Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Baled"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Cerdd ar bwnc cyfoes a gâi ei chyflwyno ar gân. Roedd swyddogaeth ddeublyg y faled fel cyfrwng adloniant ac fel dull o drosglwyddo newyddion y dydd yn adlewyrchu meddylfryd a chyd-destun hanesyddol y cyfnod. Nod y baledwyr oedd diddanu gan ddefnyddio chwedlau a hanesion cyfoes. Nid oedd papurau newydd ar gael i’r werin yn gyffredinol ac roedd canran helaeth o’r boblogaeth yn anllythrennog, felly roedd y baledi yn gyfrwng newyddion pwysig. Cyfeirir at gynnyrch y traddodiad yn aml fel baledi storïol a chaent eu perfformio i gyfeiliant  [[alawon  gwerin]]  Cymraeg a Saesneg poblogaidd y dydd, megis ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’, ‘Mentra Gwen’, ‘Diniweidrwydd’, ‘Bryniau’r Iwerddon’, ‘Glan Meddwdod Mwyn’, ''‘Charity Mistress’'' a ''‘Pray what will Old England come to’''.
+
Cerdd ar bwnc cyfoes a gâi ei chyflwyno ar gân. Roedd swyddogaeth ddeublyg y faled fel cyfrwng adloniant ac fel dull o drosglwyddo newyddion y dydd yn adlewyrchu meddylfryd a chyd-destun hanesyddol y cyfnod. Nod y baledwyr oedd diddanu gan ddefnyddio chwedlau a hanesion cyfoes. Nid oedd papurau newydd ar gael i’r werin yn gyffredinol ac roedd canran helaeth o’r boblogaeth yn anllythrennog, felly roedd y baledi yn gyfrwng newyddion pwysig. Cyfeirir at gynnyrch y traddodiad yn aml fel baledi storïol a chaent eu perfformio i gyfeiliant  [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon  gwerin]]  Cymraeg a Saesneg poblogaidd y dydd, megis ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’, ‘Mentra Gwen’, ‘Diniweidrwydd’, ‘Bryniau’r Iwerddon’, ‘Glan Meddwdod Mwyn’, ''‘Charity Mistress’'' a ''‘Pray what will Old England come to’''.
  
Ymysg themâu nodweddiadol y baledi yr oedd serch a’r bywyd priodasol, damweiniau diwydiannol, llofruddiaethau, crefydd, llongddrylliadau, dirwest a ffasiynau’r cyfnod. Un o’r motiffau mwyaf poblogaidd oedd hanes y cariadon yn gorchfygu pob rhwystr er mwyn priodi, gyda’r diweddglo yn amrywio yn ôl mympwy’r baledwr. Motiff baledol arall a oedd yn boblogaidd yng Nghymru ac yn ehangach ar hyd a lled Ewrop oedd y stori honno am rieni yn methu ag adnabod eu mab eu hunain ar ôl iddo fod i ffwrdd am gyfnod maith, yn ei gamgymryd am leidr ac yn ei lofruddio. Caiff y faled hon ei hadnabod fel ‘Y Blotyn Du’ ac mae’r fersiwn cynharaf yn dyddio’n ôl i 1716.
 
Llinell 10: Llinell 10:
 
Câi’r baledi eu cyhoeddi ar ffurf pamffledi a’u gwerthu gan y baledwyr yn y fan a’r lle, boed hynny mewn ffeiriau, marchnadoedd neu dafarndai, ac roedd hyn yn aml yn sicrhau bywyd pellach i’r baledi wrth i’r sawl a’u prynai fynd ati i’w perfformio yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain maes o law. Ymhlith rhai o brif ganolfannau cyhoeddi’r baledi yr oedd yr Amwythig, Caerfyrddin, Llanrwst, Croesoswallt a Wrecsam. Yn gyffredinol, Cymraeg oedd iaith y baledi er bod y baledwyr yn defnyddio newyddion a straeon o’r ochr arall i’r ffin yn ogystal ag alawon gwerin benthyg o Loegr a thu hwnt. Mae ambell faled facaronig, sef baled sy’n cyfuno’r Gymraeg a’r Saesneg am yn ail, wedi goroesi yn ogystal. Y 19g. oedd oes aur y baledi, gyda miloedd yn cael eu hargraffu a’u gwerthu ledled y wlad, yn enwedig yn ardaloedd diwydiannol y de. Ceir tystiolaeth fod y baledi’n rhan o draddodiad llawer hŷn fodd bynnag, gydag un faled lofruddiaeth yn dyddio’n ôl i oddeutu 1600 (Evans 1998).
 
