Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Burtch, Mervyn (1929-2015)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddori...')
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Cyfansoddwr a aned yn Ystradmynach. Roedd yn ffodus i gael [[David Wynne]] fel athro cerddoriaeth yn yr Ysgol i Fechgyn, Lewis Pengam. Graddiodd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, [[Caerdydd]]. Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa fel athro cerddoriaeth yn yr Ysgol i Ferched, Lewis Pengam. Yn 1979 ymunodd â staff y Coleg Cerdd a [[Drama]] yng Nghaerdydd ac ef oedd pennaeth y cwrs [[perfformio]] yno hyd 1989.
+
Cyfansoddwr a aned yn Ystradmynach. Roedd yn ffodus i gael [[Wynne, David (1900-83) | David Wynne]] fel athro cerddoriaeth yn yr Ysgol i Fechgyn, Lewis Pengam. Graddiodd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa fel athro cerddoriaeth yn yr Ysgol i Ferched, Lewis Pengam. Yn 1979 ymunodd â staff y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd ac ef oedd pennaeth y cwrs perfformio yno hyd 1989.
  
Roedd Mervyn Burtch yn gyfansoddwr toreithiog a enillodd fri yn benodol am weithiau ar gyfer ieuenctid, ffrwyth ei ymroddiad diflino i addysg gerddorol a’i allu i ymateb i gomisiwn mewn ffordd ymarferol. Ffynnodd y Rhaglen Opera i Ysgolion yn y Coleg Cerdd a Drama dan ei gyfarwyddyd. Cyfansoddodd 13 o operâu byr ar gyfer plant a phobl ifanc ac fe’u perfformiwyd gan dros 80,000 o blant ar draws y byd. Enillodd sylw rhyngwladol trwy ei gydweithrediad â’r awdur Mark Morris yn Banff, Canada, lle datblygwyd prosiect diddorol ar wefan KidsOp. Nodwedd ddychmygus y prosiect hwn oedd cysylltu plant o wahanol wledydd â’i gilydd trwy’r we gan alluogi cydweithio cerddorol eang. Ei waith mwyaf llwyddiannus yn y maes hwn oedd ''The Raven King'' (1999) a ddaeth i amlygrwydd rhyngwladol yn ogystal ag ym Mhrydain. Fe’i perfformiwyd yn Ne Affrica, yr Almaen, Iwerddon a Mecsico yn ogystal ag yng Nghymru. Perfformiwyd y gwaith hefyd yn Neuadd Albert, Llundain, gan 500 o blant. Gwaith arall deniadol ac ysmala oedd ''The Great Wine Gum Robbery'' a gyfansoddwyd ar gyfer myfyrwyr i’w berfformio i blant.
 
Ni ddylai pwysigrwydd ei waith ar gyfer yr ifanc dynnu ein sylw oddi wrth gyfraniad mwy cyffredinol a wnaeth ym meysydd canu [[corawl]], cerddoriaeth siambr, cerddoriaeth gerddorfaol a deunydd ar gyfer [[bandiau pres]]. Mae’r corff o weithiau offerynnol a cherddorfaol a adawodd yn swmpus. Gwelwyd agwedd wleidyddol ar brydiau, fel yn yr [[oratorio]] ''Revolt in the Valleys'', gwaith i goffáu’r terfysg Siartaidd, 1839. Perfformiwyd yr oratorio hon yng Nghaerdydd yn 1993, gyda Michael Foot fel adroddwr, ar achlysur cau un o byllau glo olaf de Cymru yn Aberdâr. O safbwynt [[arddull]] mae Mervyn Burtch wedi ei gymharu â Bartók a Vaughan Williams yn sgil ei ymroddiad i greu ar gyfer ei gymuned tra ar yr un pryd yn torri cwys bersonol. Mae ei arddull yn gydblethiad o’r ingol a’r telynegol sydd nid yn unig yn dangos dylanwad Bartók ond hefyd Janáček, Britten a’i athro, [[David Wynne]]. (Yn ei fachgendod ennynwyd yn Burtch awch am gyfansoddi trwy wylio Wynne yn yr ysgol yn dygn gopïo cerddoriaeth.)
+
Ni ddylai pwysigrwydd ei waith ar gyfer yr ifanc dynnu ein sylw oddi wrth gyfraniad mwy cyffredinol a wnaeth ym meysydd canu [[Corau Cymysg | corawl]], cerddoriaeth siambr, cerddoriaeth gerddorfaol a deunydd ar gyfer [[Bandiau Pres | bandiau pres]]. Mae’r corff o weithiau offerynnol a cherddorfaol a adawodd yn swmpus. Gwelwyd agwedd wleidyddol ar brydiau, fel yn yr [[Oratorio, Yr | oratorio]] ''Revolt in the Valleys'', gwaith i goffáu’r terfysg Siartaidd, 1839. Perfformiwyd yr oratorio hon yng Nghaerdydd yn 1993, gyda Michael Foot fel adroddwr, ar achlysur cau un o byllau glo olaf de Cymru yn Aberdâr. O safbwynt arddull mae Mervyn Burtch wedi ei gymharu â Bartók a Vaughan Williams yn sgil ei ymroddiad i greu ar gyfer ei gymuned tra ar yr un pryd yn torri cwys bersonol. Mae ei arddull yn gydblethiad o’r ingol a’r telynegol sydd nid yn unig yn dangos dylanwad Bartók ond hefyd Janáček, Britten a’i athro, David Wynne. (Yn ei fachgendod ennynwyd yn Burtch awch am gyfansoddi trwy wylio Wynne yn yr ysgol yn dygn gopïo cerddoriaeth.)
  
