei enw yn hytrach na’r ‘Ryse’ Seisnigedig mwy arferol.

Mae arddull y gerddoriaeth yn deillio o’r blaengan ac yn gonfensiynol iawn, ond y saith darn hyn yw’r gerddoriaeth lawfwrdd gynharaf i oroesi y gellir ei phriodoli i gyfansoddwr o Gymro (er mai un a weithiai yn Llundain oedd hwnnw). Maent yn cynnwys atepgan y Cwmplin, Miserere; offrymgan Offeren Fair, Felix namque; a phedwar symudiad o Ordinari’r Offeren, sy’n ffrâm i’r offrymgan ‘In Die Sancte Trinitatis’, sy’n seiliedig ar y briod lafar-gân ar gyfer Sul y Drindod, Benedictus sit Deus Pater. Cyfeirir yn aml at y casgliad hwn o symudiadau fel yr enghraifft gynharaf y gwyddys amdani o offeren organ, er ei bod yn debygol mai’r cofnodydd a’i gosododd at ei gilydd yn hytrach na’r cyfansoddwr.

Yn ddiweddarach, daeth y casgliad i feddiant Thomas Tomkins (1572–1656), ac mae’n ddigon posibl iddo yntau ei gael gan ei dad (Thomas Tomkins oedd yntau hefyd). Roedd gan Tomkins y tad ddiddordeb mawr mewn llawysgrifau hynafol, a chysylltiad maith hefyd â Thyddewi o 1571 o leiaf. Fe’i penodwyd yn organydd yno yn 1577, ac felly mae’n bosibl fod cerddoriaeth Philip ap Rhys yn hysbys yn Nhyddewi, os nad mewn rhannau eraill o Gymru, yn weddol fuan ar ôl ei chyfansoddi.

Sally Harper

Llyfryddiaeth

Denis Stevens, ‘Philip ap Rhys’, Y Bywgraffiadur Cymraeg, gol. J. E. Lloyd & R. T. Jenkins (Llundain, 1959), fersiwn newydd arlein (LlGC, 2009), http://yba.llgc.org.uk/cy
John Harper, ‘Ailolwg ar Philip ap Rhys a’i Gerddoriaeth Organ Litwrgï’/‘Philip ap Rhys and his liturgical organ music revisited’, Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History, 2 (1997), 126–72
———, ‘Philip ap Rhys [Philipp Ryse]’, Oxford Dictionary of National Biography, gol. C. Matthew, B. Harrison et al., 60 cyfrol (Rhydychen, 2004; ar-lein http://www.oxforddnb.com/)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.