Bingley, William

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:38, 15 Chwefror 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(1774–1823)

Offeiriad, botanegydd a cherddor amatur. Fe’i bedyddiwyd yn Doncaster, Swydd Efrog, lle cafodd ei addysg gynnar, ac oddi yno aeth i Peterhouse, Caergrawnt (1795) lle graddiodd yn BA (1799) ac MA (1803). Fe’i hurddwyd yn offeiriad yn Eglwys Loegr a gwasanaethodd yn Mirfield (Swydd Efrog), Christchurch (Hampshire) ac yng Nghapel Fitzroy, Eglwys Sant Saviour, Charlotte Street, Llundain. Yn 1800 fe’i gwnaed yn Gymrawd o’r Gymdeithas Linneaidd.

Yn 1798 treuliodd wyliau’r haf yn teithio o amgylch gogledd Cymru am dri mis a chyhoeddodd hanes y daith mewn dwy gyfrol o’r enw A Tour Round North Wales … (1800), gyda’r nod o ‘arwain teithwyr y dyfodol’. Mae’n cydnabod ei ddyled i gyhoeddiadau Thomas Pennant (1726–98) ac Edward Jones (Bardd y Brenin; 1752–1824), i’r olaf o’r ddau’n arbennig am ei wybodaeth am feirdd, cerddoriaeth, offerynnau ac arferion Cymru, a chynhwysir darn wedi’i drawsgrifio o lawysgrif Robert ap Huw hefyd.

Mae ail gyfrol y Tour yn cynnwys ‘Select Specimens of Welsh Music’, sef pymtheg o alawon a cheinciau Cymreig: ‘Ar Hyd y Nos’; ‘Blodau’r Grug’; ‘Cwynfan Brydain’; ‘Difyrrwch Arglwyddes Owen’s’; ‘Dowch i’r Frwydr’; ‘Glan Meddwdod mwyn’; ‘Llwyn On’; ‘Merch Megan’; ‘Morfa Rhuddlan’; ‘Nos Galan’; ‘Suo Gan’; ‘Tri Chant o Bunnau’; ‘Triban Gwyr Morgannwg’; ‘Y Gadlys’. Am y rhain dywed (t. 289):

Yn yr alawon a ddewisais, newidiais gywair rhai ohonynt, a newid y bas, fel y gellid eu haddasu’n well ar gyfer yr harpsicord. Mae’r rhan fwyaf o’r telynorion y cyfarfûm â hwy yng Nghymru yn chwarae yng nghyweiriau mwyaf G a D, nad ydynt yn gweddu o gwbl i destunau lleddf. Cymerwyd chwech o’r alawon o gasgliad rhagorol Mr Jones, ac ysgrifennais y gweddill o’r delyn, pan oeddwn yn y wlad honno.

Mae hyn nid yn unig yn amlygu ei dueddiadau golygyddol a’i ddoniau cerddorol, ond hefyd yn cadarnhau ei fod yn gasglwr brwd. Anghofiwyd ei gyfansoddiadau gwreiddiol i raddau helaeth.

Dychwelodd i ogledd Cymru yn 1801 am bedwar mis o Fehefin hyd Fedi, gan gymryd diddordeb arbennig yn siroedd Dinbych, Meirionnydd, Caernarfon a Môn. Yn sgil hynny cyhoeddwyd Sixty of the most admired Welsh Airs collected … By the Rev. W. Bingley … arranged for the Pianoforte By W. Russell. Junr Organist of the Foundling Hospital, London (1803). Roedd y rhan fwyaf o’r alawon hyn wedi eu hargraffu’n flaenorol mewn cyhoeddiadau gan John Parry (Rhiwabon) ac Edward Jones (Bardd y Brenin).

Cyfunwyd teithiau 1798 ac 1801 yn y ddwy gyfrol North Wales; including its Scenery, Antiquities, Customs… delineated from Two Excursions … (1804). Mae’r ail gyfrol yn cynnwys ‘Sixteen Admired Welsh Airs’ y mae chwech ohonynt (‘Ar Hyd y Nos’, ‘Difyrwch Arglwyddes Owain’, ‘Llwyn On’, ‘Merch Megan’, ‘Morfa Rhuddlan’, ‘Nos Galan’) yn ymddangos yng nghyhoeddiad 1800; mae’r gweddill – ‘Blodau y Drain’, ‘Codiad yr Haul’, ‘Codiad yr Hedydd’, ‘Difyrwch Gwyr Dyfi’, ‘Grisial Ground’, ‘Hai Lwli’, ‘Megan a golles ei gardas’, ‘Toriad y Dydd’, ‘Y Dydd Cyntaf o Awst’, ‘Ymadawiad y Frenhines’ – i’w cael hefyd yng nghasgliad 1803 o’i eiddo. Nid yw’r argraffiadau a ddilynodd yn cynnwys cerddoriaeth. Archwiliodd Bingley dair canrif o gerddoriaeth Ewropeaidd yn ei Musical Biography… (1814). Bu farw yn Charlotte Street, Llundain, ar 11 Mawrth 1823.

David R. Jones



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.