Arweinydd, Arweinyddion

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:20, 16 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Arweinyddion Cerddorfaol

Bu’r diffyg datblygiad ym maes cerddoriaeth broffesiynol yng Nghymru hyd at yr Ail Ryfel Byd yn rhwystr i greu ethos lle gallai arweinyddion cerddorfaol (sef y cerddorion hynny a ystyrid mewn gwledydd eraill yn brif gynheiliaid gweithgarwch cerddorol broffesiynol) ddod i amlygrwydd a chael y cyfle i feithrin eu doniau yn eu mamwlad. Rhaid oedd aros tan ddyfodiad y BBC i Gaerdydd yn 1923 a chreu Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn 1946 (er nad oedd yn gwmni cwbl broffesiynol yr adeg honno) cyn bod unrhyw gymhelliad na phosibilrwydd am yrfa broffesiynol fel arweinydd cerddorfaol. Oherwydd y diffyg traddodiad, ac er gwaethaf y nifer lluosog o arweinyddion amatur, boed ar gorau neu fandiau pres, y tueddiad fu i’r ddau sefydliad a enwir uchod benodi cerddorion blaengar o’r tu hwnt i Glawdd Offa i ddatblygu eu gwaith. Hyd at ganol yr 1960au roedd y ddibyniaeth ar dalent o’r tu allan i Gymru yn llai amlwg yn y BBC; a’i cherddorfa heb uchelgais symffonig, nid oedd galw am fawrion y podiwm o’r tu allan i Gymru i’w gwasanaethu. Ond roedd tuedd i benodi estroniaid i’w gweld yn achos y Cwmni Opera o’r cychwyn cyntaf.

Yn y BBC roedd sawl cerddor o Gymro a gofir am eu cyfraniadau pwysig. Yn eu plith yr oedd Idris Lewis (1889–1952) a wnaeth enw iddo’i hun yn ifanc fel arweinydd mewn theatrau yn Llundain ac mewn ffilmiau o stiwdios Elstree. Wedyn bu’n arwain cerddorfa’r BBC yng Nghaerdydd ac ef oedd cyfarwyddwr cerdd y Gorfforaeth yng Nghymru o 1936 hyd 1952. Yn y BBC adeg yr Ail Ryfel Byd ac wedi hynny roedd cyfraniad Mansel Thomas (1909– 86) ac Arwel Hughes (1909–88) fel arweinyddion yn cydredeg gyda’u dyletswyddau pwysig fel cyfansoddwyr a chynhyrchwyr rhaglenni cerddorol. Er nad oedd yr arlwy yn nodedig iawn o safbwynt disgwyliadau symffonig llwyddodd Rae Jenkins (1903–85), ar ôl ei benodiad yn brif arweinydd y Gerddorfa (1950–65), i fraenaru’r tir ar gyfer datblygiadau cerddorfaol mwy cyffrous. Ar y podiwm enillodd Rae Jenkins barch am ei ddawn ryfeddol i reoli’n ddi-feth hyd y darnau a arweiniai rhag iddynt or-redeg. Ar hyd y blynyddoedd prif fwriad y gwaith yn y stiwdio a’r cyngherddau cyhoeddus oedd ateb anghenion Prydeinig rhwydwaith y Third Programme (Radio 3 ar ôl hynny) a phrin fod y Gerddorfa’n adlewyrchu Cymreictod yn y gweithiau a berfformiai nac yn y dewis o offerynwyr ac arweinyddion. Fodd bynnag, clywyd llawer o gantorion Cymreig enwog, sy’n adlewyrchiad o rym ein traddodiad lleisiol.

Mewn perthynas â Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, mae lliaws o arweinyddion o Loegr a thramor wedi bod yn ddylanwadol. Yn y dyddiau cynnar bu Charles Groves (1915–92) yn gynheiliad uchel ei barch i ddatblygiad cynnar y Cwmni, ond nid yn ne Cymru yn unig yr oedd yn amlwg. Cofir am Groves fel dylanwad pwysig yn ddiweddarach ar gyngherddau cerddorfaol yng ngogledd Cymru yn rhinwedd ei swydd fel cyfarwyddwr cerdd Cerddorfa Ffilharmonig Lerpwl (1963–77) a bu’n arweinydd hynaws sawl tro yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Un arall a nodir fel dylanwad mawr oherwydd ei berthynas â’r Cwmni Opera yw Carlo Rizzi (g.1960), Eidalwr a glosiodd at y diwylliant Cymreig ac a ddysgodd Gymraeg. Mae ei ddawn gynhenid yn y repertoire rhamantaidd a’i natur allblyg yn ei wneud yn addas iawn i weithio gyda chorau amatur Cymru a cheidw ei gysylltiad gyda Chymru a Chaerdydd yn ei gyngherddau gyda Chôr a Cherddorfa Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Ceir rhestr hir o arweinyddion o fri rhyngwladol sydd wedi gweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a bu gan rai ohonynt berthynas arbennig gyda’r Gerddorfa, er enghraifft Richard Hickox (1948–2008) a Tadaaki Otaka (g.1947). Daeth sawl arweinydd ati pan oeddynt yn dal yn meithrin eu sgiliau, cyn mynd ymlaen i wneud enw iddynt eu hunain yn rhyngwladol. Mae Mariss Jansons (g.1943) gyda’r pwysicaf o’r rhain.

