Breindal

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Taliad yw hwn a wneir ar ôl asesu gwerth tir sydd â photensial o fwyngloddio e.e. glo, haearn, bocsit, aur ac ati. Fel arfer bydd y breindal yn cynrychioli canran penodedig o werth neu bwysau'r hyn a fwyngloddir yn y tir.

Rhaid i’r prisiwr asesu'r blynyddoedd cynhyrchu posibl sy'n weddill a’r cronfeydd wrth gefn [e.e. nifer o dunelli]. Ar ôl gwneud hyn gall y prisiwr asesu gwerth yr ased cyfan gan ddefnyddio lluosydd pwrpasol a phriodol i gyfalafu’r incwm blynyddol.


Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“Valuation: Principles into Practice”, R. E. H. Hayward ac W. H. Rees, Estates Gazette, pumed argraffiad, tudalennau 387 a 394



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.