Bennett, Elinor

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:33, 7 Chwefror 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(g.1943)

Telynores bwysicaf ei chyfnod yng Nghymru a lladmerydd unigryw dros nifer o achosion cerddorol arbennig, gan gynnwys sefydlu Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon yn 1999. Fel brodor o Lanuwchllyn, cafodd ei haddysg gynnar yn un o ardaloedd cyfoethocaf y diwylliant cerddorol Cymraeg a datblygodd yn delynores ddawnus yn ystod ei dyddiau ysgol. Ym Mhrifysgol Aberystwyth graddiodd yn y gyfraith ond aeth ymlaen i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain gydag Osian Ellis. Cafodd sawl cyfle mawr yn ystod ei blynyddoedd cynnar yn Llundain, megis perfformio yn Aldeburgh dan arweiniad Benjamin Britten ac ar nifer o recordiadau pwysig, gan gynnwys un o ddisgiau cyntaf y gantores Margaret Price. Yn 1970 cyflwynodd y perfformiad cyntaf o’r Fantasy gan Alun Hoddinott yn Neuadd Wigmore, Llundain.

Parhaodd ei gyrfa gerddorol ar ôl priodi Dafydd Wigley yn 1967, ond fel gwraig i un o wleidyddion Cymreig mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth daeth cyfrifoldebau eraill i’w rhan yn gynyddol. Pan ddaeth yn amlwg fod eu dau fab cyntaf yn dioddef o anabledd difrifol cyfyngwyd ymhellach ar ei hannibyniaeth fel perfformiwr. Yn nodweddiadol iawn ohoni, trodd Elinor y profiad o ddefnyddio cerddoriaeth i leddfu dioddefaint dwys ei meibion i ddiben ymarferol ehangach trwy astudio’r datblygiadau mewn therapi cerdd yn Awstralia, ar ôl ennill Ysgoloriaeth Churchill yn 1985. Rhoddodd hyn ar waith wedyn yng Ngwynedd gan arwain at benodi therapydd cerdd proffesiynol cyntaf y sir yn dilyn cynllun peilot yn adran gerdd Prifysgol Bangor lle’r oedd Elinor yn diwtor telyn.

Wrth ailgydio yn ei gyrfa bu’n ddygn yn denu cyfansoddwyr cyfoes Cymru i gyfansoddi ar gyfer y delyn, gan gychwyn gyda Llyfr-lloffion y Delyn/ Harp Scrapbook John Metcalf yn 1990. Dan ei golygyddiaeth cyhoeddwyd dwy gyfrol yn dwyn y teitlau Telyn Fyw (Curiad, 1996) a Telyn Fyw 2 (Curiad, 1998) sy’n ffrwyth ei brwdfrydedd i greu repertoire newydd ar gyfer offeryn traddodiadol. Yn dilyn cyfnod hir o gynllunio yn ystod yr 1990au aeth Elinor ati i sefydlu Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon, yn rhannol i lenwi’r bwlch dirfawr ym maes addysg gerddorol yn hen siroedd gogledd Cymru, ond hefyd fel canolbwynt i astudiaethau cerdd annibynnol mewn nifer o feysydd amrywiol. O symud i’r Galeri yn Noc Fictoria Caernarfon yn 2004 datblygodd y Ganolfan yn bwerdy creadigol unigryw. Elinor hefyd yw sylfaenydd Gŵyl Delynau Ryngwladol Caernarfon a gynhelir bob tair blynedd yn Galeri. Derbyniodd OBE yn 2005. Recordiodd yn helaeth ym meysydd cerddoriaeth glasurol a chelfyddydol a’r traddodiadol.

Geraint Lewis

Disgyddiaeth Ddethol

Darlun o’r Delyn (Sain SCD9053, 1988)
Telynau a Chân (Sain SCD4041, 1991)
Mathias, Santa Fe Suite (Nimbus NI5441, 1995)
Alawon John Thomas, Pencerdd Gwalia (Sain SCD2195, 1998)

Llyfryddiaeth

Elinor Bennett, Tannau Tynion (Cyfres y Cewri 35) (Gwasg Gwynedd, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.