Ymhlith yr arweinyddion hynny o Loegr neu o wledydd tramor sydd wedi bod yn ddylanwadol yng Nghymru rhaid nodi cerddor o Ganada, Arthur Davison (1918–92), oherwydd ei gyfraniad pwysig i’r fagwrfa werthfawr honno, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Bu cysylltiad Davison â Chymru yn un hir. Ef oedd arweinydd y Gerddorfa o 1967 hyd 1990 yn dilyn cyfnod Clarence Raybould (1886–1972), sef yr arweinydd cyntaf a fu wrth y llyw o 1946 ymlaen.

Os mai prin fu’r cyfle i’r to newydd o arweinyddion o Gymru yn yr 1950au a’r 1960au hogi’u sgiliau, gwelwyd rhai’n mynd ati’n ddygn i dorri cwys iddynt eu hunain y tu allan i’w mamwlad. Yr hynotaf o’r rhain ymhlith y genhedlaeth gyntaf o arweinyddion proffesiynol oedd Wyn Morris (1929–2010), mab y cerddor o Lanelli, Haydn Morris. Nid oedd unrhyw bosibilrwydd i Wyn Morris feithrin ei ddoniau yng Nghymru gan iddo ddewis arbenigo ar y gerddoriaeth fwyaf anodd i’w chyflwyno mewn gwlad a oedd heb yr isadeiledd cerddorol ac ariannol ar ei chyfer, sef campweithiau symffonig enfawr Mahler – cyfansoddwr a oedd yn llawer mwy tebygol o gael ei glywed ar lwyfannau Llundain nag yng Nghymru. Ar ôl iddo ennill Gwobr Koussevitsky a threulio cyfnod fel cynorthwywr i George Szell yn Cleveland, bu 1963 yn flwyddyn bwysig i Wyn Morris. Yn y flwyddyn hon enillodd glod yn y wasg gerddorol am ei ddehongliad o Nawfed Symffoni Mahler yn y Royal Festival Hall, gyda cherddorfa’r Royal Philharmonic. Cymharodd y Times yr arweinydd ifanc gyda neb llai na Bruno Walter (1876–1962).

Nid oedd cymaint o fri ar symffonïau Mahler yr adeg honno a sicrhaodd gorchest Wyn Morris enw iddo fel arweinydd eneiniedig. Cafodd ei benodi i ddilyn Syr Malcolm Sargent yn arweinydd y Gymdeithas Gorawl Frenhinol (1968–70) a hefyd bu’n arwain Cymdeithas Gorawl Huddersfield (1969–74), ond terfynwyd y ddwy swydd mewn chwerwder a drwgdeimlad, canlyniad natur orsensitif yr arweinydd carismataidd hwn mae’n debyg, ac ni fu’r blynyddoedd dilynol yn rhai llwyddiannus iddo.

Arweinydd carismataidd arall yw Owain Arwel Hughes (g.1942), ac o gychwyn ei yrfa roedd y ffaith fod ei dad yn bennaeth cerdd y BBC yng Nghaerdydd (ac felly yn y sefyllfa o allu ei gytundebu) yn rhoi pwysau arno i ddatblygu gyrfa y tu allan i Gymru. Cafodd lwyddiant cynnar gyda sawl cerddorfa yn Lloegr, er enghraifft bu’n arweinydd cyswllt y Philharmonia ac yn brif arweinydd cyswllt y Royal Philharmonic. Yn ddiweddarach bu’n gysylltiedig hefyd â sawl cerddorfa arall ym Mhrydain a thramor, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni Aalborg (lle bu’n brif arweinydd, 1994–9) a’r Cape Philharmonic yn Ne Affrica (lle bu’n brif arweinydd gwadd ers 2007). Bu’n arweinydd cyswllt Cerddorfa Symffoni Gymreig y BBC o 1980 hyd 1986 ac yn arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru o 2003 hyd 2010. Ni chafodd fawr o gysylltiad gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru ond cafodd berthynas agos gyda llawer o gorau Cymreig, perthynas sy’n parhau mewn sawl achos, yn enwedig pan ddaw’r corau i berfformio ar y cyd. Unwyd sawl côr meibion a chôr cymysg dan ei faton. Yn y maes corawl, efallai mai ei waith gyda Chôr Huddersfield yn yr 1980au sydd fwyaf nodedig oherwydd y cyfle a gafodd i adfywio’r Côr pan oedd wedi colli rhywfaint o’i enw da.

Oherwydd ei berthynas gyda’r traddodiad corawl yng Nghymru a’i rôl fel cyfarwyddwr y Proms Cymreig, ni bu Owain Arwel Hughes yn artist alltud. Ef a sefydlodd y Proms Cymreig, yn sgil adeiladu Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, a bu’n ŵyl bwysig yn y ddinas bob haf ers 1986. Croesewir yno lawer o brif gerddorfeydd Prydain yn flynyddol a llwyddwyd dros y blynyddoedd i ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd de Cymru trwy blethu cerddoriaeth hen a newydd. Gwahanol iawn yw hanes Alun Francis (g.1943) oherwydd iddo dreulio’i holl fywyd proffesiynol ymhell o Gymru. Cychwynnodd ei yrfa gyda Cherddorfa Ulster ac ymhlith y prif gerddorfeydd a’i penododd y mae’r North West Chamber Orchestra of Seattle (1980–5), yr Overijssels Philharmonic a’r Opera Forum yn yr Iseldiroedd (1985–7), Cerddorfa Nordwestdeutsche Philharmonie (1987–91), Orchestra Symfonica de Milano ‘Giuseppe Verdi’ (1996) a thua’r un amser, Orchestra Sinfonica Haydn. Yn 1989 cafodd swydd bwysig fel prif arweinydd Cerddorfa Symffoni Berlin ac mae’r rhestr o gerddorfeydd tramor y mae’n ymweld â nhw yn drawiadol. Ers canol yr 1980au mae wedi arwain dros 200 o gerddorfeydd a chwmnïau opera ac mae ei repertoire yn cynnwys mwy na 70 o operâu. Mae’n frwdfrydig dros gerddoriaeth gyfoes a dangosodd fedrusrwydd gyda cherddoriaeth dra modern, gan gynnwys gweithiau gan Berio a Stockhausen. Recordiodd holl symffonïau Darius Milhaud a hybodd weithiau cyfansoddwyr a esgeuluswyd, fel Ernst Toch, Allan Pettersson, Wolf- Ferrari a Casella. Erbyn hyn mae Alun Francis yn arweinydd yr Orquestra Filarmonica de la UNAM (Dinas Mecsico).