Ymhlith y baledwyr mwyaf adnabyddus yr oedd Huw Jones, Llangwm (1700–82), Richard Williams (Dic Dywyll; 1790?–1862?) ac Abel Jones (Bardd Crwst; 1829–1901). Roedd y goreuon o blith y baledwyr yn cyfansoddi eu baledi eu hunain ac yn perfformio ar hyd a lled y wlad yn gyson. Dylid cofio hefyd fod nifer o’r baledwyr yn borthmyn, a thrwy eu teithiau clywent y newyddion diweddaraf a ddeuai’n sail i’w baledi. Fodd bynnag, doedd canran helaeth o’r baledwyr yn ddim namyn crwydriaid a phedleriaid a fyddai’n fodlon perfformio unrhyw faled y caent eu dwylo arni er mwyn ennill ychydig o arian. Er gwaethaf rôl bwysig y baledwyr oddi mewn i’w cymdeithas werinol fel darparwyr adloniant a newyddion, prin oedd parch eu cynulleidfaoedd tuag atynt fel unigolion. Roedd nifer o’r baledwyr yn gadael teuluoedd ar eu hôl gartref tra byddent hwy’n crwydro’r wlad am gyfnodau maith, gan gysgu ar fin y ffordd ac mewn ysguboriau a dwyn bwyd a nwyddau at eu cynhaliaeth o bryd i’w gilydd. O ganlyniad roedd cryn ragfarn gymdeithasol yn eu herbyn.
+
Ymhlith y baledwyr mwyaf adnabyddus yr oedd Huw Jones, Llangwm (1700-82), Richard Williams (Dic Dywyll; 1790?-1862?) ac Abel Jones (Bardd Crwst; 1829-1901). Roedd y goreuon o blith y baledwyr yn cyfansoddi eu baledi eu hunain ac yn perfformio ar hyd a lled y wlad yn gyson. Dylid cofio hefyd fod nifer o’r baledwyr yn borthmyn, a thrwy eu teithiau clywent y newyddion diweddaraf a ddeuai’n sail i’w baledi. Fodd bynnag, doedd canran helaeth o’r baledwyr yn ddim namyn crwydriaid a phedleriaid a fyddai’n fodlon perfformio unrhyw faled y caent eu dwylo arni er mwyn ennill ychydig o arian. Er gwaethaf rôl bwysig y baledwyr oddi mewn i’w cymdeithas werinol fel darparwyr adloniant a newyddion, prin oedd parch eu cynulleidfaoedd tuag atynt fel unigolion. Roedd nifer o’r baledwyr yn gadael teuluoedd ar eu hôl gartref tra byddent hwy’n crwydro’r wlad am gyfnodau maith, gan gysgu ar fin y ffordd ac mewn ysguboriau a dwyn bwyd a nwyddau at eu cynhaliaeth o bryd i’w gilydd. O ganlyniad roedd cryn ragfarn gymdeithasol yn eu herbyn.
  
