Blwyddnod

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cofnodion byr o ddigwyddiadau o bwys a gofnodir fesul blwyddyn yw ‘blwyddnodion’ (Lladin, annales). Maent yn wahanol, felly, i ‘groniclau’ lle y trefnir digwyddiadau o dan benawdau megis teyrnasiad brenin. Cedwid blwyddnodion yn Rhufain yn yr hen fyd, yn ôl Cicero a Servius. Mae’r traddodiad canoloesol o gadw blwyddnodion yn dechrau yn Iwerddon ac ym Mhrydain yn y 7g., pan ddechreuodd mynaich nodi digwyddiadau o bwys yn ymylon y tablau a ddefnyddid i gadarnhau dyddiad y Pasg bob blwyddyn. Lledodd yr arfer i’r cyfandir wedyn. Mewn mynachlogydd y cedwid y blwyddnodion hyn fel arfer.

Yr enghraifft gynharaf o Gymru yw’r Annales Cambriae ‘Blwyddnodion Cymru’ a gyfansoddwyd yn y 10g., mwy na thebyg yn Nhyddewi. Lladin yw iaith y testun hwn, er ei fod yn cynnwys ychydig o eiriau o Hen Gymraeg. Yn ogystal, mae gennym nifer o fersiynau o’r testun a elwir yn Brut y Tywysogion. Fe’i cyfansoddwyd yn Lladin tua diwedd y 13g., a hyn mewn ymateb i gwymp tywysogion Gwynedd. Ymgais sydd yma, felly, i lunio hanes Cymru annibynnol. Ni oroesodd y testun Lladin, ond mae nifer o gyfieithiadau Cymraeg a wnaethpwyd yn y 14g. ar glawr: yr un a geir ym Mheniarth 20 oedd y cynharach (c. 1330). Ceir cyfieithiad arall yn Llyfr Coch Hergest, a fersiwn arall sy’n cynnwys tipyn go lew o ddeunydd ychwanegol o groniclau Seisnig dan y teitl Brenhinedd y Saeson.

Simon Rodway

Llyfryddiaeth

Dumville, D. N. (gol.) (2002), Annales Cambriae, A.D. 682-954: Texts A-C in Parallel (Cambridge: Department of Anglo-Saxon, Norse and Celtic).

Dumville, D. N. (gol.) (2005), Brenhinoedd y Saeson, ‘The Kings of the English’, A.D. 682-954: Texts P, R, S in Parallel (Aberdeen: Department of History).

Jones, T. (gol.) (1941), Brut y Tywysogyon: Peniarth MS. 20 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Jones, T. (cyf.) (1952), Brut y Tywysogyon or The Chronicle of the Princes: Peniarth 20 Version (Cardiff: University of Wales Press).

Jones, T. (gol.) (1955), Brut y Tywysogyon or The Chronicle of the Princes: Red Book of Hergest Version (Cardiff: University of Wales Press).

Jones, T. (gol.) (1971), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Phillimore, E. (gol.) (1888), ‘The Annales Cambriae and the Old Welsh Genealogies from Harleian MS. 3859’, Y Cymmrodor, 9, 141-83.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.