Ganed Wyn Davies yn 1952, ac er mai gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru y bu ei weithgarwch cynnar, ni fu’n bosib iddo ddatblygu’i ddawn gartref yng Nghymru ac felly bu ei lwyddiant rhyngwladol yn golled i’w famwlad. Fe’i cytundebwyd gan y Met yn Efrog Newydd o 1987 hyd 1989 a thua’r un amser yn Banff, Canada. Dangosodd ddawn arbennig wrth arwain ystod eang o weithiau mewn amryw o arddulliau, gan gynnwys y repertoire operatig mwy ysgafn a sioeau cerdd fel Show Boat, ynghyd ag Of Thee I Sing a Let ’Em Eat Cake gan Gershwin. Daeth i sylw gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Lloegr, Opera’r Alban ac Opera North yn ogystal â dangos ei amlochredd yn y Buxton Opera. Ers 2005 bu’n gyfarwyddwr cerdd Opera Seland Newydd. Yn 2014 dychwelodd i Gymru i arwain opera John Metcalf, Under Milk Wood; roedd hefyd yn canu’r piano a’r syntheseisydd ac yn cymryd rhan Organ Morgan yn yr opera honno, gan amlygu eto ei alluoedd disglair fel cymeriad trawiadol sy’n gartrefol ar y llwyfan yn ogystal ag ar bodiwm yr arweinydd. Mae’n bianydd a chanwr talentog, fel sy’n amlwg i unrhyw un a welodd ei berfformiadau cabaret.

Fel Wyn Davies, bwriodd Gareth Jones (g.1960) ei brentisiaeth fel arweinydd ar staff y Cwmni Opera Cenedlaethol. Ond mae ei brif waith yn awr y tu allan i Gymru a hynny gyda phrif gerddorfeydd y Deyrnas Unedig. Cafodd lwyddiant mawr yn 2013 pan arweiniodd y perfformiad cyntaf ym Mhrydain o opera Philip Glass, A Perfect American, i Opera Cenedlaethol Lloegr. Mae perthynas artistig agos rhyngddo a Bryn Terfel ac mae wedi arwain mwy na 60 o gyngherddau gyda’r canwr, un ai gyda Sinfonia Cymru neu gerddorfeydd eraill, gan gynnwys perfformiad enwog yn y BBC Proms gyda Bryn Terfel a Renée Fleming. Ymhlith y cantorion byd-enwog eraill y mae wedi cyfeilio iddynt y mae Dennis O’Neill, Rebecca Evans, Simon Keenlyside, Joseph Calleja a Gwyn Hughes Jones. Mae Gareth Jones yn arweinydd dyfeisgar, ac iddo enw da oherwydd ei natur ddibynadwy ar y podiwm a’i sensitifrwydd i anghenion ei gyd-berfformwyr. Yn 1996 ffurfiodd gerddorfa newydd, Sinfonia Cymru, yn benodol er mwyn hyrwyddo chwaraewyr ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd ac yn sgil hyn fe’i gwelir yn arwain yn aml yng Nghymru. Mae hefyd yn dysgu arwain yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Ganed Grant Llewellyn (g.1960) yn Ninbych-y-pysgod ac yn 1985 fe’i penodwyd i gymrodoriaeth arwain yng nghanolfan gerdd enwog Tanglewood ym Massachusetts. Yno astudiodd gyda Leonard Bernstein, Seiji Ozawa, Kurt Masur ac André Previn. Gellir gweld dylanwad Bernstein arno yn y ffordd y mae’n dangos argyhoeddiad yn ei ddehongliadau apelgar o weithiau o bob cyfnod. Arweiniodd gyngherddau yng Ngŵyl Tanglewood gyda’r Boston Pops ac fe’i penodwyd yn ddirprwy arweinydd Cerddorfa Symffoni Boston. Bu’n arweinydd gwadd Stavanger Symfoniorkester ac yn brif arweinydd Cerddorfa Frenhinol Ffilharmonig Fflandrys (deFilharmonie). Rhwng 2001 a 2006 ef oedd cyfarwyddwr cerdd Cymdeithas Handel a Haydn, Boston, ac ers 2004 mae wedi bod yn gyfarwyddwr cerdd Cerddorfa Symffoni Gogledd Carolina. Yn Unol Daleithiau America a Chanada mae Grant Llewellyn wedi arwain cerddorfeydd nodedig fel y rhai yn Atlanta, Houston, Milwaukee, Montreal, Philadelphia, St. Louis a Thoronto, ac yn 2015 fe’i penodwyd i arwain yr Orchestre Symphonique de Bretagne. Yn Ewrop ehangwyd ei gysylltiadau i gynnwys yr Helsinki Philharmonic, y Northern Sinfonia, Orquestra Sinfónica do Porto Casa da Música, Cerddorfa Frenhinol Ffilharmonig Llundain, y Philharmonia a Cherddorfa Genedlaethol yr Alban. Fel cyfarwyddwr cerdd Cerddorfa Symffoni Gogledd Carolina, credir fod ei ymroddiad a’i ddawn i hyfforddi’r chwaraewyr (yn enwedig chwaraewyr newydd) wedi gwella perfformiadau’r gerddorfa yn ystod y degawd diwethaf. Mae’n dal cysylltiad agos â Chymru trwy ei waith effeithiol a chyson gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Gwerthfawrogir ei natur hyblyg, yn enwedig yng ngweithgareddau addysgiadol y Gerddorfa (prosiect Feel the Music, er enghraifft), ac yn 2013 roedd yn ddewis naturiol i fod yn arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, y bu’n aelod ohoni fel chwaraewr soddgrwth pan oedd yn fachgen.

