Bardd gwlad

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd na chafodd addysg golegol ac sy’n canu am bobl ac am ddigwyddiadau yn ei filltir sgwâr ei hun yw bardd gwlad. Mae’n derm amwys ar y gorau, ond fe’i defnyddir yn bennaf i ddisgrifio bardd sy’n canu’n syml ac yn uniongyrchol am ddigwyddiadau fel genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn ei fro ei hun, ac yn aml iawn fe gomisiynir y bardd gwlad lleol i lunio cerdd ar gyfer yr achlysuron hynny. Mesur canolog i’w arfogaeth yw’r englyn unodl union, ond nid yw pob bardd gwlad yn canu ar y mesurau caeth o reidrwydd – bydd ambell fardd gwlad yn canu cerddi rhydd, yn enwedig felly pan fo’r gerdd yn estynedig. Un traddodiad sy’n gysylltiedig â’r beirdd gwlad yw’r traddodiad o gofnodi troeon trwstan lleol ar gerdd; cyhoeddir y cerddi hyn ambell dro yn y papur bro lleol.

Fel rheol, er nad yn ddieithriad, nid yw’r bardd gwlad yn brifardd nac yn dyheu am y llawryf hwnnw, ond efallai ei fod wedi ennill ambell gadair mewn eisteddfod leol ac yn cefnogi’r eisteddfodau hynny drwy gystadlu ynddynt. Cyhoeddwyd nifer o gyfrolau o weithiau beirdd gwlad o bob cornel o Gymru, yn gyfrolau unigol gan y beirdd eu hunain ac yn flodeugerddi, cyfrolau lleol megis Blodeugerdd Penllyn (1983) ac, yn fwyaf diweddar, y gyfres Beirdd Bro’r Eisteddfod gan Gyhoeddiadau Barddas. Cyhoeddwyd hefyd ymdriniaethau beirniadol fel The Folk Poets (1978) yn y gyfres The Writers of Wales.

Gan mai term amwys yw bardd gwlad, nid gwaith hawdd bob tro yw didoli’r praidd. Cytunir yn gyffredinol y gellir galw beirdd fel Bois y Cilie, Beirdd y Mynydd Bach a theulu’r Tyrpeg, Capel Celyn, yn feirdd gwlad, ond cyfyd anhawster pan fo’r bardd yn meddu ar fri cenedlaethol ac yn cyflawni swyddogaeth y bardd gwlad ar yr un pryd. Enghraifft o’r ddeuoliaeth hon yw Gerallt Lloyd Owen, yn benodol yn ei ail gyfrol o gerddi, Cerddi’r Cywilydd (1972). Gwelir yn hanner cyntaf y gyfrol hon gerddi sy’n amlygu’r wedd genedlaethol ar ganu Gerallt; yn yr ail hanner ceir cerddi i bobl o ardal y Sarnau ger y Bala sy’n cynrychioli ei waith fel bardd gwlad. Ystyrir Dic Jones yn fardd gwlad gan Dafydd Johnston, ac eto roedd Dic yn un o brifeirdd mawr ail hanner yr ugeinfed ganrif, a’i waith yn cael ei ddarllen a’i werthfawrogi ar lefel genedlaethol.

Bu cryn ddadlau hefyd ynghylch priodoldeb dynodi R. Williams Parry yn fardd gwlad. Ni ellir dadlau nad yw rhai o gerddi R. Williams Parry, yn enwedig felly ei englynion coffa enwog, yn dangos ei fod yn cyflawni swyddogaeth y bardd gwlad, ond fe ffieiddiai rhai beirniaid o glywed bod bardd o’i statws ef yn cael ei israddio drwy ei alw’n fardd gwlad: ‘[rh]yfeddol’, ym marn Thomas Parry, oedd y gellid ‘dweud peth fel hyn am ddau o’r beirdd mwyaf soffistigedig a ganodd yn Gymraeg erioed’ [sef Williams Parry a Waldo Williams]. Gwelir, felly, y gall bardd gwlad fod yn derm ac iddo gynodiadau anghysurus a sarhaus weithiau, ond gan mwyaf fe’i golygir yn ddiffuant ac yn ddiragfarn.

Gruffudd Antur

Llyfryddiaeth

Edwards, E. (gol.) (1983), Blodeugerdd Penllyn (Cyhoeddiadau Barddas).

Johnston, D. (2006), ‘Dic Jones’, yn Rhys, R. (gol.), Y Patrwm Amryliw, cyfrol 2 (Cyhoeddiadau Barddas), tt. 118–26.

Llwyd, A. (1979), ‘Ymdrin â’r beirdd gwerinaidd’, Barddas, 31, 4–5.

Nicholas, W. Rh. (1978), The Folk Poets (Cardiff: University of Wales Press).

Owen, G. Ll. (1990), Cerddi’r Cywilydd, argraffiad newydd (Caernarfon: Gwasg Gwynedd).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.