Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bob Delyn a'r Ebillion"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
[[Grŵp gwerin]]-roc amgen dyfeisgar a dylanwadol oedd Bob Delyn a’r Ebillion (neu Bob Delyn), a ddaeth i amlygrwydd yn ystod yr 1990au. Ffurfiwyd y band gan y bardd a’r cerddor Twm Morys (llais, [[telyn]], gitâr) ynghyd â Gorwel Roberts (gitâr). Aelod arall cyson oedd Edwin Humphreys (sacsoffon, clarinet), gynt o’r grŵp ''reggae'' o Fethesda, Y Jecsyn Ffeif, ac yn aelod o [[Geraint Løvgreen]] a’r Enw Da. Roedd enw’r grŵp, Bob Delyn a’r Ebillion, yn chwarae ar enw’r ffigwr gwerin amlwg o America, Bob Dylan, a fu’n ddylanwad mawr ar Twm a Gorwel.
+
[[Gwerin, grwpiau | Grŵp gwerin]]-roc amgen dyfeisgar a dylanwadol oedd Bob Delyn a’r Ebillion (neu Bob Delyn), a ddaeth i amlygrwydd yn ystod yr 1990au. Ffurfiwyd y band gan y bardd a’r cerddor Twm Morys (llais, [[telyn]], gitâr) ynghyd â Gorwel Roberts (gitâr). Aelod arall cyson oedd Edwin Humphreys (sacsoffon, clarinet), gynt o’r grŵp ''reggae'' o Fethesda, Y Jecsyn Ffeif, ac yn aelod o [[Geraint Løvgreen (g.1955) | Geraint Løvgreen]] a’r Enw Da. Roedd enw’r grŵp, Bob Delyn a’r Ebillion, yn chwarae ar enw’r ffigwr gwerin amlwg o America, Bob Dylan, a fu’n ddylanwad mawr ar Twm a Gorwel.
  
 
Wedi cyfnod o jamio a pherfformio byrfyfyr mewn sesiynau gwerin, rhyddhaodd Bob Delyn ''Croeso i’r Crac Cymraeg'' (1989), casét EP pedair cân ar eu liwt eu hunain. Roedd arddull gynnar y grŵp yn mynd yn ôl at wreiddiau’r traddodiad gwerin gan gyfuno canu amrwd a herfeiddiol ag elfennau gwrthsefydliadol pync-roc. Yn hyn o beth roedd hi’n bosibl gweld tebygrwydd rhwng yr hyn yr oedd Bob Delyn yn ceisio’i wneud yng Nghymru a chynnyrch grwpiau pync-gwerin megis The Pogues a The Wolfe Tones ar lefel fwy rhyngwladol.
 
Wedi cyfnod o jamio a pherfformio byrfyfyr mewn sesiynau gwerin, rhyddhaodd Bob Delyn ''Croeso i’r Crac Cymraeg'' (1989), casét EP pedair cân ar eu liwt eu hunain. Roedd arddull gynnar y grŵp yn mynd yn ôl at wreiddiau’r traddodiad gwerin gan gyfuno canu amrwd a herfeiddiol ag elfennau gwrthsefydliadol pync-roc. Yn hyn o beth roedd hi’n bosibl gweld tebygrwydd rhwng yr hyn yr oedd Bob Delyn yn ceisio’i wneud yng Nghymru a chynnyrch grwpiau pync-gwerin megis The Pogues a The Wolfe Tones ar lefel fwy rhyngwladol.
  