Mae’r baledi yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth i’r ieithydd, y cerddor a’r hanesydd gan eu bod  yn cynnig cipolwg prin ar fywyd beunyddiol a chymdeithas y werin bobl. O ganlyniad i waith croniclo a chasglu gan [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Amgueddfa Werin Cymru]], yn ogystal â’r cyfweliadau a wnaed gydag unigolion a gofiai’r baledi’n cael eu perfformio, mae casgliad sylweddol o faledi o’r 18g. a’r 19g. wedi goroesi hyd heddiw yn [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Caerdydd a Phrifysgol Bangor. Un o’r unigolion a gafodd ei gyfweld oedd Bertie Stephens. Ac yntau wedi’i eni yn Abergorlech, Sir Gaerfyrddin, yn 1900, cafodd y gŵr hwn ei fagu yn sŵn y baledi. Cawsant gryn argraff arno ac roedd wedi dysgu nifer fawr ohonynt ar ei gof. Llwyddodd i recordio tua 80 o faledi ar gyfer yr Amgueddfa Werin. Yn ogystal â chofio’r sawl a ganodd y baledi, gallodd bennu ymhle y’u clywodd yn cael eu perfformio. Ffafriai’r baledi crefyddol a phwysleisiai bwysigrwydd y perfformiad wrth drosglwyddo neges y faled i’r gynulleidfa.
 
Un o faledi mwyaf adnabyddus y 19g. oedd ‘Y Mochyn Du’, a ysgrifennwyd yn 1854 gan John Owen (1836–1915). Cyfansoddwyd y gân pan fu farw mochyn Dafydd Thomas, Parc-y-maes, Brynberian yn ‘dra sydyn’ ac fe’i canwyd gan Levi Gibbon ar hyd a lled y wlad mewn ffeiriau a marchnadoedd. Cafodd y faled argraff ar gynulleidfaoedd Cymreig a lledaenodd ei phoblogrwydd i sawl rhan o’r byd. Er gwaethaf ei hapêl ryngwladol, daeth yn destun cywilydd i’w hawdur wedi iddo droi at y weinidogaeth a gorchmynnodd nad oedd i’w hadargraffu eto yn y dyfodol serch y galw amdani.
+
Un o faledi mwyaf adnabyddus y 19g. oedd ‘Y Mochyn Du’, a ysgrifennwyd yn 1854 gan John Owen (1836-1915). Cyfansoddwyd y gân pan fu farw mochyn Dafydd Thomas, Parc-y-maes, Brynberian yn ‘dra sydyn’ ac fe’i canwyd gan Levi Gibbon ar hyd a lled y wlad mewn ffeiriau a marchnadoedd. Cafodd y faled argraff ar gynulleidfaoedd Cymreig a lledaenodd ei phoblogrwydd i sawl rhan o’r byd. Er gwaethaf ei hapêl ryngwladol, daeth yn destun cywilydd i’w hawdur wedi iddo droi at y weinidogaeth a gorchmynnodd nad oedd i’w hadargraffu eto yn y dyfodol serch y galw amdani.
  
Gyda dyfodiad y sinemâu a’r neuaddau cerdd fel cyfrwng adloniant newydd, collodd y baledi eu bri erbyn yr 20g. Wrth i [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysg]] ddatblygu, gwelwyd mwy yn troi at bapurau newydd fel ffynhonnell newyddion fwy dibynadwy na’r baledi nad oeddynt yn cyfleu’r ffeithiau cywir bob amser; byddai’r baledwyr yn aml yn gor-ddweud yn fwriadol er mwyn effaith ddramatig ac er mwyn cydio yn nychymyg y gynulleidfa. Diflannodd y traddodiad o ganu baledi bron yn gyfan gwbl ym mhob rhan o Gymru bellach. Er hynny, ceir rhai unigolion sy’n parhau i lunio baledi am ddigwyddiadau lleol, ac mae’r [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol o bryd i’w gilydd yn cynnal cystadleuaeth i lunio a chanu baled wreiddiol ar alaw gyfarwydd.
 
Y diwygiad cyfredol, am 13:40, 6 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerdd ar bwnc cyfoes a gâi ei chyflwyno ar gân. Roedd swyddogaeth ddeublyg y faled fel cyfrwng adloniant ac fel dull o drosglwyddo newyddion y dydd yn adlewyrchu meddylfryd a chyd-destun hanesyddol y cyfnod. Nod y baledwyr oedd diddanu gan ddefnyddio chwedlau a hanesion cyfoes. Nid oedd papurau newydd ar gael i’r werin yn gyffredinol ac roedd canran helaeth o’r boblogaeth yn anllythrennog, felly roedd y baledi yn gyfrwng newyddion pwysig. Cyfeirir at gynnyrch y traddodiad yn aml fel baledi storïol a chaent eu perfformio i gyfeiliant alawon gwerin Cymraeg a Saesneg poblogaidd y dydd, megis ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’, ‘Mentra Gwen’, ‘Diniweidrwydd’, ‘Bryniau’r Iwerddon’, ‘Glan Meddwdod Mwyn’, ‘Charity Mistress’ a ‘Pray what will Old England come to’.