Arweinyddion Corawl

Y blynyddoedd rhwng 1860 a’r Ail Ryfel Byd oedd oes aur canu corawl yng Nghymru; yn y cyfnod hwn roedd arweinyddion corau yn eilunod i’w haelodau ac i’w hardaloedd. Enillasant nid yn unig wobrau lu ond enwogrwydd cenedlaethol, a hyn sydd yn eu gwahaniaethu oddi wrth gerddorion y genhedlaeth gynt a fu’n weithgar yng nghapeli Merthyr ym mlynyddoedd arloesol yr 1830au a’r 1840au fel Ieuan Ddu (John Thomas, 1795–1871), Rosser Beynon (1811–76) ac Abraham Bowen (1817–92).


1860–1900

Hwyrach mai’r cyntaf i wneud enw iddo’i hun fel arweinydd côr mawr oedd William Griffiths (Ifander; 1830–1910), arweinydd Côr Undebol Dyffryn Tawe. Brodor o Aberafan ydoedd a symudodd i fyw i Bontardawe yn 1850 i weithio yng ngwaith alcam Ynyspenllwch, Clydach. Sefydlodd gôr dirwest o 200 o aelodau yn 1853 ac ar ôl iddo gynnal cyfres o wyliau canu dirwestol, fe dyfodd nifer o gorau bach ar hyd Cwm Tawe. Yn 1862 daethant ynghyd i ffurfio Cymdeithas Gorawl Dyffryn Tawe. Gyda’i gôr bellach yn rhifo dros 300, perfformiwyd y Messiah ym Mhant-teg, Ystalyfera, gyda chyfeiliant cerddorfa; credir mai dyma un o’r troeon cyntaf i’r gwaith cyfan gael ei glywed yng Nghymru. Yn 1869 ymfudodd Ifander i ogledd Lloegr i ymgymryd â gweithfeydd alcam yn Workington ac aeth â nifer o gydweithwyr gydag ef. Aeth rhagddo i fywiogi bywyd cerddorol Ardal y Llynnoedd ond daeth y bennod arloesol hon yn hanes corawl Cymru i ben. Er hynny, dyma gychwyn y syniad o’r ‘côr mawr’.

Yr awydd i gystadlu a fyddai’n gyfrifol am ddwyn y mwyafrif o arweinyddion corawl Cymru i sylw’r genedl – er mwyn cystadlu y ffurfiodd Ifander ei gôr ef yn wreiddiol – ond roedd yn gas gan O. O. Roberts (1847–1926) o Dalsarnau gystadleuaeth, ac i’r ffaith honno y priodolai ei hirhoedledd fel arweinydd Cymdeithas Gorawl Idris o 1872 tan 1926: llwyddiant digonol iddo ef oedd dysgu ei gôr i berfformio’n flynyddol oratorios y meistri. Llawer enwocach oedd Caradog (Griffith Rhys Jones; 1834–97), yr unig arweinydd o Gymru y mae cerflun iddo, gan W. Goscombe John, a ddadorchuddiwyd yn Aberdâr yn 1920.

Cerddor hunanaddysgedig oedd Caradog, a adawodd yr ysgol yn ddeuddeg oed i weithio fel tarawr gof yng ngwaith haearn y Gadlys yng Nghwm Cynon, a dymuniad unfryd cerddorion blaenaf y de oedd mai ef fyddai’r un i arwain Côr Undebol Deheudir Cymru, y South Wales Choral Union, a enillodd ddwywaith yn olynol ym mhencampwriaethau corawl y Palas Grisial yn Llundain yn 1872–3. Rhifai’r côr 350 o gantorion y tro cyntaf, a 450 yr ail flwyddyn. Gweithwyr cyffredin a’u teuluoedd oedd aelodau’r Côr Mawr a gellir dweud mai hwn oedd y corff cyntaf erioed i gynrychioli pobl gyffredin Cymru; roedd hefyd yn symbol o’r Gymru ddiwydiannol. Syfrdanwyd y wasg a beirniaid Seisnig gan nerth eu canu ac o hyn ymlaen cyfystyrid Cymru â chanu tanbaid, soniarus.

