Blogosffer

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Blogosphere

Yr holl flogiau sydd ar gael ar y rhyngrwyd, ac mae’r byd hwn yn cael ei weld fel maes penodol ynddo’i hun. Credir i’r term gael ei fathu ar ddiwedd y 1990au wrth chwarae ar eiriau o’r gair ‘logosphere’, sef cyfuniad o’r geiriau Groegaidd ‘logos’ (gair) a ‘sphere’ (byd). Heddiw, cyfeirir at y blogosffer yn aml fel mesur o farn y cyhoedd, er bod rhai blogiau’n fwy dibynadwy na’i gilydd. Mae nifer o wefannau’n cadw golwg ar flogiau, fel Technorati a BlogScope, a thrwy hynny maen nhw’n dilyn pynciau poblogaidd yn rheolaidd.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.