Aruchel

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Rhagoriaeth ac ardderchowgrwydd o ran mynegiant llenyddol a ddynodir gan y cysyniad o’r aruchel yn y traddodiad Clasurol Ewropeaidd. Daeth yn gysyniad pwysig mewn estheteg rhamantaidd, yn bennaf ym maes celfyddyd gain, o’r 18g. ymlaen.

Y traethawd cynharaf ar y cysyniad o’r aruchel yw’r gwaith Groeg Peri Hupseos (Ar yr Aruchel) o’r 1g., gwaith a dadogwyd ar gam ar Longinus, athronydd Neoplatonaidd a fu fyw mewn gwirionedd yn y 3g. Ymateb gan yr awdur ydyw i’r hyn a ystyria’n ddisgrifiad anaddas o’r aruchel, yn enwedig ar y lefel emosiynol, gan Caecilius o Calacte. Yr aruchel mewn llenyddiaeth sy’n hawlio sylw ac o lenyddiaeth Roegaidd y daw’r mwyafrif o’r enghreifftiau a ddefnyddir i’w ddarlunio. Lluniwyd y golygiad safonol modern o’r testun Groeg gan William Rhys Roberts, athro Groeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor.

Testun y traethawd yw’r priodoleddau a’r dyfeisiau sy’n perthyn i gynhyrchiad o’r aruchel neu’n milwriaethu yn ei erbyn. Diffinnir yr aruchel fel rhagoriaeth ac ardderchowgrwydd o ran mynegiant llenyddol. Dawn gynhenid sydd angen ei meithrin yw’r aruchel trwy ddynwared neu efelychu beirdd a haneswyr a brofodd eu gallu i gyflawni’r aruchel. Rhaid wrth gelfyddyd i wneud y gorau o’r gallu naturiol hwn. Dyfarna’r awdur fod pum ffynhonnell i’r aruchel. Y gyntaf yw mawredd meddyliol, y gallu i ffurfio cysyniadau mawreddog ac urddasol (penodau 8-15). Yr ail yw angerdd ysbrydoledig, ond ni roddir sylw iddo. Y drydedd yw’r defnydd effeithiol o ffigyrau arddull a rhethreg (penodau 16-29). Y bedwaredd yw ieithwedd ac ymadrodd bonheddig, gan gynnwys y defnydd o gymarebau (penodau 30-38). Y bumed yw cyfansoddiad urddasol a dyrchafedig, sef pwyslais ar y ffordd orau o drefnu geiriau ac undod organig gwaith llenyddol (penodau 39-40). O’r cychwyn haera’r awdur nad yw’r aruchel yn darbwyllo cynulleidfaoedd ond yn eu cyfareddu a’u rhyfeddu.

Honnir fod angen i awdur llenyddol fod yn enaid bonheddig er mwyn cyfleu’r aruchel. Yr awduron a ystyrir iddynt lwyddo orau yn hyn o beth yw Homer, Platon a Demosthenes. Mae’r awdur hefyd yn cymeradwyo pennod agoriadol Llyfr Genesis am amlygu cysyniad aruchel o rym y Bod Dwyfol drwy ysgrifennu ‘Bydded goleuni; a bu goleuni’. Dywed hyn wedi canmol Homer am ei linellau yn yr Ilias sy’n ‘cynrychioli’r natur ddwyfol fel y mae mewn gwirionedd – yn bur, yn urddasol a dilychwin’. Gellir dadlau felly na all yr aruchel fel cysyniad fodoli heb gred yn Nuw neu dduwiau.

Cyfieithwyd ‘Ar yr Aruchel’ i’r Ffrangeg gan Boileau ac i’r Saesneg gan William Smith yn y 18g., gan hybu gwerthfawrogiad newydd o waith Homer yn Ffrainc a Phrydain ble gynt y’i hystyrid yn fardd paganaidd ac felly dirmygus os nad anwar. Daeth y ddamcaniaeth am yr aruchel yn bwysig i feirdd clasurol Cymraeg y 18g., Goronwy Owen, Edward Richard ac Ieuan Brydydd Hir. Pan ddarganfu’r olaf gopi o’r Gododdin, barn Lewis Morris oedd fod yr arwrgerdd o’r un safon ag Ilias Homer, y prif enghraifft o’r aruchel yng ngolwg ‘Longinus’. Eisoes mynegasai Goronwy Owen i William Morris ei ddyhead am yr aruchel mewn barddoniaeth Gymraeg, a dynwared arwrgerddi Homer a Fyrsil.

Bu Edmund Burke yn gyfrifol am ledaenu cysyniad o’r aruchel a oedd wedi ei wahanu oddi wrth harddwch yn ei draethawd, ‘A Philosphical Inquiry into the Origins of Our Ideas of the Sublime and Beautiful’ (1756). Canolbwyntiodd Burke fwy ar estheteg natur nag ar feirniadaeth lenyddol. Gwrthododd y farn glasurol fod cytgord a chymesuredd yn briodoleddau harddwch, ac fe gyfyngwyd harddwch i bersonau dynol. Dilynwyd y cam goddrychol hwn gan Immanuel Kant a’r rhamantwyr Almaenig fel Friedrich Schiller a’r arlunydd, Caspar David Friedrich. Priodolwyd mawredd a’r aruchel i elfennau o fyd natur fel mynyddoedd a stormydd, a’r profiad dynol o unigedd, gwacter a distawrwydd ym myd natur. Honnodd Burke fethu esbonio gwir achos neu darddiad yr aruchel – nid rhyfedd am y creodd hollt rhwng y person dynol a’r aruchel drwy wahanu’r olaf oddi wrth ei gysylltiad gyda harddwch ac felly Duw. Yn hyn o beth gellir dweud i ganu caeth mewn llenyddiaeth Gymraeg barhau â’r cysyniad clasurol o’r aruchel yn yr 20g., ac mewn beirniadaeth lenyddol gellir ei amgyffred yng ngwaith Saunders Lewis ymhlith eraill. Gwelir yr un dyhead ym myd celf weledol Gymreig yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y 19g. a dechrau’r 20g.

Carys Moseley

Llyfryddiaeth

Burke, E. (1998), A Philosophical Inquiry into the Origin of our Ideas of the Sublime and the Beautiful (London: Penguin).

Davies, C. (1995), Welsh Literature and the Classical Tradition (Cardiff: University of Wales Press).

Doran, R. (2015), The Theory of the Sublime from Longinus to Kant (Cambridge: Cambridge University Press).

Eco, U. (2004), On Beauty: The History of a Western Idea (London: Secker & Warburg).

Jarvis, B. (1986), Goronwy Owen (Cardiff: University of Wales Press).

Lewis, S. (1924), A School of Welsh Augustans (Wrexham: Hughes & Son).

Longinus (1899), On the Sublime (Cambridge: Cambridge University Press). Cyfieithiad Saesneg gan W. Rhys Roberts.

Lord, P. (1992), Y Chwaer-Dduwies: Celf, Crefft a’r Eisteddfod (Llandysul: Gwasg Gomer).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.