Ystyriai’r Cymry eu hunain fod camp Côr Caradog wedi gwneud yn iawn i raddau helaeth am yr ensyniadau gwrthun a wnaed gan awduron y Llyfrau Gleision (1847) fod y Cymry Cymraeg yn ddiddiwylliant. Ar wahanol adegau bu Caradog yn byw mewn sawl man yn ne Cymru, a ffurfiai gorau lle bynnag roedd yn digwydd preswylio. Sefydlodd gôr meibion cyntaf Treorci, ac ef hefyd a arweiniodd y cyngerdd cyntaf o 500 o leisiau meibion unedig, sydd yn rhif digon cyfarwydd erbyn hyn, a hynny yn Neuadd Albert Abertawe yn 1895. Ar awgrym Caradog, yn ogystal, y penderfynodd yr Eisteddfod Genedlaethol y dylid cael cerddorfa i gyfeilio i’r brif gystadleuaeth gorawl, a digwyddodd hynny am y tro cyntaf ym Mhontypridd yn 1893. Cnewyllyn y Côr Mawr oedd Côr Undebol Aberdâr a gydnabyddid, dan arweiniad Caradog, a Silas Evans o’i flaen, yn un o gymdeithasau corawl gorau’r wlad. Olynwyd Caradog gan yr athrylithgar Rees Evans (1835–1916) a fu’n gyfrifol am gyngherddau oratorio o’r safon uchaf yn flynyddol yn Aberdâr rhwng 1874 ac 1895.

Daeth Cwm Rhondda yn enwog am ei ganu corawl o’r 1870au yn sgil twf aruthrol y diwydiant glo. O fod yn arweinwyr y gân yn eu capeli, aeth cerddorion a oedd wedi symud yno, fel M. O. Jones o Ddeiniolen (1842–1908), Eos Cynlais o Ystradgynlais (D. T. Prosser; 1844–1904) a Taliesin Hopkins o Aberpennar (1859–1906), ymlaen i arwain yn eu tro Gôr Unedig Treherbert, Côr Ffilharmonig y Rhondda a Chôr Cymer–Porth, a fu i gyd yn bencampwyr eisteddfodol. Tebyg oedd hanes Tom Stephens (1856–1906), brodor o Frynaman er iddo symud i’r Rhondda yn 1877 o Aberdâr lle buasai’n aelod o’r Côr Mawr. Yn Ystrad Rhondda sefydlodd y Rhondda Glee Society a gafodd sawl buddugoliaeth nodedig gan gynnwys ennill o blith dau ar bymtheg o gorau yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1883, a rhannu’r wobr gyda chôr enwog o Huddersfield yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1887. Eu buddugoliaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd yn 1893 a enillodd iddynt yr hawl a’r modd i gystadlu – ac ennill – yn Eisteddfod Ffair y Byd yn Chicago y flwyddyn honno.

Er i Tom Stephens a’i gôr gael eu gwahodd i ganu o flaen y Frenhines Victoria yn 1898 roedd yr anrhydedd honno eisoes wedi dod i ran Côr Merched Cymru dan Madam Clara Novello Davies (1861– 1943; mam y cerddor Ivor Novello), a oedd hefyd wedi ennill yn Chicago yn 1893. Ond er gwaethaf cenfigen Tom Stephens, Côr Meibion Treorci oedd y côr cyntaf o Gymru i ganu yn Windsor. Ganed eu harweinydd William Thomas (1851–1920) yn Aberpennar, yntau hefyd yn aelod o Gôr Caradog cyn iddo symud i Dreorci fel swyddog ysgolion ac arweinydd y gân yng nghapel Noddfa. Roedd yn ddirwestwr brwd (yn wahanol i Caradog a Tom Stephens a oedd yn dafarnwyr) ac yn 1885 cytunodd i fod yn arweinydd ar barti o feibion a oedd yn canu’n anffurfiol yn nhafarn y Red Cow, ar yr amod eu bod yn gadael y dafarn i ymarfer mewn ysgol.

Dyna a wnaed, a ganed Côr Meibion Treorci. Glowyr ym mhyllau cwmni’r Ocean oedd y mwyafrif o’r côr, a nifer ohonynt yn aelodau yng nghapel Noddfa hefyd, gan mai’r pwll a’r capel oedd seiliau traddodiad corawl y cymoedd – ac ymhen byr amser cafwyd buddugoliaethau ar y llwyfan cenedlaethol. O ganlyniad i’w hymweliad â Chastell Windsor ailenwyd y côr yn Gôr Brenhinol Cymru. Cwtogodd William Thomas nifer ei gantorion o 70 i 20 a bu’r côr newydd ar daith o gwmpas y byd yn 1908–9, gan gynnal dros 300 o gyngherddau. Roedd gan y côr hefyd unawdwyr o fri cenedlaethol fel y tenor Todd Jones o Dreherbert a’r bariton Tom Thomas o Ynys-hir.

Camp corau Dr Roland Rogers a John Price, y naill o ogledd Cymru a’r llall o’r de, oedd ennill y brif wobr gorawl yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith, tair ohonynt yn olynol. Ganed Roland Rogers (1847– 1927) yn West Bromwich; bu’n organydd eglwysi yng nghanolbarth Lloegr ac enillodd raddau cerddoriaeth Prifysgol Rhydychen cyn ei benodi’n Athro yn y Coleg Cenedlaethol ym Mangor ac yn organydd yr eglwys gadeiriol. Cafodd lwyddiant nodedig gydag Undeb Corawl Eryri neu Gôr Undebol y Penrhyn (Côr Bethesda) fel y’i gelwid, gan gipio’r wobr yn Eisteddfodau Cenedlaethol Dinbych 1882, Caerdydd 1883 a Lerpwl 1884, a rhannu’r wobr gyda chôr o Loegr yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1887. Sais uniaith oedd Rogers ac yn ei ymarferion byddai’n cyfathrebu â’i gantorion uniaith Gymraeg trwy gyfieithydd. Gorfu iddo ymddeol o fod yn organydd y Gadeirlan yn 1891 am ei fod yn chwarae yng nghapeli Anghydffurfiol y cylch ond cafodd ei adfer i’w swydd yn 1902.

