Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ar Log"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 18: Llinell 18:
 
Gwelwyd symudiad pellach i gyfeiriad sain fwy amlwg ‘Geltaidd’ ar ''Ar Log V'' (Sain, 1988), gyda defnydd o’r ''synth bass'' yn y gadwyn agoriadol ‘Rew- di-ranno/Y Facsen Felen’ yn adlewyrchu’r duedd ymysg grwpiau gwerin Gwyddelig ac Albanaidd y cyfnod, fel Clannad a Runrig, i gyfuno [[Organoleg ac Offerynnau | offerynnau]] roc a gwerin. Clywir rhywfaint o ddylanwad De America yn y pibau ar ‘Lisa Fach’ yn ogystal.
 
Gwelwyd symudiad pellach i gyfeiriad sain fwy amlwg ‘Geltaidd’ ar ''Ar Log V'' (Sain, 1988), gyda defnydd o’r ''synth bass'' yn y gadwyn agoriadol ‘Rew- di-ranno/Y Facsen Felen’ yn adlewyrchu’r duedd ymysg grwpiau gwerin Gwyddelig ac Albanaidd y cyfnod, fel Clannad a Runrig, i gyfuno [[Organoleg ac Offerynnau | offerynnau]] roc a gwerin. Clywir rhywfaint o ddylanwad De America yn y pibau ar ‘Lisa Fach’ yn ogystal.
  
Cymharol dawel fu’r grŵp wedi dathliadau’r deng mlynedd, gyda rhai aelodau’n cael eu penodi i swyddi yn y [[cyfryngau]] neu ym myd [[addysg]] uwch, ac eraill yn datblygu prosiectau cerddorol annibynnol. Fodd bynnag, daeth y band ynghyd yn 1996 i ddathlu ugain mlynedd o fodolaeth, gan gyhoeddi ''Ar Log VI'' (Sain, 1996) i gyd-fynd â thaith ledled Cymru. Roedd y record – a ddaeth ag aelodau presennol a chyn-aelodau’r band at ei gilydd i greu math o ''supergroup'' gwerin – yn arwydd pellach o barodrwydd y band i wthio ffiniau, gyda’r cynhyrchydd roc [[Isaac, Myfyr (g.1954) | Myfyr Isaac]] wrth y llyw, ynghyd â chyfraniadau gan y cerddorion sesiwn Graham Land (drymiau) a Dafydd Wyn (gitâr fas).
+
Cymharol dawel fu’r grŵp wedi dathliadau’r deng mlynedd, gyda rhai aelodau’n cael eu penodi i swyddi yn y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]] neu ym myd [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysg]] uwch, ac eraill yn datblygu prosiectau cerddorol annibynnol. Fodd bynnag, daeth y band ynghyd yn 1996 i ddathlu ugain mlynedd o fodolaeth, gan gyhoeddi ''Ar Log VI'' (Sain, 1996) i gyd-fynd â thaith ledled Cymru. Roedd y record – a ddaeth ag aelodau presennol a chyn-aelodau’r band at ei gilydd i greu math o ''supergroup'' gwerin – yn arwydd pellach o barodrwydd y band i wthio ffiniau, gyda’r cynhyrchydd roc [[Isaac, Myfyr (g.1954) | Myfyr Isaac]] wrth y llyw, ynghyd â chyfraniadau gan y cerddorion sesiwn Graham Land (drymiau) a Dafydd Wyn (gitâr fas).
  
 
Dangosai traciau megis y medli ‘Twll yn y To/ Cymro o Ble?/Pedwar Post y Gwely II’, gyda’i sain gyfoethog a’r cynhyrchu slic, gymaint yr oedd Ar Log wedi datblygu ers y recordiau cynnar. Mae’r grŵp yn parhau i ganu o dro i dro, fel yn 2016 pan ddaethant at ei gilydd i ddathlu eu pen-blwydd yn ddeugain. Wrth edrych yn ôl dros gyfraniad Ar Log, dywedodd y beirniad cerddoriaeth werin Christina Roden amdanynt: ‘Although there are many superb musicians in Wales, any exploration of the region’s music should start with, or at least include, a selection of Ar Log’s recordings’ (Roden, 2000).
 
