Bois y Blacbord

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:46, 25 Mawrth 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp canu harmoni clòs o ysgolfeistri a ffurfiwyd yn 1958 yn Ysgol Haf flynyddol awdurdod addysg Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal â chanu penillion mewn cystadlaethau cenedlaethol roedd Bois y Blacbord yn ymroi i adloniant ysgafn y cyfnod, gan gynnwys caneuon gwerin wedi’u haddasu at ddant cynulleidfa eang.

Bu’r Bois yn brysur am flynyddoedd yn canu mewn cyngherddau elusennol ac ar raglenni teledu a radio. Cawsant ran hefyd yn seremoni agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962. Yn 1964 aethant ar daith i Iwerddon lle cawsant gryn sylw mewn cyngherddau ac ar y cyfryngau. Yr arweinydd oedd Noel John ac ef hefyd a oedd yn gyfrifol am addasiadau cerddorol eu repertoire.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

  • ‘Hen Fenyw Fach Cydweli’ [sengl] (Welsh Teldisc SPWD909, 1963)
  • Caneuon Difyrrus Bois y Blacbord … Jovial Songs of the Blackboard Boys [EP] (Welsh Teldisc TEP841, 1964)
  • Noson Lawen [EP] (Wren WRE1001, 1964)
  • Nadolig yng Nghwmni Bois y Blacbord [EP] (Wren WRE1010, 1965)
  • Bois y Blacbord [EP] (Wren WRE1019, c.1965)

Casgliadau amrywiol:

  • Y Bois a’r Hogia (Sain SCD2578, 2010)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.