O’i gymharu â Dr Rogers, gŵr diaddysg oedd John Price (1853–1936), arweinydd Côr Unedig Rhymni a fu’n fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol bump o weithiau, tair o’r rheini’n olynol, sef ym Mhontypridd (1893), Caernarfon (1894) ac yn gydradd â chôr Merthyr yn Llanelli (1895). Dyma’r cyfnod pan fyddai wyth neu ddeg o gorau’n cystadlu am bump awr, pob côr yn rhifo hyd at 200 mewn nifer, gyda’r darnau prawf yn cynnwys corawd o oratorio a chytgan o waith cyfansoddwr cyfoes fel David Jenkins. Dod at ei gilydd er mwyn cystadlu a wnâi’r corau undebol hyn, a phrin oedd y cyngherddau a gadwent, ar wahân i’r ymarfer olaf cyn cystadleuaeth fawr pan oedd mynediad trwy docyn yn unig.


1890–1939

Tra oedd côr-feistri corau undebol fel R. C. Jenkins, Llanelli (1848–1913), a John Williams, Caernarfon (1856–1917) yn adnabyddus ledled Cymru, y tanllyd Dan Davies (1859–1930) o Ddowlais oedd ffigwr mwyaf carismataidd y byd corawl ddiwedd y 19g. Roedd yn arwain parti o fechgyn yng nghapel Moriah, Dowlais, pan nad oedd ond yn naw oed. Yn 1881 ychwanegodd at nifer y côr meibion a oedd ganddo a ffurfio’r Dowlais Harmonic Society, ac am y deng mlynedd nesaf roedd y côr hwnnw, gyda’i 200 o gantorion, yn un o rai mwyaf llwyddiannus Cymru. Gyda’u buddugoliaeth annisgwyl dros y ffefrynnau, Llanelli, yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr yn 1885, agorwyd y fflodiart i lif o wobrau.

Yn 1893 bu dadlau poeth pan gefnodd Davies ar gôr Dowlais a chymryd awenau Côr Ffilharmonig Merthyr. Prin ddwy filltir sydd rhwng y ddau le, ond cyhuddwyd Dan Davies o ‘fradychu’ Dowlais a thaflwyd carreg ato un tro yn stryd fawr Merthyr. Bu’n fuddugol eto gyda’r côr hwn, ond roedd cerddorion o Loegr yn feirniadol o’i arddull ddramatig wrth arwain, ar draul disgyblaeth a thonyddiaeth. Pan fethodd côr Dan Davies ag ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 1897, a hynny ar ôl colli’r flwyddyn gynt yn Llandudno hefyd, aeth yn ffrae gyhoeddus rhyngddo ef a’r beirniaid. Teimlai Dan Davies mai rhagfarn Seisnig a chenfigen oherwydd ei fod ef a’i gorau ‘wedi ennill mwy o wobrau na’r un arweinydd arall yn y byd’ (Merthyr Express, 14 Awst 1897) a oedd wedi ei amddifadu o’r wobr gyntaf haeddiannol. Ciliodd o’r llwyfan eisteddfodol wedi hynny ond cafodd dderbyniad bonllefus gan Gymry alltud Scranton, Pennsylvania, yn 1904, ac fe’i gwahoddwyd i’r Tŷ Gwyn gan yr Arlywydd Theodore Roosevelt.

Harry Evans (1873–1914) a gydiodd yn awenau corau Merthyr a Dowlais. Cawsai hyfforddiant cerddorol gan Edward Lawrence a oedd wedi astudio yn Leipzig, a rhwng 1887 ac 1901 bu’n organydd yn eglwys Bethania, Dowlais, gan ennill yn y cyfnod hwnnw yr ARCO (1893) a’r FRCO (1897).

Cymerodd at arweinyddiaeth côr Dowlais ar ôl i Dan Davies gefnu arnynt yn 1893, a’u hyfforddi i gyflwyno Samson (Handel) gyda cherddorfa lawn o fewn y flwyddyn. Yn 1899 ffurfiodd gôr meibion newydd yn Nowlais ac ennill gyda hwy gystadleuaeth y côr meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1900 yn erbyn deg o gorau eraill gan gynnwys rhai mwyaf blaenllaw Lloegr fel Orffiws Manceinion a Nelson Arion. Ddwy flynedd yn ddiweddarach enillodd y brif gystadleuaeth gorawl gyda chôr cymysg unedig Merthyr a Dowlais yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1903.

Y flwyddyn honno derbyniodd Harry Evans wahoddiad i fod yn arweinydd Undeb Corawl Cymry Lerpwl. Daeth yn organydd eglwys Great George Street ac yn arweinydd cymdeithas gorawl y Brifysgol a chôr Ffilharmonig y ddinas. Gyda’r undeb corawl Cymraeg, cyflwynodd weithiau mawr ac heriol, o’r Dioddefaint yn ôl Sant Mathew (Bach) a Faust (Berlioz) i’r perfformiadau cyntaf o ‘symffonïau corawl’ uchelgeisiol a digyfeiliant Granville Bantock. Cafodd ei gydnabod fel ‘arweinydd mawr’ (‘a great conductor’, Western Mail, 24 Gorffennaf 1914) gan neb llai nag Edward Elgar, cyn ei farwolaeth gynamserol yn 41 oed. Ar wahân i fod yn gyfansoddwr, bu T. Hopkin Evans (1879–1940) yn arweinydd corawl o’r radd flaenaf, yn bennaf gydag Undeb Corawl Cymry Lerpwl ar ôl Harry Evans.

