Bowen, Robin Huw (g.1957)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Arbenigwr ar y delyn deires a cherddoriaeth draddodiadol. Fe’i ganed yn Lerpwl, er bod ei rieni’n hanu o Ynys Môn. Gyda’i deulu’n rhan o gymdeithas Gymraeg y ddinas, cafodd fagwraeth Gymreig iawn er mai yn Saesneg y derbyniodd ei addysg gynnar. Daeth dan ddylanwad y telynor Alan Stivell yn ystod ei ieuenctid a dechreuodd ddysgu canu’r delyn Geltaidd yn 17 oed. Yn 1979, graddiodd mewn Cymraeg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth.

Dechreuodd ganu’r delyn deires yn 1980 tra oedd yn gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ar ôl cael ei gyflwyno i’r offeryn gan y brodyr Dafydd a Gwyndaf Roberts o Ar Log. Mireiniodd ei grefft dros y chwe mlynedd ddilynol cyn mentro ar yrfa broffesiynol fel telynor. Cyfarfu ag Eldra Jarman (Roberts gynt) (1917–2000) yn 1991 a throsglwyddodd hithau alawon ac arddull yr hen sipsiwn Cymreig iddo; alawon megis Eldra’s Polka a gyfansoddodd ei hun, yn ogystal â hen alawon a etifeddodd oddi wrth ei hen-daid, John Roberts (Telynor Cymru). Yn 2000 cyfansoddodd y sgôr ar gyfer y ddrama deledu Eldra a oedd yn seiliedig ar blentyndod Eldra Jarman. Perfformiodd y sgôr ei hun ar y delyn, ac enillodd wobr BAFTA Cymru am y gerddoriaeth wreiddiol orau.

Mae Robin Huw Bowen yn unawdydd blaenllaw sy’n unigryw fel perfformiwr ac arbenigwr ar y delyn deires. Teithia i bedwar ban byd gan hyrwyddo’r delyn deires fel offeryn cenedlaethol y Cymry, yn ogystal â hybu a datblygu’r repertoire traddodiadol a chyfoes ar gyfer yr offeryn. Adlewyrcha ei repertoire o’r gorffennol gerddoriaeth frodorol Gymreig o’r 17g. i’r 19g., pan oedd y delyn deires yn anterth ei bri. Y mae wedi ymchwilio’n fanwl i’r gerddoriaeth hon ac i’r modd y câi’r delyn deires ei chwarae yn yr arddull Gymreig gynhenid, gan ddadansoddi a dehongli’r gerddoriaeth yng ngoleuni hynny.

Ymunodd â’r grŵp traddodiadol Mabsant yn 1983 gan deithio a pherfformio gyda hwy ar hyd a lled Gogledd America, Awstralia ac Ewrop. Rhwng 1990 ac 1996 bu’n perfformio ac yn recordio caneuon gyda Cusan Tân, ac yn 1998 ffurfiodd y grŵp Crasdant. Yn 2000 sefydlodd ef a phedwar telynor arall gôr telynau teires o’r enw Rhes Ganol – y côr telynau teires cyntaf i gael ei glywed yn perfformio ers Eisteddfod y Fenni yn 1913.

Sefydlodd gwmni cyhoeddi Gwasg Teires yn 1990 gan sicrhau parhad i gerddoriaeth draddodiadol Gymraeg gyhoeddedig. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae Tro Llaw: 200 o bibddawnsiau Cymreig o Lyfrgell Genedlaethol Cymru (1987), Tannau’r ddraig (1991), Llyfr Alawon Poced John Parry Ddall Rhiwabon (1991), Llyfr Alawon Poced Mary Richards, Darowen (1991), Cadw Twmpath (1999) a Ffylantin-tw! (2012). Y mae hefyd wedi rhyddhau sawl albwm o gerddoriaeth werin ar gyfer y delyn deires, megis Telyn Berseiniol fy Ngwlad: Sweet Harp (Teires, 1991), Hen Aelwyd: Old Hearth (Sain, 1999), Y Ffordd i Aberystwyth (Sain, 2007) ac Iaith Enaid (Sain, 2015).

Gwawr Jones

Disgyddiaeth

  • Telyn Berseiniol fy Ngwlad: Sweet Harp (Teires CDRHB001, 1991)
  • Hen Aelwyd: Old Hearth (Sain SCD2232, 1999)
  • Y Ffordd i Aberystwyth (Sain SCD2526, 2007)
  • Iaith Enaid (Sain SCD2723, 2015)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.