Arcadia

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ardal fynyddig yn neau gwlad Groeg oedd Arcadia, ac mewn traddodiad daeth yr enw’n gyfystyr â bro ddedwydd o symlder a chytgord. Gyda’r Dadeni Dysg yn Ewrop daeth bri o’r newydd ar yr Arcadaidd, ac adlewyrchir hyn mewn peth o waith Shakespeare, Milton ac eraill, ac mewn llawer o waith yr arlunwyr am genedlaethau.

Bu trafod diddorol ar union ystyr yr ymadrodd ‘et in Arcadia ego’. Yn ôl un dehongliad, a’r cywiraf efallai, Angau sy’n siarad, gan ddweud ‘yr wyf innau hefyd yn Arcadia’. Dehongliad mwy cyffredin yw hwnnw y gellid ei aralleirio â’r llinell ‘Yng ngwynfyd bywyd buom’; h.y. mae gennyf innau fy nghof am baradwys. ‘A dyfod rhwyg deufyd rhôm’, fodd bynnag, yw llinell nesaf R. Williams Parry, a bron yn ddieithriad rhyw wynfa goll yw Arcadia mewn llenyddiaeth, – ‘the land of lost content’ ys canodd A. E. Housman. Mae’r drychfeddwl Arcadaidd yn amlwg drwy ganu rhamantaidd Cymraeg dechrau’r 20g., – ‘Gwlad Hud’, ‘sanctaidd oes ieuenctid’, ‘Y Nef a Fu’, ‘O, gwyn fy myd pan oeddwn gynt ...’; try ‘Awdl yr Haf’ yn gyfangwbl arno. Yn niweddglo aruthrol y gerdd honno, gochelgar yw’r gobaith am adfer y gwynfyd coll; canodd ambell fardd arall yn fwy hyderus, e.e. Cynan yng nghlo ‘Mab y Bwthyn’. Ceir elfennau o’r Arcadaidd yn Storïau’r Tir Glas, D. J. Williams, ac yn ei hunangofiant, Hen Dŷ Ffarm; wedyn yn y llu cyfrolau atgof Cymraeg a ymddangosodd yn y 1950-60au, er nad ar draul anwybyddu’r caledi sydd hefyd o fewn y cof. Mae ceisio Arcadia, ond canfod nad yw popeth yn hyfryd yno, yn thema gref mewn ffuglen, ac yn gyffredin i Brideshead Revisited (Evelyn Waugh) a Blas y Cynfyd (Islwyn Ffowc Elis).

Dafydd Glyn Jones

Llyfryddiaeth

Panofsky, E. (1955), ‘Et in Arcadia Ego: Poussin and the Elegiac Tradition’, Meaning in the Visual Arts (Efrog Newydd: Doubleday).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.