Yr un flwyddyn â cholli Harry Evans bu farw Cadwaladr Roberts (1854–1914) a fu’n gweithio yn y chwarel yn Nhanygrisiau er pan oedd yn ddeg oed; chwarelwr ydoedd gydol ei oes. Fel cynifer o gerddorion y cyfnod ni chafodd fawr o addysg gerddorol ffurfiol, ond yn 1872 gofynnwyd iddo arwain côr capel lleol. Tociodd nifer yr aelodau gan haneru’r côr, cyn creu Côr Tanygrisiau o’r newydd a dechrau ennill yn rheolaidd mewn eisteddfodau.

Ganol yr 1880au ffurfiodd Gôr Meibion Moelwyn ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno 1896 bu’n fuddugol gyda’i ddau gôr. Fe’i dewiswyd yn arweinydd ar gôr Eisteddfod Genedlaethol Ffestiniog 1898 pan berfformiwyd Ystorm Tiberias Edward Stephen (Tanymarian), y tro cyntaf i’r Eisteddfod glywed fersiwn diwygiedig Emlyn Evans o’r oratorio Gymraeg gyntaf hon gyda chyfeiliant cerddorfa; clywyd hefyd Elijah Mendelssohn a gwaith y cyfansoddwr cyfoes D. Christmas Williams, ‘Traeth y Lafan’. Bu Cadwaladr Roberts a’r Moelwyn yn Unol Daleithiau America a Chanada yn 1910 ac 1911 i godi arian at elusen y ddarfodedigaeth (twbercwlosis) gydag Ann Elen Owen Davies yn gyfeilydd a Mary King Sarah o Danygrisiau yn unawdydd, a bu’n arwain am y tro olaf yng Nghylchwyl Castell Harlech ym mis Gorffennaf 1914.

Yn y gogledd-ddwyrain, tra oedd enw da arweinyddion fel Wilfrid Jones y Rhos a G. W. Hughes, Cefn-mawr, yn ymestyn y tu hwnt i’w hardal eu hunain, gwnaeth un gŵr o’r Rhos enw iddo’i hun yng nghymoedd y de. Bu John Hughes (1896–1968) yn gweithio dan ddaear cyn mynd i astudio cerddoriaeth yn Aberystwyth a chael ei benodi’n organydd a chôr-feistr yng nghapel Noddfa Treorci, lle bu William Thomas o’i flaen. Bu yn y swydd honno o 1925 hyd 1942 cyn dod yn drefnydd cerdd cyntaf Sir Feirionnydd (o 1945 hyd 1961). Gan adeiladu ar draddodiad lleol o ganu cynulleidfaol grymus gwnaeth enw mawr iddo’i hun yn yr 1930au fel arweinydd oratorio, gan berfformio tair oratorio bob Nadolig yn Noddfa. Hyfforddodd gôr yr Eisteddfod nifer o weithiau yn ystod ei yrfa, y tro mwyaf nodedig yn Eisteddfod Genedlaethol Treorci yn 1928 pan fu’n gyfrifol am arwain Breuddwyd Gerontius (Elgar), Elijah a’r Dioddefaint yn ôl Sant Mathew (Bach).

Cyfoeswr â John Hughes oedd W. D. Clee a wnaeth Gôr Mawr Ystalyfera yn destun siarad ledled Cymru o 1926 hyd at doriad y rhyfel yn 1939. Ffurfiwyd y côr yn ystod streic yn y maes glo carreg yn 1925. Organydd a chôr-feistr eglwys Pant-teg, Ystalyfera, oedd William David Clee (1883–1946) FRCO, ac enillodd enwogrwydd gyda chôr a ddenai ei aelodau, fel côr Ifander gynt, o gylch eang yng Nghwm Tawe o Glydach i Ystradgynlais. Fe’i hadwaenid fel Côr Mawr Ystalyfera ar bwys ei faint (340 ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926) a’i lwyddiant eisteddfodol, sef yn Eisteddfod Genedlaethol Treorci 1928 (pan ddyfarnwyd 99 marc yr un iddynt am y ddau ddarn prawf), Llanelli 1930, Bangor 1931, Wrecsam 1933 a Chastell-nedd 1934. Mor llwyddiannus oeddynt fel y gofynnodd pwyllgor yr Eisteddfod iddynt beidio â chystadlu oherwydd yr ofn y byddai corau eraill yn cadw draw. Felly, yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1935 cafodd côr Clee wahoddiad i gynnal un o gyngherddau’r nos yn hytrach na chystadlu.

Roedd gan Clee brofiad o gyfarwyddo perfformiadau o operâu ac efallai i hyn ddylanwadu ar ei agwedd tuag at ganu corawl. Bu cryn drafodaeth yn 1936 ar ôl i Dr Richard Terry o Eglwys Gadeiriol Westminster feirniadu côr Clee am eu ‘vocal stunts’, sef eu tuedd i greu effeithiau trwy orbwysleisio mewn dull angherddorol, ac er iddynt gystadlu ar ôl hynny ni fedrent adfer y gogoniant a fu. Pan gipiodd Ystalyfera’r wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1930, un marc yn unig a’u gwahanai oddi wrth Gôr Pontarddulais. Trowyd y byrddau ar gôr Clee yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn 1932. Arweinydd Côr Pontarddulais oedd T. Haydn Thomas (1899–2006), ac wedi’r Ail Ryfel Byd, daeth y côr i chwarae rhan flaenllaw yng Ngŵyl Gerddorol Flynyddol Abertawe pan ddeuai cerddorion amlwg fel John Barbirolli, Adrian Boult a Hugo Rignold i arwain gweithiau corawl a oedd wedi cael eu paratoi i’w perfformio gan gôr T. Haydn Thomas.


