ap Siôn, Pwyll (g.1968)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:41, 28 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Pwyll Edwin ap Siôn yn Sir Benfro ond symudodd i Ynys Môn pan oedd yn ifanc. Astudiodd gyda’r cyfansoddwr Gareth Glyn rhwng 1980 ac 1984, tra yn mynychu Ysgol Uwchradd Llangefni, cyn treulio tair blynedd yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, gan raddio yno yn 1990. Flwyddyn yn ddiweddarach enillodd wobr Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn a’r Cylch. Aeth ymlaen i astudio cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor gyda John Pickard (g.1963) a Martin Butler (g.1960), gan dderbyn doethuriaeth yn 1998 am bortffolio o gyfansoddiadau. Ac yntau’n aelod o staff yr adran gerdd ym Mangor ers 1993, y mae bellach yn Athro mewn cerddoriaeth yno.

Y tu hwnt i gyhoeddi erthyglau ar gerddoriaeth bop Gymraeg, ei brif ddiddordeb fu cerddoriaeth finimalaidd cyfansoddwyr fel Steve Reich a Michael Nyman, a chlywir eu dylanwad yn ei arddull gerddorol. Enghraifft o hyn yw’r Waltz (1995) ar gyfer piano unawdol, a berfformiwyd gan bianyddion fel Llŷr Williams ac Iwan Llewelyn-Jones, lle gosodir yr un patrwm o bum nodyn mewn cylchdro ar gyfer pob un o chwe adran y darn.

Gan ddangos dylanwad Nyman ymhellach, bu hefyd yn hoff o gynnwys dyfyniadau yn ei gerddoriaeth. Mae ei ddarn cerddorfaol Gwales (1995), a gomisiynwyd gan Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn 1995, yn defnyddio dyfyniadau o Requiem anorffenedig Mozart gan gynnwys rhai brasluniau gan y cyfansoddwr na wnaethant ymddangos yn sgôr terfynol y gwaith. Perfformiwyd Gwales gan Gerddorfa Symffoni Gogledd Carolina yn ystod ei thymor yn 2012.

Yn 2008 comisiynwyd Pwyll ap Siôn gan Gystadleuaeth Ryngwladol Yehudi Menuhin (a gynhaliwyd y flwyddyn honno yng Nghaerdydd) i gyfansoddi darn prawf ar gyfer ffidil unawdol. Perfformiwyd Y Gwenith Gwyn – thema ac amrywiadau ar yr alaw draddodiadol ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’ – yng Nghanolfan y Mileniwm, a chyhoeddwyd y sgôr yng nghylchgrawn y Strad (Ebrill, 2008).

Ymhlith ei gyfansoddiadau mwy diweddar y mae cylch o ganeuon, Sevi (2013), ar gyfer soprano, piano a cherddorfa linynnol, sy’n rhyngosod testunau Cernyweg a Chymraeg gan y bardd a’r cerddor Twm Morys, ar gyfer y soprano Elin Manahan Thomas a Cherddorfa Siambr yr Undeb Ewropeaidd. Ailgynhyrchwyd ei opera gymunedol Gair ar Gnawd (2012) gan Opera Cenedlaethol Cymru yn theatr y Ffwrnes, Llanelli, yn ystod Ebrill 2015, gyda darllediadau o’r gwaith ar S4C, a chafodd Chaotic Angels – cylch o ganeuon yn gosod geiriau gan y bardd Gwyneth Lewis – ei berfformio am y tro cyntaf yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, yng nghyngerdd olaf Lothar Koenigs fel arweinydd cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, gyda’r soprano o Abertawe, Céline Forrest (cystadleuydd BBC Canwr y Byd 2015) yn canu.

O bryd i’w gilydd bu’n cyfansoddi ym maes ffilm, gan ddarparu trac sain newydd ar gyfer ailgread Cwmni Da o ffilm Y Chwarelwr (1935) gan Syr Ifan ab Owen Edwards; darlledwyd y ffilm ar ei newydd wedd am y tro cyntaf yn 2006 ac fe’i rhyddhawyd ar ffurf DVD yn ogystal. Fel allweddellydd bu hefyd yn perfformio a recordio gyda nifer o grwpiau ac artistiaid pop Cymraeg gan gynnwys Dafydd Iwan, Meic Stevens, Bryn Fôn, Steve Eaves, Edward H Dafis, Dafydd Dafis a Siân James. Cyfansoddodd y gân ‘Gerfydd Fy Nwylo Gwyn’ ar y cyd â Twm Morys ar gyfer dathlu hanner canmlwyddiant sefydlu UNICEF yn 1995.

Tristian Evans

Disgyddiaeth

  • Caneuon Jeremy [‘Merch’] (Sain SCD2266, 2000)
  • Portreadau Cymreig [Waltz] (Sain SCD2308, 2001)
  • Caneuon y Werin [Tair Cân Werin] (Fflach CD295H, 2006)
  • Caneuon Heb Eiriau (Sain SCD2646, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.