Beriah Gwynfe Evans

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:47, 12 Mehefin 2014 gan Marc Haynes (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Ganed Beriah Gwynfe Evans yn Nant-y-glo ar 12 Chwefror 1848, yn fab i weinidog. Cafodd ei addysg yn breifat. Priododd ei wraig, Anne, ar Orffennaf yr 18fed, 1871. Roedd yn athro, ac yna’n ddramodydd, ysgrifennwr a newyddiadurwr. Roedd yn olygydd Cyfaill yr Aelwyd. Roedd yn ymwneud â'r Eisteddfod, ac yn gweithio fel ysgrifennydd drosti. Bu'n awyddus i greu sefydliad a oedd yn hyrwyddo drama yng Nghymru, ac fe'i disgrifiwyd fel ‘tad y ddrama Gymraeg’ o ganlyniad i'r dramâu y bu iddo eu cyfansoddi, gweithiau fel Owain Glyndŵr a Llewelyn ein Llyw Olaf.

Llyfryddiaeth

  • Beriah Gwynfe Evans, Ystori’r Streic (Caernarfon, 1904). [Drama]
  • Beriah Gwynfe Evans, Esther: Drama Ysgythrol (Caernarfon, 1914). [Drama]
  • Beriah Gwynfe Evans, Caradog (Caernarfon, 1904). [Drama]
  • Beriah Gwynfe Evans, The Bardic Gorsedd, its history and symbolism (Pont-y-pŵl, 1923).
  • Beriah Gwynfe Evans, Chwarae-gân (Llanberis, 1879).
  • Beriah Gwynfe Evans, ‘Cymro, Cymru a Chymraeg’ yn eu cysylltiad ag addysg (Lerpwl, 1889).
  • Beriah Gwynfe Evans, Y Cyngor Plwyf (Caernarfon, 1894).
  • Beriah Gwynfe Evans, Dafydd Dafis (Wrecsam, 1898).
  • Beriah Gwynfe Evans, Y Ddwy Fil (Aberafan, 1912).
  • Beriah Gwynfe Evans, Diwygwyr Cymru (Caernarfon, 1900).
  • Beriah Gwynfe Evans, Glyndŵr: Tywysog Cymru (Caernarfon, 1911).
  • Beriah Gwynfe Evans, The Life Romance of Lloyd George (Llundain, 1915).
  • Beriah Gwynfe Evans, Llawlyfr y Cymro ac arweinydd yr ymneillduwr i Ddeddf Addysg 1902 (Dinbych, 1903).
  • Beriah Gwynfe Evans, Llewelyn ein Llyw Olaf, cerddoriaeth gan Alaw Ddu (h.y. William Thomas Rees) (Llanelli, 1983).
  • Beriah Gwynfe Evans, ‘The peasantry of South Wales’, Longman’s Magazine (Gorffennaf 1885).
  • Beriah Gwynfe Evans, Ymneillduaeth Cymru (mewn atebiad i Dr James, Manchester) (Treffynnon, 1901).
  • Beriah Gwynfe Evans, Gwrthryfel Owain Glyndŵr (Llanberis, 1880).
  • Beriah Gwynfe Evans, ‘Welsh National Drama: Lord Howard de Walden’s mistake, and how it might be rectified, I. – The Mistake’, Wales: the National Magazine for the Welsh People, VI, 35 (1914), t. 44.

Amdano

  • E. G. Millward, ‘Beriah Gwynfe Evans : a pioneer playwright-producer’, yn (gol.) Hywel Teifi Edwards, A guide to Welsh literature: volume V, c. 1800–1900 (Caerdydd, 2000), tt. 166–185.
  • Rhiannon Ifans, ‘Beriah Gwynfe Evans’, Llên Cymru, cyfrol 25 (2002), tt. 74–93.
  • T. Shankland, Diwygwyr Cymru (S.I.: Seren Gomer, 1900–1904)
  • E. G. Millward, ‘O’r Llyfr i’r Llwyfan: Beriah Gwynfe Evans a’r Ddrama Gymraeg’, yn (gol.) J. E. Caerwyn Williams, Ysgrifau Beirniadol, XIV (Dinbych, 1988), tt. 199–220.
  • J. T. Jones, ‘Y Ddrama yng Nghymru’, Y Darian (8 Ebrill 1920), t. 8.
  • E. Wyn James, ‘“Nes na’r hanesydd...”: Owain Glyndwr a Llenyddiaeth Gymraeg y Cyfnod Modern, Rhan 3: O William Shakespeare i Beriah Gwynfe Evans’, Taliesin, cyfrol 112 (Haf 2001), tt. 96–106.
  • E. Wyn James, ‘“Nes na’r hanesydd...”: Owain Glyndwr a Llenyddiaeth Gymraeg y Cyfnod Modern, Rhan 4: Beriah o’r Blaenau a Byd y Ddrama’, Taliesin, cyfrol 113 (Hydref 2001), tt. 93–100.
  • J. Kitchener Davies, ‘ Yr Eisteddfod a’r Ddrama’, Heddiw, V, rhif 4 (Awst, 1939), t. 170.
  • Ioan Williams, ‘Ymudiad Ddrama 1880–1911 – Beriah Evans a’r Ddrama Hanes’, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880–1940 (Llandybie, 2006), tt. 33–42.
  • D. R. Davies, ‘“Beriah” – Gwyliwr ar y Mur ein Drama’, Ford Gron, cyfrol 4, rhif 12 (Hydref, 1934), t. 280.

Cyfeiriadau