Yn wir, mewn adolygiad yn y cylchgrawn ''Sothach'', disgrifiwyd ‘Gwyddel yn y Dre’ fel y gân ‘pync- gwerin gyntaf yn y Gymraeg’. Yn yr un adolygiad mae’r awdur yn crynhoi’r gwahaniaeth sylfaenol rhwng Bob Delyn a grwpiau gwerin eraill Cymraeg y cyfnod: ‘Anghofiwch [am y rhagfarn sy’n bodoli tuag at] [[ddawnsio gwerin]] yr [[Eisteddfod]], twmpathau hen ffasiwn yr Urdd a gwylio [[Ar Log]] eto fyth yn perfformio set nodyn-berffaith ddiflas, mae Bob D[elyn] yma i roi’r sioc ddiwylliannol fwyaf ers cryn amser’ ([dienw] 1990, 24). Symbylodd ‘Gwyddel yn y Dre’ a chaneuon tebyg gan Bob Delyn nifer o ddynwarediadau gan grwpiau pync-gwerin megis Y Defaid a [[Gwerinos]].
+
Yn wir, mewn adolygiad yn y cylchgrawn ''Sothach'', disgrifiwyd ‘Gwyddel yn y Dre’ fel y gân ‘pync- gwerin gyntaf yn y Gymraeg’. Yn yr un adolygiad mae’r awdur yn crynhoi’r gwahaniaeth sylfaenol rhwng Bob Delyn a grwpiau gwerin eraill Cymraeg y cyfnod: ‘Anghofiwch [am y rhagfarn sy’n bodoli tuag at] [[Gwerin, Arferion Dawnsio | ddawnsio gwerin]] ... yr [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]], twmpathau hen ffasiwn yr Urdd a gwylio [[Ar Log]] eto fyth yn perfformio set nodyn-berffaith ddiflas, mae Bob D[elyn] yma i roi’r sioc ddiwylliannol fwyaf ers cryn amser’ ([dienw] 1990, 24). Symbylodd ‘Gwyddel yn y Dre’ a chaneuon tebyg gan Bob Delyn nifer o ddynwarediadau gan grwpiau pync-gwerin megis Y Defaid a [[Gwerinos]].
  
Ynghyd â Twm, Gorwel ac Edwin, yr aelodau eraill oedd [[Bethan Miles]] ([[ffidil]], feiola) a Gareth Jones (drymiau, ''bodhran''). Daeth sylw pellach i’r grŵp yn dilyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, ''Sgwarnogod Bach Bob'' (Crai, 1990), lle clywid trefniannau ffres ac anarferol o alawon traddodiadol, weithiau gyda geiriau newydd gan Twm (fel ‘Un bore/‘’Asu Jo’). Erbyn rhyddhau eu hail albwm, ''Gedon'' (Crai, 1992), roedd aelodaeth y band wedi sefydlogi ac yn cynnwys Jamie Dore (gitâr fas), Hefin Huws (drymiau, gynt o [[Maffia Mr Huws]]) a’r gantores o Lydaw, Nolwenn Korbell. Gyda Korbell yn dod yn fwyfwy amlwg yn y broses greadigol (a Twm yntau’n rhugl yn yr iaith), canwyd ambell gân yn Llydaweg (megis ‘Llewg Zotrog oz Llep Zotrog’), a threiddiodd y dylanwad Llydewig i mewn i sain y grŵp hefyd, megis y defnydd o’r bombard yn ‘Ffair y Bala’.
+
Ynghyd â Twm, Gorwel ac Edwin, yr aelodau eraill oedd [[Miles, Bethan | Bethan Miles]] ([[ffidil]], feiola) a Gareth Jones (drymiau, ''bodhran''). Daeth sylw pellach i’r grŵp yn dilyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, ''Sgwarnogod Bach Bob'' (Crai, 1990), lle clywid trefniannau ffres ac anarferol o alawon traddodiadol, weithiau gyda geiriau newydd gan Twm (fel ‘Un bore/‘’Asu Jo’). Erbyn rhyddhau eu hail albwm, ''Gedon'' (Crai, 1992), roedd aelodaeth y band wedi sefydlogi ac yn cynnwys Jamie Dore (gitâr fas), Hefin Huws (drymiau, gynt o [[Maffia Mr Huws]]) a’r gantores o Lydaw, Nolwenn Korbell. Gyda Korbell yn dod yn fwyfwy amlwg yn y broses greadigol (a Twm yntau’n rhugl yn yr iaith), canwyd ambell gân yn Llydaweg (megis ‘Llewg Zotrog oz Llep Zotrog’), a threiddiodd y dylanwad Llydewig i mewn i sain y grŵp hefyd, megis y defnydd o’r bombard yn ‘Ffair y Bala’.
  