Dangosai traciau megis y medli ‘Twll yn y To/ Cymro o Ble?/Pedwar Post y Gwely II’, gyda’i sain gyfoethog a’r cynhyrchu slic, gymaint yr oedd Ar Log wedi datblygu ers y recordiau cynnar. Mae’r grŵp yn parhau i ganu o dro i dro, fel yn 2016 pan ddaethant at ei gilydd i ddathlu eu pen-blwydd yn ddeugain. Wrth edrych yn ôl dros gyfraniad Ar Log, dywedodd y beirniad cerddoriaeth werin Christina Roden amdanynt: ‘Although there are many superb musicians in Wales, any exploration of the region’s music should start with, or at least include, a selection of Ar Log’s recordings’ (Roden, 2000).

Diwygiad 15:09, 28 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o grwpiau gwerin mwyaf poblogaidd a dylanwadol Cymru yn chwarter olaf yr 20g. Ffurfiodd Ar Log yn Awst 1976 ar ôl derbyn gwahoddiad gan yr ŵyl werin ryng-Geltaidd yn Lorient, Llydaw, i berfformio yno. Yr aelodau gwreiddiol oedd Gwyndaf Roberts (telyn Geltaidd, gitâr fas), Dafydd Roberts ( telyn deires, ffliwt), Iolo Jones (ffidil) a Dave Burns (gitâr, mandolin) – Gwyddel o Gaerdydd a fu gynt yn aelod o grŵp gwerin yr Hennessys. Bu’r ddau frawd Dafydd a Gwyndaf (yr unig ddau aelod cyson trwy gydol gyrfa’r grŵp) yn ddisgyblion i’r delynores Nansi Richards (Telynores Maldwyn), felly roedd ganddynt gyswllt uniongyrchol â’r unig draddodiad offerynnol di-dor a oroesodd yng Nghymru. Rhwng 1972 ac 1975 bu Gwyndaf yn aelod o’r grŵp roc-gwerin Brân, a fu’n llwyddiannus yng Ngŵyl Ban-Geltaidd Killarney, ynghyd â rhyddhau EP, Brân (Gwawr, 1974), a record hir, Ail-Ddechra (Sain, 1975). Bu ei frawd Dafydd hefyd yn aelod o’r grŵp am gyfnod.

Yn dilyn derbyniad brwdfrydig yn Lorient ac anogaeth gan y grŵp gwerin adnabyddus o Iwerddon, y Dubliners, aeth Ar Log ati i geisio gwneud bywoliaeth o’u cerddoriaeth – y grŵp gwerin Cymraeg cyntaf i droi’n broffesiynol. Gan ddefnyddio cysylltiadau Dave Burns â’r rhwydwaith werin yng Nghymru a Lloegr o’i ddyddiau gyda’r Hennessys, rhwng 1977 ac 1981 teithodd Ar Log i Iwerddon, yr Alban, Llydaw, yr Almaen ac Awstria, Lloegr, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd, yn ogystal â chynnal cyngherddau ar draws Cymru. Roedd eu perfformiadau’n gyfuniad o alawon a chaneuon Cymraeg, yn aml yn cyrraedd uchafbwynt gydag arddangosiad medrus o glocsio gan Dafydd i gyfeiliant y band. Dyma gyfnod prysuraf Ar Log o ran teithiau dramor, pan y’u gwelid yn aml yn perfformio mewn clybiau gwerin neu wyliau mawr gydag artistiaid rhyngwladol o’r gwledydd Celtaidd a thu hwnt, megis Clannad, y Battlefield Band, y Chieftains, Silly Wizzard, Alan Stivell a Dan Ar Braz.

Clywir cymysgedd o ganu gwerin traddodiadol ac alawon offerynnol ar ddau albwm cyntaf y grŵp, Ar Log (Dingle’s, 1978) ac Ar Log II (Dingle’s, 1980). Deuai rhai o’r caneuon o hen repertoire yr Hennessys, megis ‘Ar Lan y Môr’, ‘Hiraeth’ a ‘Rownd yr Horn’, a rhoddai llais Dave Burns naws Wyddelig i’r record hir gyntaf. Roedd yr albwm hefyd yn nodedig am mai dyma’r tro cyntaf i’r delyn deires Gymreig gael ei defnyddio mewn grŵp gwerin. Yn ôl Stephen Rees (a ddaeth yn ddiweddarach yn aelod pwysig o’r grŵp), defnyddir y delyn deires mewn dwy brif ffordd: yn gyntaf i ddarparu ‘cyfeiliant cordiol, “byrfyfyr” i alawon dawnsio cyflym (tebyg i’r hyn y gellid ei gyflawni ag offeryn rhes sengl); ac [yn ail] mewn alawon arafach, gan ddefnyddio effeithiau ail- chwarae nodyn, yn cynnwys ail-chwarae’r un traw neu gordiau yn gyflym drosodd a thro rhwng y rhesi allanol a oedd wedi’u tiwnio’n ddiatonig, rhywbeth a fyddai’n amhosibl ar delyn un rhes.’ Mae Stephen Rees yn mynd ymlaen i nodi bod gan y delyn deires ‘sain deneuach a mwy treiddgar na’r delyn Geltaidd, a chyda thechneg ail-chwarae nodyn, roedd gan yr offeryn soniarusrwydd unigryw … [a arhosodd] yn un o brif nodweddion recordiadau a pherfformiadau Ar Log trwy gydol yr 1970au a’r 1980au’ (Rees 2007, 329–30).

