Bara Menyn, Y

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:42, 25 Gorffennaf 2018 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Grãp acwstig oedd Y Bara Menyn a ryddhaodd ddwy record EP yn ystod gyrfa fer. Yr aelodau oedd Meic Stevens (llais, gitâr), Heather Jones (llais, gitâr) a Geraint Jarman (llais, tamborîn, organ geg). Roedd enw’r band yn gyfeiriadaeth eironig a chwareus at y syniad o ennill bywoliaeth drwy ganu yn y Gymraeg. Pan ffurfi wyd y grãp yn 1969 roedd y tri eisoes yn adnabyddus yn y byd pop Cymraeg, ac roedd Meic Stevens hefyd yn amlwg yn y byd pop Saesneg fel canwr gwerin. Roedd eu diddordebau gerddorol hefyd yn ehangach na ffi niau cerddoriaeth gyfoes Gymraeg.

Un o fwriadau’r tri oedd dychanu’r negeseuon sentimental o wladgarol ac arwynebol oedd yn nodweddu’r mwyafrif o ganeuon poblogaidd ar y pryd gan osgoi’r sain fformwläig oedd yn perthyn i grwpiau megis Y Diliau a’r Pelydrau. Roedd eu sengl gyntaf, ‘Caru Cymru’, yn ymdrech chwareus i gyflawni’r bwriad hwnnw. Yn anffodus, fodd bynnag, roedd y gynulleidfa ar y cychwyn yn gwbl glustfyddar i holl eironi’r gân. Dywedodd y grŵp mewn cyfweliad yn 1969, ‘cân ddychan am y canu pop-wladgarol … oedd “Caru Cymru”, ond fe brynodd pobl hi heb sylweddoli hynny a’i hoffi am ei bod, ar yr wyneb, yn debyg i’r caneuon roedd hi’n eu dychanu …’ (yn Wyn 2002, 111).

Rhoddodd y grŵp sylw i destunau swrrealaidd Stevens yn arddull bandiau megis y Flying Burrito Brothers, ac fe ddylanwadodd hyn yn ddiweddarach ar rai o ganeuon unawdol Jarman, megis ‘I’ve Arrived’. Er mai byrhoedlog fu gyrfa Y Bara Menyn, buont yn ysbrydoliaeth i grwpiau pop amgen o’r 1970au cynnar megis Y Tebot Piws a’r Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog. Aeth y tri ati yn ystod yr 1970au i wneud eu marc fel artistiaid unigol, gyda Jarman yn ffurfio’i grãp y Cynganeddwyr erbyn diwedd y degawd.

Sarah Hill a Pwyll ap Siôn/Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

Lyn Ebenezer (gol.), Meic Stevens: I Adrodd yr Hanes (Llanrwst, 1993)

Hefin Wyn, Be Bop a Lula’r Delyn Aur (Talybont, 2002)

Geraint Jarman, Twrw Jarman (Llandysul, 2011)

Heather Jones, gyda Caron Wyn Edwards, Gwrando ar Fy Nghân (Caerdydd, 2007)

Meic Stevens, Mâs o ‘Mâ (Talybont, 2011)

Disgyddiaeth

Bara Menyn (EP) (Dryw, WRE1065, 1969)

Rhagor o’r Bara Menyn (EP) (Dryw 1072, 1969)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.