Recordiwyd ''Sgwarnogod Bach Bob'' a ''Gedon'' yn Stiwdio Ofn ym Môn, gyda’r amryddawn Gorwel Owen (a fu hefyd yn cynhyrchu ar ran [[Datblygu]], y [[Super Furry Animals]] a [[Gorky’s Zygotic Mynci]]) wrth y llyw. Bu’n berthynas symbiotig, gyda’r band yn barod i arbrofi gyda thechnegau stiwdio megis samplo, recordio gitarau am yn ôl, defnydd o seiniau ac offerynnau anarferol, ''loops'' ac ati. Fodd bynnag, bu cyfnodau hir yn aml rhwng un recordiad a’r nesaf, yn rhannol oherwydd yr amser a’r gofal a roddwyd i’r caneuon yn y stiwdio.
+
Recordiwyd ''Sgwarnogod Bach Bob'' a ''Gedon'' yn Stiwdio Ofn ym Môn, gyda’r amryddawn Gorwel Owen (a fu hefyd yn cynhyrchu ar ran [[Datblygu]], y [[Super Furry Animals]] a [[Gorky's Zygotic Mynci]]) wrth y llyw. Bu’n berthynas symbiotig, gyda’r band yn barod i arbrofi gyda thechnegau stiwdio megis samplo, recordio gitarau am yn ôl, defnydd o seiniau ac offerynnau anarferol, ''loops'' ac ati. Fodd bynnag, bu cyfnodau hir yn aml rhwng un recordiad a’r nesaf, yn rhannol oherwydd yr amser a’r gofal a roddwyd i’r caneuon yn y stiwdio.
  
Bu bwlch o bedair blynedd rhwng Gedon a’r trydydd albwm, ''Gwbade Bach Cochlyd'' (Crai, 1996). Perthynai awyrgylch mwy dwys a mewnsyllgar i ''Gwbade Bach Cochlyd'', a bu rhyddhau’r casgliad hwn yn benllanw yn hanes y grŵp: gadawodd Korbell wedyn ac ymfudodd Dore i Awstralia. Aeth cyfnod o saith mlynedd heibio cyn rhyddhau ''Dore'' (Crai, 2003), yr oedd ei deitl yn chwarae ar gyfenw cyn-fasydd y grŵp (ac yn deyrnged iddo) ynghyd â’r syniad o agor drysau. Gyda chyfraniadau gan John Lawrence (gynt o Gorky’s Zygotic Mynci) ar y gitâr ddur a [[Gai Toms]] ar y bas dwbl, clywid sain fwy breuddwydiol a rhith-weledigaethol ar draciau megis ‘Cân yr Haul’ a ‘Hen Ŵr Mwyn’.
+
Bu bwlch o bedair blynedd rhwng Gedon a’r trydydd albwm, ''Gwbade Bach Cochlyd'' (Crai, 1996). Perthynai awyrgylch mwy dwys a mewnsyllgar i ''Gwbade Bach Cochlyd'', a bu rhyddhau’r casgliad hwn yn benllanw yn hanes y grŵp: gadawodd Korbell wedyn ac ymfudodd Dore i Awstralia. Aeth cyfnod o saith mlynedd heibio cyn rhyddhau ''Dore'' (Crai, 2003), yr oedd ei deitl yn chwarae ar gyfenw cyn-fasydd y grŵp (ac yn deyrnged iddo) ynghyd â’r syniad o agor drysau. Gyda chyfraniadau gan John Lawrence (gynt o Gorky’s Zygotic Mynci) ar y gitâr ddur a [[Toms, Gai (g.1976) | Gai Toms]] ar y bas dwbl, clywid sain fwy breuddwydiol a rhith-weledigaethol ar draciau megis ‘Cân yr Haul’ a ‘Hen Ŵr Mwyn’.
  
 
Mae ''Dal i ’Redig Dipyn Bach'' (Sain, 2017) yn albwm trawiadol ac eithaf lleddf ei gywair, gyda chysgod colledion personol y canwr yn drwm dros nifer o’r caneuon; dywed un adolygiad y gellid disgrifio’r albwm cyfan bron fel ‘rhyw fath o farwnad estynedig’ i Iwan Llwyd, cyfaill Twm Morys a’i gydymaith ar deithiau barddol cyn ei farw annhymig yn 2010 (Baines 2017, 38).
 
Mae ''Dal i ’Redig Dipyn Bach'' (Sain, 2017) yn albwm trawiadol ac eithaf lleddf ei gywair, gyda chysgod colledion personol y canwr yn drwm dros nifer o’r caneuon; dywed un adolygiad y gellid disgrifio’r albwm cyfan bron fel ‘rhyw fath o farwnad estynedig’ i Iwan Llwyd, cyfaill Twm Morys a’i gydymaith ar deithiau barddol cyn ei farw annhymig yn 2010 (Baines 2017, 38).
Llinell 22: Llinell 22:
 
=Disgyddiaeth=
 
=Disgyddiaeth=
  
:''Sgwarnogod Bach Bob'' (Crai C005A, 1990)
+
*''Sgwarnogod Bach Bob'' (Crai C005A, 1990)
  
:''Bob Dolig'' [sengl] (Crai C011E, 1990)  
+
*''Bob Dolig'' [sengl] (Crai C011E, 1990)  
  
