Bratiaith

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Iaith anghywir neu ansafonol. Yn draddodiadol mewn llenyddiaeth Gymraeg siaredid llond ceg o iaith gadarn a chywir gan chwarelwyr, glowyr, tyddynwyr, crefftwyr gwlad, gwerinwyr o bob math. Pobl uwch na’r rhain yn gymdeithasol a siaradai fratiaith: doctoriaid, twrneiod, offeiriaid, a’r ambell hen sgweiar oedd wedi budr-ddysgu’r iaith a ollyngwyd gan ei dadau. Gyda’r rhain oll gallwn gynnwys y cipar, a oedd yn Sais neu’n Sgotyn fel rheol.

Nodweddion bratiaith Gymraeg yw: (a) camdreiglo, (b) methu gyda chenedl enw, (c) ansicrwydd gyda ffurfiau berfol, (ch) dwyn i mewn gyfartaledd uchel o eiriau benthyg heb eu cymathu, (d) gwyro cystrawen (‘brawd fi’, ‘lle ti’n dod o’, ‘ti ddim yn’), (dd) colli’r synnwyr (‘dydw i heb fynd’). Datblygiadau o fewn y Gymraeg sydd yn (d), a gellir dychmygu adeg y dônt yn safonol. Ond ni bydd (dd) byth bythoedd yn gywir. Pwysau’r Saesneg, fodd bynnag, yw prif achos y diffygion heddiw a chyda chynnydd y pwysau hwn aeth ‘Cymraeg cipar drama’ ar led drwy ein cymdeithas.

Mae sut i adlewyrchu hyn, ac i ba fesur, yn gwestiynau sy’n wynebu bron bob storïwr a dramodydd Cymraeg heddiw. Am fod y Gymraeg yn iaith mor ffonymig mae’n bosib ysgrifennu ffurfiau llafar yn fanwl gywir. Gwneir hynny gan nifer o nofelwyr, ac o un safbwynt mae’n rhaid edmygu eu cysondeb a’u cywirdeb clust. Temtasiwn ddealladwy ar y llaw arall yw rhoi tipyn bach o gosmetig, yn hytrach nag adlewyrchu iaith yn ei dirywiad eithaf. Cyfyd yr un math o gwestiwn ym myd darlledu; gwelodd rhai ‘fudiad bratiaith’ yn y cyfryngau, canlyniad rhyw dybiaeth fod iaith lai cywir yn debyg o ennill mwy o gynulleidfa. Yn erbyn y dybiaeth honno gellir cyfeirio at y papurau bro, sydd wedi dal eu tir drwy gadw at iaith safonol.

Dafydd Glyn Jones


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.