Ysgrifennodd Burtch lawer o weithiau corawl, yn cynnwys trefniannau o ganeuon gwerin Cymru (ar gyfer Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, er enghraifft). Yn y darnau corawl mwy cymhleth defnyddir mydrau afreolaidd i sicrhau acenion naturiol wrth osod geiriau ac efallai fod dylanwad Janáček i’w weld yn hyn o beth. Haedda llawer o’i ganeuon eu perfformio’n fwy aml, ac yn eu sensitifrwydd maent yn adlewyrchu ei ddiwylliant eang a’i wybodaeth o lenyddiaeth, yn enwedig barddoniaeth Saesneg.
 
Ym maes cerddoriaeth offerynnol bu cyfraniad Mervyn Burtch yn arbennig iawn. Ar ôl 1985 treuliodd fwy o amser ar weithiau offerynnol, gan gyfansoddi 14 consierto a 17 o bedwarawdau. Cyfansoddodd consierto i biano yn 1989 a gweithiau byrrach ar ffurf ''concerti'' i [[ffidil]] ac i drwmped. Ei 17 pedwarawd llinynnol, a gyfansoddodd rhwng 1985 a 2013, yw’r cyfraniad mwyaf a wnaethpwyd yn y ''genre'' hwn gan gyfansoddwr o Gymro (gw. hefyd [[ffurfiau offerynnol]]).
+
Ym maes cerddoriaeth offerynnol bu cyfraniad Mervyn Burtch yn arbennig iawn. Ar ôl 1985 treuliodd fwy o amser ar weithiau offerynnol, gan gyfansoddi 14 consierto a 17 o bedwarawdau. Cyfansoddodd consierto i biano yn 1989 a gweithiau byrrach ar ffurf ''concerti'' i [[ffidil]] ac i drwmped. Ei 17 pedwarawd llinynnol, a gyfansoddodd rhwng 1985 a 2013, yw’r cyfraniad mwyaf a wnaethpwyd yn y ''genre'' hwn gan gyfansoddwr o Gymro (gw. hefyd [[Ffurfiau Offerynnol]]).
  
Roedd Mervyn Burtch yn berson hawddgar a charedig. Mewn un ysgrif goffa iddo nodir bod Haydn yn hoff gyfansoddwr ganddo ac nad oedd hyn yn syndod oherwydd ymateb tebyg y ddau gyfansoddwr tra gwahanol hyn i oblygiadau’r artist creadigol i’r gymdeithas o’i gwmpas. Bu’n weithgar ar lawer i bwyllgor cerddorol ac fe’i hanrhydeddwyd yn 2003 â’r MBE. Yn 2014 sefydlwyd Ymddiriedolaeth Mervyn Burtch i hyrwyddo ei gerddoriaeth.
 
Llinell 17: Llinell 18:
 
=Llyfryddiaeth Ddethol=
 
=Llyfryddiaeth Ddethol=
  
:Lyn Davies, ''Bywgraffiadau Cyfansoddwyr: Mervyn Burtch'' (Caerdydd, 2004)
+
*Lyn Davies, ''Bywgraffiadau Cyfansoddwyr: Mervyn Burtch'' (Caerdydd, 2004)
  
:https://mervynburtch.com
+
*''https://mervynburtch.com''
  
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 16:20, 28 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr a aned yn Ystradmynach. Roedd yn ffodus i gael David Wynne fel athro cerddoriaeth yn yr Ysgol i Fechgyn, Lewis Pengam. Graddiodd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa fel athro cerddoriaeth yn yr Ysgol i Ferched, Lewis Pengam. Yn 1979 ymunodd â staff y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd ac ef oedd pennaeth y cwrs perfformio yno hyd 1989.