Bu 1979 yn dipyn o drobwynt i’r band, gydag ymadawiad Iolo Jones yn gyntaf ac yna Dave Burns flwyddyn yn ddiweddarach. Erbyn recordio Ar Log II roedd Graham Pritchard (ffidil) a Geraint Glynne Davies (gitâr, llais) wedi ymuno, gyda llais Geraint yn cynnig ansawdd mwy Cymreig i’r grŵp. Yr un oedd yr aelodaeth ar gyfer Ar Log III (Dingle’s, 1983), a ddangosai fwy o barodrwydd i arbrofi ac ailddehongli’r traddodiad.

Daeth newid cyfeiriad am yr ail waith wedi ymadawiad Graham Pritchard yn 1982. Yr un flwyddyn daeth y syniad o drefnu taith ar y cyd â’r canwr Dafydd Iwan i gofio 700 mlynedd ers marwolaeth tywysog olaf Cymru, Llywelyn ap Gruffudd. Bu ‘Taith 700’ yn llwyddiant, gan esgor ar y sengl ‘Cerddwn Ymlaen’ (Sain, 1982) ac yna’r record hir Rhwng Hwyl a Thaith (Sain, 1982). Erbyn hyn roedd y cerddor ifanc disglair o Rydaman, Stephen Rees (ffidil, acordion, allweddellau, pibau), wedi cymryd lle Graham Pritchard. Flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd ail daith yr un mor llwyddiannus – ‘Taith Macsen’, y tro hwn i gofio sefydlu Cymru fel gwlad pan adawodd ymerawdr Rhufain, Macsen Wledig, ynys Prydain yn 383 gan adael Cymru ‘yn un darn’. Cadarnhaodd y gân anthemig ‘Yma o Hyd’, ynghyd â’r record hir o’r un enw (Sain, 1983), bartneriaeth greadigol effeithiol rhwng Dafydd Iwan ac Ar Log.

Fodd bynnag, daeth rhai i weld y bartneriaeth fel un anghytbwys, gydag Ar Log yn ddim mwy na chyfeiliant i’r canwr. Gwelwyd y grŵp yn newid cyfeiriad unwaith yn rhagor, felly, a’r sbardun y tro hwn oedd cyfres o deithiau i Ogledd America a De America. Roeddynt eisoes wedi perfformio yng Nghanada yn 1982 ac 1984, gyda Graham Pritchard yn ailymuno ar gyfer yr ail daith. Taflwyd y rhwyd ymhellach yn 1985 pan gafwyd cynnig gan y Cyngor Prydeinig i berfformio yn Ecwador a Cholombia. Yn 1986 dathlodd y band eu pen-blwydd yn ddeg oed gyda thaith ‘Ar ôl Deg’, a flwyddyn yn ddiweddarach buont ar daith bellach i Dde America, gan ymweld y tro hwn â Chile a Pheriw yn ogystal ag Ecwador a Cholombia, gyda chriw ffilmio o’r BBC yn eu dilyn.