Ymysg themâu nodweddiadol y baledi yr oedd serch a’r bywyd priodasol, damweiniau diwydiannol, llofruddiaethau, crefydd, llongddrylliadau, dirwest a ffasiynau’r cyfnod. Un o’r motiffau mwyaf poblogaidd oedd hanes y cariadon yn gorchfygu pob rhwystr er mwyn priodi, gyda’r diweddglo yn amrywio yn ôl mympwy’r baledwr. Motiff baledol arall a oedd yn boblogaidd yng Nghymru ac yn ehangach ar hyd a lled Ewrop oedd y stori honno am rieni yn methu ag adnabod eu mab eu hunain ar ôl iddo fod i ffwrdd am gyfnod maith, yn ei gamgymryd am leidr ac yn ei lofruddio. Caiff y faled hon ei hadnabod fel ‘Y Blotyn Du’ ac mae’r fersiwn cynharaf yn dyddio’n ôl i 1716.

Er bod y baledwyr weithiau’n cael eu beirniadu am eu diffyg moesoldeb, canent yn aml am grefydd a thestunau moesol ac ni fyddai’n anarferol iddynt gynnwys cwpled moeswersol ar ddiwedd pob baled fel rhybudd i’w cynulleidfaoedd. Mewn cyfnod heriol yn gymdeithasol ac yn economaidd, roedd y baledi hefyd yn gyfrwng i’r werin leisio’u cwyn am y modd y caent eu gormesu gan y tirfeddianwyr a’r stiwardiaid.

Câi’r baledi eu cyhoeddi ar ffurf pamffledi a’u gwerthu gan y baledwyr yn y fan a’r lle, boed hynny mewn ffeiriau, marchnadoedd neu dafarndai, ac roedd hyn yn aml yn sicrhau bywyd pellach i’r baledi wrth i’r sawl a’u prynai fynd ati i’w perfformio yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain maes o law. Ymhlith rhai o brif ganolfannau cyhoeddi’r baledi yr oedd yr Amwythig, Caerfyrddin, Llanrwst, Croesoswallt a Wrecsam. Yn gyffredinol, Cymraeg oedd iaith y baledi er bod y baledwyr yn defnyddio newyddion a straeon o’r ochr arall i’r ffin yn ogystal ag alawon gwerin benthyg o Loegr a thu hwnt. Mae ambell faled facaronig, sef baled sy’n cyfuno’r Gymraeg a’r Saesneg am yn ail, wedi goroesi yn ogystal. Y 19g. oedd oes aur y baledi, gyda miloedd yn cael eu hargraffu a’u gwerthu ledled y wlad, yn enwedig yn ardaloedd diwydiannol y de. Ceir tystiolaeth fod y baledi’n rhan o draddodiad llawer hŷn fodd bynnag, gydag un faled lofruddiaeth yn dyddio’n ôl i oddeutu 1600 (Evans 1998).