Roedd Mervyn Burtch yn gyfansoddwr toreithiog a enillodd fri yn benodol am weithiau ar gyfer ieuenctid, ffrwyth ei ymroddiad diflino i addysg gerddorol a’i allu i ymateb i gomisiwn mewn ffordd ymarferol. Ffynnodd y Rhaglen Opera i Ysgolion yn y Coleg Cerdd a Drama dan ei gyfarwyddyd. Cyfansoddodd 13 o operâu byr ar gyfer plant a phobl ifanc ac fe’u perfformiwyd gan dros 80,000 o blant ar draws y byd. Enillodd sylw rhyngwladol trwy ei gydweithrediad â’r awdur Mark Morris yn Banff, Canada, lle datblygwyd prosiect diddorol ar wefan KidsOp. Nodwedd ddychmygus y prosiect hwn oedd cysylltu plant o wahanol wledydd â’i gilydd trwy’r we gan alluogi cydweithio cerddorol eang. Ei waith mwyaf llwyddiannus yn y maes hwn oedd The Raven King (1999) a ddaeth i amlygrwydd rhyngwladol yn ogystal ag ym Mhrydain. Fe’i perfformiwyd yn Ne Affrica, yr Almaen, Iwerddon a Mecsico yn ogystal ag yng Nghymru. Perfformiwyd y gwaith hefyd yn Neuadd Albert, Llundain, gan 500 o blant. Gwaith arall deniadol ac ysmala oedd The Great Wine Gum Robbery a gyfansoddwyd ar gyfer myfyrwyr i’w berfformio i blant.

Ni ddylai pwysigrwydd ei waith ar gyfer yr ifanc dynnu ein sylw oddi wrth gyfraniad mwy cyffredinol a wnaeth ym meysydd canu corawl, cerddoriaeth siambr, cerddoriaeth gerddorfaol a deunydd ar gyfer bandiau pres. Mae’r corff o weithiau offerynnol a cherddorfaol a adawodd yn swmpus. Gwelwyd agwedd wleidyddol ar brydiau, fel yn yr oratorio Revolt in the Valleys, gwaith i goffáu’r terfysg Siartaidd, 1839. Perfformiwyd yr oratorio hon yng Nghaerdydd yn 1993, gyda Michael Foot fel adroddwr, ar achlysur cau un o byllau glo olaf de Cymru yn Aberdâr. O safbwynt arddull mae Mervyn Burtch wedi ei gymharu â Bartók a Vaughan Williams yn sgil ei ymroddiad i greu ar gyfer ei gymuned tra ar yr un pryd yn torri cwys bersonol. Mae ei arddull yn gydblethiad o’r ingol a’r telynegol sydd nid yn unig yn dangos dylanwad Bartók ond hefyd Janáček, Britten a’i athro, David Wynne. (Yn ei fachgendod ennynwyd yn Burtch awch am gyfansoddi trwy wylio Wynne yn yr ysgol yn dygn gopïo cerddoriaeth.)

Ysgrifennodd Burtch lawer o weithiau corawl, yn cynnwys trefniannau o ganeuon gwerin Cymru (ar gyfer Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, er enghraifft). Yn y darnau corawl mwy cymhleth defnyddir mydrau afreolaidd i sicrhau acenion naturiol wrth osod geiriau ac efallai fod dylanwad Janáček i’w weld yn hyn o beth. Haedda llawer o’i ganeuon eu perfformio’n fwy aml, ac yn eu sensitifrwydd maent yn adlewyrchu ei ddiwylliant eang a’i wybodaeth o lenyddiaeth, yn enwedig barddoniaeth Saesneg.

Ym maes cerddoriaeth offerynnol bu cyfraniad Mervyn Burtch yn arbennig iawn. Ar ôl 1985 treuliodd fwy o amser ar weithiau offerynnol, gan gyfansoddi 14 consierto a 17 o bedwarawdau. Cyfansoddodd consierto i biano yn 1989 a gweithiau byrrach ar ffurf concerti i ffidil ac i drwmped. Ei 17 pedwarawd llinynnol, a gyfansoddodd rhwng 1985 a 2013, yw’r cyfraniad mwyaf a wnaethpwyd yn y genre hwn gan gyfansoddwr o Gymro (gw. hefyd Ffurfiau Offerynnol).

Roedd Mervyn Burtch yn berson hawddgar a charedig. Mewn un ysgrif goffa iddo nodir bod Haydn yn hoff gyfansoddwr ganddo ac nad oedd hyn yn syndod oherwydd ymateb tebyg y ddau gyfansoddwr tra gwahanol hyn i oblygiadau’r artist creadigol i’r gymdeithas o’i gwmpas. Bu’n weithgar ar lawer i bwyllgor cerddorol ac fe’i hanrhydeddwyd yn 2003 â’r MBE. Yn 2014 sefydlwyd Ymddiriedolaeth Mervyn Burtch i hyrwyddo ei gerddoriaeth.

Richard Elfyn Jones

Llyfryddiaeth Ddethol

  • Lyn Davies, Bywgraffiadau Cyfansoddwyr: Mervyn Burtch (Caerdydd, 2004)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.