Roedd y band eisoes wedi rhyddhau Ar Log IV ar eu label eu hunain (Ar Log, 1984), albwm a roddai fwy o bwyslais ar draciau offerynnol, gyda chyfraniad yr amryddawn Stephen Rees yn dod i’r amlwg mewn cadwyni o alawon wedi eu cyfuno megis ‘Castell Caernarfon/Pibddawns Aberhonddu/Llys Warpool’. Er bod rhai traciau’n parhau i bwysleisio sain draddodiadol y grŵp (e.e. telynau yn ‘Cerrig y Rhyd’), gwelwyd ymdrech i ymestyn yr ystod seinyddol. Er mai wedi ei seilio ar offeryniaeth o ddwy delyn, gitâr neu fandolin, ffidil a ffliwt yr oedd sain Ar Log, clywid harpsicord synthetig ar rai traciau, gan alw i gof y clavinet a ddefnyddid ar recordiadau gan y grŵp Gwyddelig The Bothy Band. Label Ar Log fu’n gyfrifol hefyd am ryddhau’r gân Band Aid Cymraeg ‘Dwylo Dros y Môr’, a gyfansoddwyd gan Huw Chiswell a’i chanu gan gantorion pop a gwerin mwyaf amlwg y cyfnod er mwyn codi pres i gynorthwyo pobl a ddioddefai yn sgil y newyn enbyd a oedd yn Ethiopia ar y pryd.

Gwelwyd symudiad pellach i gyfeiriad sain fwy amlwg ‘Geltaidd’ ar Ar Log V (Sain, 1988), gyda defnydd o’r synth bass yn y gadwyn agoriadol ‘Rew- di-ranno/Y Facsen Felen’ yn adlewyrchu’r duedd ymysg grwpiau gwerin Gwyddelig ac Albanaidd y cyfnod, fel Clannad a Runrig, i gyfuno offerynnau roc a gwerin. Clywir rhywfaint o ddylanwad De America yn y pibau ar ‘Lisa Fach’ yn ogystal.

Cymharol dawel fu’r grŵp wedi dathliadau’r deng mlynedd, gyda rhai aelodau’n cael eu penodi i swyddi yn y cyfryngau neu ym myd addysg uwch, ac eraill yn datblygu prosiectau cerddorol annibynnol. Fodd bynnag, daeth y band ynghyd yn 1996 i ddathlu ugain mlynedd o fodolaeth, gan gyhoeddi Ar Log VI (Sain, 1996) i gyd-fynd â thaith ledled Cymru. Roedd y record – a ddaeth ag aelodau presennol a chyn-aelodau’r band at ei gilydd i greu math o supergroup gwerin – yn arwydd pellach o barodrwydd y band i wthio ffiniau, gyda’r cynhyrchydd roc Myfyr Isaac wrth y llyw, ynghyd â chyfraniadau gan y cerddorion sesiwn Graham Land (drymiau) a Dafydd Wyn (gitâr fas).

Dangosai traciau megis y medli ‘Twll yn y To/ Cymro o Ble?/Pedwar Post y Gwely II’, gyda’i sain gyfoethog a’r cynhyrchu slic, gymaint yr oedd Ar Log wedi datblygu ers y recordiau cynnar. Mae’r grŵp yn parhau i ganu o dro i dro, fel yn 2016 pan ddaethant at ei gilydd i ddathlu eu pen-blwydd yn ddeugain. Wrth edrych yn ôl dros gyfraniad Ar Log, dywedodd y beirniad cerddoriaeth werin Christina Roden amdanynt: ‘Although there are many superb musicians in Wales, any exploration of the region’s music should start with, or at least include, a selection of Ar Log’s recordings’ (Roden, 2000).

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Ar Log (Dingle’s DIN305, 1978)
  • Ar Log II (Dingle’s DIN310, 1978)
  • Ar Log III (Dingle’s DIN315/Sain 1218M, 1978)
  • ‘The Carmarthen Oak’ [sengl] (Dingle’s SID224, 1980)
  • [gyda Dafydd Iwan] ‘Cerddwn Ymlaen’ [sengl] (Sain 95S,1982)
  • [gyda Dafydd Iwan] Rhwng Hwyl a Thaith (Sain 1252M, 1982)
  • [gyda Dafydd Iwan] Yma o Hyd (Sain 1275M, 1983)
  • Meillionen (Dingle’s DIN715, 1983)
  • Ar Log IV (Ar Log RAL001, 1984)
  • Ar Log V (Sain 1468M, 1988)
  • Ar Log VI (Sain SCD2119, 1996)

Casgliadau:

  • O IV i V (Sain SCD9068, 1991)
  • Goreuon Ar Log (Sain SCD2547, 2007)

Llyfryddiaeth

  • Lyn Ebenezer, Ar Log ers Ugain Mlynedd (Llanrwst, 1996)
  • Stephen Rees, ‘Traddodiad Celtaidd Newydd? Perfformiad Offerynnol gan Grwpiau yn yr Adfywiad Gwerin yng Nghymru, c.1975–c.1989’, Hanes Cerddoriaeth Cymru 7 (2007), 325–43



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.