:''Gedon'' (Crai CD021, 1992)
+
*''Gedon'' (Crai CD021, 1992)
  
:''Gwbade Bach Cochlyd'' (Crai CD049, 1996)
+
*''Gwbade Bach Cochlyd'' (Crai CD049, 1996)
  
:''Dore'' (Sain SCD2421, 2003)
+
*''Dore'' (Sain SCD2421, 2003)
  
:''Dal i ’Redig Dipyn Bach'' (Rasal SCD2773, 2017)
+
*''Dal i ’Redig Dipyn Bach'' (Rasal SCD2773, 2017)
  
 
=Llyfryddiaeth=
 
=Llyfryddiaeth=
  
:[dienw] ‘Adolygiad o Sgwarnogod Bach Bob’, ''Sothach'' (Hydref, 1990), 24–5
+
*[dienw] ‘Adolygiad o Sgwarnogod Bach Bob’, ''Sothach'' (Hydref, 1990), 24–5
  
:Menna Baines, ‘Adolygiad o ''Dal i ’Redig Dipyn Bach''’, ''Barn'', 658 (Tachwedd, 2017), 38
+
*Menna Baines, ‘Adolygiad o ''Dal i ’Redig Dipyn Bach''’, ''Barn'', 658 (Tachwedd, 2017), 38
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 16:01, 28 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp gwerin-roc amgen dyfeisgar a dylanwadol oedd Bob Delyn a’r Ebillion (neu Bob Delyn), a ddaeth i amlygrwydd yn ystod yr 1990au. Ffurfiwyd y band gan y bardd a’r cerddor Twm Morys (llais, telyn, gitâr) ynghyd â Gorwel Roberts (gitâr). Aelod arall cyson oedd Edwin Humphreys (sacsoffon, clarinet), gynt o’r grŵp reggae o Fethesda, Y Jecsyn Ffeif, ac yn aelod o Geraint Løvgreen a’r Enw Da. Roedd enw’r grŵp, Bob Delyn a’r Ebillion, yn chwarae ar enw’r ffigwr gwerin amlwg o America, Bob Dylan, a fu’n ddylanwad mawr ar Twm a Gorwel.

Wedi cyfnod o jamio a pherfformio byrfyfyr mewn sesiynau gwerin, rhyddhaodd Bob Delyn Croeso i’r Crac Cymraeg (1989), casét EP pedair cân ar eu liwt eu hunain. Roedd arddull gynnar y grŵp yn mynd yn ôl at wreiddiau’r traddodiad gwerin gan gyfuno canu amrwd a herfeiddiol ag elfennau gwrthsefydliadol pync-roc. Yn hyn o beth roedd hi’n bosibl gweld tebygrwydd rhwng yr hyn yr oedd Bob Delyn yn ceisio’i wneud yng Nghymru a chynnyrch grwpiau pync-gwerin megis The Pogues a The Wolfe Tones ar lefel fwy rhyngwladol.

Yn wir, mewn adolygiad yn y cylchgrawn Sothach, disgrifiwyd ‘Gwyddel yn y Dre’ fel y gân ‘pync- gwerin gyntaf yn y Gymraeg’. Yn yr un adolygiad mae’r awdur yn crynhoi’r gwahaniaeth sylfaenol rhwng Bob Delyn a grwpiau gwerin eraill Cymraeg y cyfnod: ‘Anghofiwch [am y rhagfarn sy’n bodoli tuag at] ddawnsio gwerin ... yr Eisteddfod, twmpathau hen ffasiwn yr Urdd a gwylio Ar Log eto fyth yn perfformio set nodyn-berffaith ddiflas, mae Bob D[elyn] yma i roi’r sioc ddiwylliannol fwyaf ers cryn amser’ ([dienw] 1990, 24). Symbylodd ‘Gwyddel yn y Dre’ a chaneuon tebyg gan Bob Delyn nifer o ddynwarediadau gan grwpiau pync-gwerin megis Y Defaid a Gwerinos.

