Briff i’r lobi

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:51, 5 Ebrill 2019 gan Gwenda Richards (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Lobby briefing

Math o friffio newyddiadurwyr gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig (DU) yn ystod sesiynau seneddol San Steffan. Mae’n rhoi mynediad breintiedig iddynt i ffynonellau sy’n rhoi gwybodaeth swyddogol ynghyd â sylwadau gan lefarydd ar ran y Llywodraeth, fel arfer ar yr amod na ellir enwi’r ffynhonnell neu ryddhau gwybodaeth a fyddai’n galluogi rhywun i’w hadnabod. (Er enghraifft, ‘mae ffynonellau sy’n agos at y Llywodraeth yn dweud ...’). Mae’r system yn dyddio nôl i’r 1870au, pan ganiatawyd i rai ohebwyr gwrdd ag Aelodau Seneddol yn y lobi neu’r cynteddau yn Nhŷ’r Cyffredin cyn neu ar ôl dadleuon seneddol.

Yn aml, defnyddir y system i roi mantais sylweddol i wleidyddion a gweision sifil sy’n ceisio llunio’r agenda newyddion. Ym mis Tachwedd 1997, fodd bynnag, penderfynodd y Llywodraeth Lafur y dylai’r sesiynau briffio gael eu cofnodi’n swyddogol (‘on the record’) (yn yr un modd ag Unol Daleithiau’r America) ar gyfer gohebwyr lobi achrededig. Ers 2002, bu’r sesiynau briffio’n agored i newyddiadurwyr arbenigol a thramor hefyd, er bod y ‘rheolau'r lobi’ yn aros. Er enghraifft, nid yw ffynonellau yn cael eu henwi, ac ni ellir cysylltu ag Aelodau Seneddol yr wrthbleidiau am ymateb. Mae nifer y gohebwyr lobi yn amrywio o un flwyddyn i’r llall, ond fel arfer mae tua 250 ar unrhyw adeg.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.