1945–2010

Erbyn dechrau’r 1960au roedd Côr Pontarddulais yn prysur edwino a hynny’n rhannol oherwydd twf côr meibion yn y pentref cerddgar hwnnw. Erbyn 1962 roedd gan Noel Davies (1928–2005), arweinydd Côr Meibion Pontarddulais o 1960 hyd 2002, dros gant o aelodau a oedd yn barod i fentro i ffau llewod prif gystadleuaeth y corau meibion. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno 1963 cawsant y gorau ar un o’r llewod mawr, sef Côr Pendyrus, a oedd yn cystadlu am y tro cyntaf o dan eu harweinydd newydd, y lliwgar Glynne Jones (1927–2000). Gyda thenoriaid seingar a oedd yn dangos cymaint fu dylanwad John Davies, Treorci, ar Noel Davies, byddai buddugoliaethau eisteddfodol y Bont maes o law yn torri nid yn unig record gwobrau cyntaf Ivor Sims, arweinydd Côr Orpheus Treforys o 1935 hyd at ei farwolaeth yn 1961 (fel arweinydd côr bechgyn ysgol Pentre-poeth bu Sims yn gyfrifol yn 1943 am recordiad hanesyddol o Seremoni Garolau Benjamin Britten), ond hefyd record John Haydn Davies (1905–91), arweinydd Côr Meibion Treorci o 1946 hyd 1969, trwy ennill un ar ddeg o weithiau.

Parhaodd y côr i fod yn llwyddiannus o dan Clive Phillips. Athrylith y cyn-löwr a’r pianydd disglair Colin Jones, a lleisiau bas coeth ei gôr, a ddaeth ag enwogrwydd i Gôr Meibion y Rhos, yr unig un i dorri crib Treorci yn eu hanterth pan gawsant fuddugoliaeth hanesyddol drostynt hwy, Treforys a Threfansel yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1962. Crëwyd record o fath arall pan enillodd Côr Meibion Dowlais yn Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun 1973; yn y brifwyl honno, ac yntau bellach yn hydref ei ddyddiau, sicrhaodd eu harweinydd, sef y diymhongar D. T. Davies (1900–83) FRCO, goron driphlyg gorawl a hynny ar ôl cael llwyddiant gyda Chôr Merched Dowlais ym mhrifwyliau 1928, 1934 ac 1935, a gyda chôr cymysg Dowlais yn Eisteddfod Abergwaun 1936. Er bod Alwyn Humphreys yn un o arweinyddion a darlledwyr mwyaf adnabyddus a phoblogaidd Cymru, ac yn ymwelydd cyson â gwledydd tramor fel arweinydd gwadd, er siom i nifer ni fentrodd erioed i’r maes cystadleuol gyda Chôr Orpheus Treforys y bu yn eu harwain o 1979 hyd 2004.

Y tu allan i Gymru, creodd Wyn Morris (1929–2010) o Lanelli a George Guest (1929–2002) o Fangor gryn argraff fel arweinyddion corawl. Bu’r naill, a oedd yn fab i’r cerddor Haydn Morris, yn arweinydd y Gymdeithas Gorawl Frenhinol (Royal Choral Society) o 1968 hyd 1970 a Chymdeithas Gorawl Huddersfield o 1969 hyd 1974, a’r llall yn gôr-feistr o 1951 hyd 1991 ar Gôr Coleg Sant Ioan yng Nghaergrawnt lle llwyddodd i greu sain mwy ‘cyfandirol’, llai Seisnig na chôr enwog Coleg y Brenin. Yn 1988, blwyddyn dathlu 400 mlynedd cyhoeddi Beibl William Morgan a fuasai’n astudio yng Ngholeg Sant Ioan, hyfforddodd George Guest ei gôr i ganu yn Gymraeg, a buont ar daith drwy Gymru yn canu darnau gan gyfansoddwyr Cymreig fel William Mathias, Dilys Elwyn-Edwards a T. Hopkin Evans, gyda’r bariton Jeremy Huw Williams ymhlith yr unawdwyr.

O’r 1960au gwelwyd cyfnod newydd yn hanes Cymru gyda thwf sefydliadau fel BBC Cymru a chynnydd dinas Caerdydd. Daeth cenhedlaeth newydd o arweinyddion i’r amlwg fel Alun Guy (Côr Aelwyd Caerdydd), Helena Braithwaite (Cantorion Ardwyn), Richard Elfyn Jones (Côr Poliffonig Caerdydd) a Wil Morus Jones (Côr Godre’r Garth) yng nghyffiniau Caerdydd, yn y gorllewin Alun John (Côr y Tabernacl, Treforys), John Hugh Thomas (Côr Bach Abertawe) a John S. Davies (Cantorion Dyfed), yn y canolbarth Jayne Davies (Côr Merched Hafren) ac yn y gogledd-ddwyrain Brian Hughes (Cantorion Cynwrig) a Jean Stanley Jones (Côr Sirenian). Trosglwyddwyd y batwn yn fwy diweddar i genhedlaeth newydd eto, fel Islwyn Evans yn Nyffryn Teifi, Cefin Roberts ym Mangor, Edward Harry ym Mro Ogwr a Tim Rhys-Evans, Eilir Owen Griffiths, Sioned James a Gwawr Owen yng Nghaerdydd. Ond er eu cystal, go brin eu bod yn cael eu heilunaddoli fel Caradog, Dan Davies a’u tebyg yn yr oes aur.


Richard Elfyn Jones a Gareth Williams



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.