Ynghyd â Twm, Gorwel ac Edwin, yr aelodau eraill oedd Bethan Miles (ffidil, feiola) a Gareth Jones (drymiau, bodhran). Daeth sylw pellach i’r grŵp yn dilyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, Sgwarnogod Bach Bob (Crai, 1990), lle clywid trefniannau ffres ac anarferol o alawon traddodiadol, weithiau gyda geiriau newydd gan Twm (fel ‘Un bore/‘’Asu Jo’). Erbyn rhyddhau eu hail albwm, Gedon (Crai, 1992), roedd aelodaeth y band wedi sefydlogi ac yn cynnwys Jamie Dore (gitâr fas), Hefin Huws (drymiau, gynt o Maffia Mr Huws) a’r gantores o Lydaw, Nolwenn Korbell. Gyda Korbell yn dod yn fwyfwy amlwg yn y broses greadigol (a Twm yntau’n rhugl yn yr iaith), canwyd ambell gân yn Llydaweg (megis ‘Llewg Zotrog oz Llep Zotrog’), a threiddiodd y dylanwad Llydewig i mewn i sain y grŵp hefyd, megis y defnydd o’r bombard yn ‘Ffair y Bala’.

Recordiwyd Sgwarnogod Bach Bob a Gedon yn Stiwdio Ofn ym Môn, gyda’r amryddawn Gorwel Owen (a fu hefyd yn cynhyrchu ar ran Datblygu, y Super Furry Animals a Gorky's Zygotic Mynci) wrth y llyw. Bu’n berthynas symbiotig, gyda’r band yn barod i arbrofi gyda thechnegau stiwdio megis samplo, recordio gitarau am yn ôl, defnydd o seiniau ac offerynnau anarferol, loops ac ati. Fodd bynnag, bu cyfnodau hir yn aml rhwng un recordiad a’r nesaf, yn rhannol oherwydd yr amser a’r gofal a roddwyd i’r caneuon yn y stiwdio.

Bu bwlch o bedair blynedd rhwng Gedon a’r trydydd albwm, Gwbade Bach Cochlyd (Crai, 1996). Perthynai awyrgylch mwy dwys a mewnsyllgar i Gwbade Bach Cochlyd, a bu rhyddhau’r casgliad hwn yn benllanw yn hanes y grŵp: gadawodd Korbell wedyn ac ymfudodd Dore i Awstralia. Aeth cyfnod o saith mlynedd heibio cyn rhyddhau Dore (Crai, 2003), yr oedd ei deitl yn chwarae ar gyfenw cyn-fasydd y grŵp (ac yn deyrnged iddo) ynghyd â’r syniad o agor drysau. Gyda chyfraniadau gan John Lawrence (gynt o Gorky’s Zygotic Mynci) ar y gitâr ddur a Gai Toms ar y bas dwbl, clywid sain fwy breuddwydiol a rhith-weledigaethol ar draciau megis ‘Cân yr Haul’ a ‘Hen Ŵr Mwyn’.

Mae Dal i ’Redig Dipyn Bach (Sain, 2017) yn albwm trawiadol ac eithaf lleddf ei gywair, gyda chysgod colledion personol y canwr yn drwm dros nifer o’r caneuon; dywed un adolygiad y gellid disgrifio’r albwm cyfan bron fel ‘rhyw fath o farwnad estynedig’ i Iwan Llwyd, cyfaill Twm Morys a’i gydymaith ar deithiau barddol cyn ei farw annhymig yn 2010 (Baines 2017, 38).

A hwythau’n amharod i aros yn segur yn greadigol, clywir datblygiad ac aeddfedrwydd cynyddol ym mhob un o recordiadau’r grŵp, o’r arddull pync-gwerin i ganeuon araf a dwys y recordiadau mwy diweddar, sydd wedi eu crefftio’n ofalus a’u cynhyrchu’n soffistigedig. Fodd bynnag, efallai fod geiriau’r adolygydd am yr albwm cyntaf yn berthnasol i holl gynnyrch y grŵp ar hyd y blynyddoedd: ‘Yn gyfoes neu’n gyntefig, yn ddinesig neu’n wledig, mae cerddoriaeth Bob Delyn yn llwyddo orau yn y gofod sydd rhwng categorïau tebyg, yn puro, yn ailddiffinio ac yn alcemeiddio’ (1990, 24).

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Sgwarnogod Bach Bob (Crai C005A, 1990)
  • Bob Dolig [sengl] (Crai C011E, 1990)
  • Gedon (Crai CD021, 1992)
  • Gwbade Bach Cochlyd (Crai CD049, 1996)
  • Dore (Sain SCD2421, 2003)
  • Dal i ’Redig Dipyn Bach (Rasal SCD2773, 2017)

Llyfryddiaeth

  • [dienw] ‘Adolygiad o Sgwarnogod Bach Bob’, Sothach (Hydref, 1990), 24–5
  • Menna Baines, ‘Adolygiad o Dal i ’Redig Dipyn Bach’, Barn, 658 (Tachwedd, 2017), 38



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.