Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Big Leaves"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 8: Llinell 8:
 
Rhyddhaodd Big Leaves eu record hir gyntaf, ''Pwy Sy’n Galw'', yn 2000. Profodd y band lwyddiant tu hwnt i Gymru am gyfnod, gan berfformio mewn [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau]] megis South by Southwest yn Austin, Texas, yn 2002, ond chwalodd y grŵp yn fuan ar ôl rhyddhau eu hail record hir ''Alien & Familiar'' yn 2004.
 
Rhyddhaodd Big Leaves eu record hir gyntaf, ''Pwy Sy’n Galw'', yn 2000. Profodd y band lwyddiant tu hwnt i Gymru am gyfnod, gan berfformio mewn [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau]] megis South by Southwest yn Austin, Texas, yn 2002, ond chwalodd y grŵp yn fuan ar ôl rhyddhau eu hail record hir ''Alien & Familiar'' yn 2004.
  
Aeth y ddau frawd Meilir ac Osian Gwynedd ymlaen i ffurfio [[Big Leaves | Sibrydion]], band a brofodd gryn lwyddiant rhwng 2004 a 2010. Yr aelodau eraill oedd Dan ‘Fflos’ Lawrence (gitâr flaen), Rhys Roberts (gitâr fas), a fu hefyd yn aelod o [[Anweledig]], a Dafydd Nant (drymiau). Perfformiodd Sibrydion am y tro cyntaf yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Casnewydd 2004 gan ryddhau eu halbwm cyntaf ''JigCal'' flwyddyn yn ddiweddarach.
+
Aeth y ddau frawd Meilir ac Osian Gwynedd ymlaen i ffurfio Sibrydion, band a brofodd gryn lwyddiant rhwng 2004 a 2010. Yr aelodau eraill oedd Dan ‘Fflos’ Lawrence (gitâr flaen), Rhys Roberts (gitâr fas), a fu hefyd yn aelod o [[Anweledig]], a Dafydd Nant (drymiau). Perfformiodd Sibrydion am y tro cyntaf yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Casnewydd 2004 gan ryddhau eu halbwm cyntaf ''JigCal'' flwyddyn yn ddiweddarach.
  
 
Gan arbrofi gydag ystod ehangach o arddulliau na roc caled Big Leaves gan gynnwys sain fwy acwstig a gwerinol, enillodd y grŵp gategori albwm gorau 2006 yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru am ''JigCal''. Rhyddhawyd eu hail albwm, ''Simsalabim'', yn 2007, ar label Copa, ac yna albwm yn Saesneg, ''Campfire Classics'', yn 2009. Sibrydion oedd band gorau 2009 yng ngwobrau’r Selar.
 
Gan arbrofi gydag ystod ehangach o arddulliau na roc caled Big Leaves gan gynnwys sain fwy acwstig a gwerinol, enillodd y grŵp gategori albwm gorau 2006 yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru am ''JigCal''. Rhyddhawyd eu hail albwm, ''Simsalabim'', yn 2007, ar label Copa, ac yna albwm yn Saesneg, ''Campfire Classics'', yn 2009. Sibrydion oedd band gorau 2009 yng ngwobrau’r Selar.

Y diwygiad cyfredol, am 15:38, 28 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Band roc Cymraeg o ardal Waunfawr ger Caernarfon a fu’n boblogaidd yn ystod diwedd yr 1990au ac ym mlynyddoedd cynnar y mileniwm. Aelodau’r band oedd Rhodri Sion (llais), Meilir Gwynedd (gitâr), Kevin Tame (gitâr fas, trwmped) ac Osian Gwynedd (drymiau, allweddellau).

Ffurfiodd y band yn 1988 dan yr enw Beganifs (gyda Rhys Sion ar y drymiau) tra’r oedd yr aelodau i gyd yn eu harddegau cynnar. Daethant i sylw Geraint Jarman ar ôl ymddangos ar raglen bop S4C Fideo 9, a bu’r band yn teithio gyda Jarman a’r Cynganeddwyr yn ystod yr 1990au cynnar. Rhyddhaodd Beganifs ddau gasét EP ar label Ankst. Gan ddod i sylw hyrwyddwyr a threfnwyr tu hwnt i Gymru, dyma’r band yn newid eu henw i Big Leaves. Yn sgil llwyddiant Cool Cymru ynghanol yr 1990au, teithiodd Big Leaves yn gyson gyda bandiau megis Catatonia a’r Super Furry Animals. Fodd bynnag, ni dderbyniodd y grŵp sylw na chydnabyddiaeth haeddiannol, er i gyflwynwyr radio megis y DJ Mark Radcliffe eu hyrwyddo ar Radio 1, ac er i ganeuon megis ‘Seithenyn’ (am chwedl Cantre’r Gwaelod) a ‘Dydd ar ôl Dydd’, brofi’n boblogaidd iawn ar raglenni Radio Cymru.

Rhyddhaodd Big Leaves eu record hir gyntaf, Pwy Sy’n Galw, yn 2000. Profodd y band lwyddiant tu hwnt i Gymru am gyfnod, gan berfformio mewn gwyliau megis South by Southwest yn Austin, Texas, yn 2002, ond chwalodd y grŵp yn fuan ar ôl rhyddhau eu hail record hir Alien & Familiar yn 2004.

Aeth y ddau frawd Meilir ac Osian Gwynedd ymlaen i ffurfio Sibrydion, band a brofodd gryn lwyddiant rhwng 2004 a 2010. Yr aelodau eraill oedd Dan ‘Fflos’ Lawrence (gitâr flaen), Rhys Roberts (gitâr fas), a fu hefyd yn aelod o Anweledig, a Dafydd Nant (drymiau). Perfformiodd Sibrydion am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 gan ryddhau eu halbwm cyntaf JigCal flwyddyn yn ddiweddarach.

Gan arbrofi gydag ystod ehangach o arddulliau na roc caled Big Leaves gan gynnwys sain fwy acwstig a gwerinol, enillodd y grŵp gategori albwm gorau 2006 yng Ngwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru am JigCal. Rhyddhawyd eu hail albwm, Simsalabim, yn 2007, ar label Copa, ac yna albwm yn Saesneg, Campfire Classics, yn 2009. Sibrydion oedd band gorau 2009 yng ngwobrau’r Selar.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

Beganifs:

  • Ffraeth [EP] (Ankst 026, 1992)
  • Aur [EP] (Ankst 035, 1992)

Big Leaves:

  • Trwmgwsg [EP] (Crai CD062, 1998)
  • Belinda [EP] (Crai CD066, 1999)
  • ‘Sly Alibi’ [sengl] (Whipcord W-CRACK002, 1999)
  • ‘Racing Birds’ [sengl] (Whipcord W-CRACK003, 1999)
  • ‘Fine’ [sengl] (Metropolis MET1, 2000)
  • Pwy Sy’n Galw? (Crai CD069, 2000)
  • Animal Instinct [EP] (Dell’Orso EDDA02, 2001)
  • ‘Electro-Magnetic Pollution’ [sengl] (BOOB 009CD, 2001)
  • ‘Speakeasy’ [sengl] (Dell’Orso EDDA04, 2002)
  • Siglo [EP] (Crai CD082, 2002)
  • Alien & Familiar (Dell’Orso, EDDA 05CD, 2004)

Sibrydion:

  • JigCal (Rasal CD009, 2005)
  • Simsalabim (Copa CD002, 2007)
  • Campfire Classics (Dell’Orso EDDA17CD, 2008)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.