Ymhlith y baledwyr mwyaf adnabyddus yr oedd Huw Jones, Llangwm (1700-82), Richard Williams (Dic Dywyll; 1790?-1862?) ac Abel Jones (Bardd Crwst; 1829-1901). Roedd y goreuon o blith y baledwyr yn cyfansoddi eu baledi eu hunain ac yn perfformio ar hyd a lled y wlad yn gyson. Dylid cofio hefyd fod nifer o’r baledwyr yn borthmyn, a thrwy eu teithiau clywent y newyddion diweddaraf a ddeuai’n sail i’w baledi. Fodd bynnag, doedd canran helaeth o’r baledwyr yn ddim namyn crwydriaid a phedleriaid a fyddai’n fodlon perfformio unrhyw faled y caent eu dwylo arni er mwyn ennill ychydig o arian. Er gwaethaf rôl bwysig y baledwyr oddi mewn i’w cymdeithas werinol fel darparwyr adloniant a newyddion, prin oedd parch eu cynulleidfaoedd tuag atynt fel unigolion. Roedd nifer o’r baledwyr yn gadael teuluoedd ar eu hôl gartref tra byddent hwy’n crwydro’r wlad am gyfnodau maith, gan gysgu ar fin y ffordd ac mewn ysguboriau a dwyn bwyd a nwyddau at eu cynhaliaeth o bryd i’w gilydd. O ganlyniad roedd cryn ragfarn gymdeithasol yn eu herbyn.

Mae’r baledi yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth i’r ieithydd, y cerddor a’r hanesydd gan eu bod yn cynnig cipolwg prin ar fywyd beunyddiol a chymdeithas y werin bobl. O ganlyniad i waith croniclo a chasglu gan Amgueddfa Werin Cymru, yn ogystal â’r cyfweliadau a wnaed gydag unigolion a gofiai’r baledi’n cael eu perfformio, mae casgliad sylweddol o faledi o’r 18g. a’r 19g. wedi goroesi hyd heddiw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor. Un o’r unigolion a gafodd ei gyfweld oedd Bertie Stephens. Ac yntau wedi’i eni yn Abergorlech, Sir Gaerfyrddin, yn 1900, cafodd y gŵr hwn ei fagu yn sŵn y baledi. Cawsant gryn argraff arno ac roedd wedi dysgu nifer fawr ohonynt ar ei gof. Llwyddodd i recordio tua 80 o faledi ar gyfer yr Amgueddfa Werin. Yn ogystal â chofio’r sawl a ganodd y baledi, gallodd bennu ymhle y’u clywodd yn cael eu perfformio. Ffafriai’r baledi crefyddol a phwysleisiai bwysigrwydd y perfformiad wrth drosglwyddo neges y faled i’r gynulleidfa.

Un o faledi mwyaf adnabyddus y 19g. oedd ‘Y Mochyn Du’, a ysgrifennwyd yn 1854 gan John Owen (1836-1915). Cyfansoddwyd y gân pan fu farw mochyn Dafydd Thomas, Parc-y-maes, Brynberian yn ‘dra sydyn’ ac fe’i canwyd gan Levi Gibbon ar hyd a lled y wlad mewn ffeiriau a marchnadoedd. Cafodd y faled argraff ar gynulleidfaoedd Cymreig a lledaenodd ei phoblogrwydd i sawl rhan o’r byd. Er gwaethaf ei hapêl ryngwladol, daeth yn destun cywilydd i’w hawdur wedi iddo droi at y weinidogaeth a gorchmynnodd nad oedd i’w hadargraffu eto yn y dyfodol serch y galw amdani.

Gyda dyfodiad y sinemâu a’r neuaddau cerdd fel cyfrwng adloniant newydd, collodd y baledi eu bri erbyn yr 20g. Wrth i addysg ddatblygu, gwelwyd mwy yn troi at bapurau newydd fel ffynhonnell newyddion fwy dibynadwy na’r baledi nad oeddynt yn cyfleu’r ffeithiau cywir bob amser; byddai’r baledwyr yn aml yn gor-ddweud yn fwriadol er mwyn effaith ddramatig ac er mwyn cydio yn nychymyg y gynulleidfa. Diflannodd y traddodiad o ganu baledi bron yn gyfan gwbl ym mhob rhan o Gymru bellach. Er hynny, ceir rhai unigolion sy’n parhau i lunio baledi am ddigwyddiadau lleol, ac mae’r Eisteddfod Genedlaethol o bryd i’w gilydd yn cynnal cystadleuaeth i lunio a chanu baled wreiddiol ar alaw gyfarwydd.

Gwawr Jones

Llyfryddiaeth

  • Meredydd Evans, ‘Canu Cymru yn yr unfed ganrif ar bymtheg’, Cof Cenedl, 13 (1998), 33–67

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.