Baled

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:22, 10 Hydref 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Dechreuodd y term ‘baled’ ymsefydlu yn y Gymraeg yn ystod yr 17g. i ddynodi cerdd gyfoes, rydd a argraffwyd ar ddalen neu bamffled i’w pherfformio a’i gwerthu ledled y wlad. Ffurf y cyfnod modern cynnar ydyw yn ei hanfod, felly, yn perthyn i’r cyfryngau cyfathrebu newydd a ddaeth yn sgil datblygiad y wasg brintiedig a llwybrau masnach. Mae’n arwyddocaol mai’r testun cyntaf a argraffwyd ar dir Cymru oedd baled, sef ‘Cân o Senn iw hen Feistr Tobacco’ a argraffwyd yn Adpar ger Castell Newydd Emlyn yn 1718. Pontiai’r faled y traddodiad llafar a’r gair printiedig, ac yr oedd cerddoriaeth yn elfen hanfodol. Nodid enw’r alaw ynghyd â’r geiriau, gan amlaf, a byddai gwerthwyr yn canu’r cerddi er mwyn denu gwrandawyr a phrynwyr mewn ffeiriau a marchnadoedd. Amrywiai’r pynciau yn fawr, o rybuddion moesol i helyntion rhywiol, o hanes daeargrynfeydd i gerddi serch. Nid oeddynt heb ddogn helaeth o foesoli: yr un beirdd fyddai’n cyfansoddi baledi, carolau duwiol, yn englyna mewn eisteddfodau tafarn ac yn llunio anterliwtiau. O ystyried cyswllt y faled â’r byd argraffu, nid yw’n syndod canfod y perthyn y prif gyfansoddwyr i ardaloedd ag iddynt gysylltiadau clòs â chanolfannau argraffu. Yn y 18g., gwelid y faled yn ffynnu ar hyd heolydd masnach y gogledd-ddwyrain lle gellid cyrraedd argraffdai Caer, Croesoswallt ac Amwythig yn weddol hwylus. Ymhlith y baledwyr enwocaf roedd Twm o’r Nant (Thomas Edwards, 1739-1810), Huw Jones, Llangwm (m.1782) a Jonathan Hughes, Llangollen (1721-1805). Yn y 19g., gwelid y faled yn mudo i’r ardaloedd diwydiannol a daeth baledwyr crwydrol megis Dic Dywyll, Bardd Gwagedd (?1790-?1862) ac Abel Jones, y Bardd Crwst (1830-1901) yn gymeriadau adnabyddus ledled y wlad. Wrth i oes y faled brintiedig ddirwyn i ben, defnyddid y term baled fwyfwy ar gyfer cerddi telynegol neu storïol, megis caniadau I. D. Hooson (1880-1948), ac yn ddiweddarach ar gyfer cerddi protest, megis caneuon Dafydd Iwan (1943-).

Siwan M. Rosser

Llyfryddiaeth

Owen, D. (1986), I Fyd y Faled (Dinbych: Gwasg Gee).

Parry, T. (1986), Baledi’r Ddeunawfed Ganrif, adargraffiad (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Rosser, S. M. (2005), Y Ferch ym Myd y Faled (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

James, E. W. (2005), ‘Painting the world green: Dafydd Iwan and the Welsh protest ballad’, Folk Music Journal, 8:5, tt. 594-618.

Baledi Cymraeg, http://www.cardiff.ac.uk/cy/special-collections/subject-guides/welsh-ballads [Cyrchwyd: 10 Hydref 2016]

Baledi Huw Jones, http://baledihuwjones.swan.ac.uk/ [Cyrchwyd: 10 Hydref 2016]