Bwrlésg

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:11, 10 Awst 2018 gan RobertRhys (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Un o ffurfiau parodi yw bwrlésg; ceisio gwneud i’r gynulleidfa chwerthin yw'r nod, yn hytrach na gwneud pwynt difrifol neu symbylu rhyw weithred neu newid: mae’n wahanol i ddychan yn hyn o beth. Mae bwrlésg yn creu hiwmor un ai trwy ymdrin â phwnc difrifol mewn modd bychanol neu trwy ymdrin â phwnc di-nod mewn modd difrifol. Cawn enghreifftiau da o fwrlésg yn Yr Areithiau Pros, testunau rhyddiaith byrion a ysgrifennwyd yn yr 16g. sy’n tueddu i ddefnyddio dyfeisiau aruchel i ymdrin â phynciau annheilwng. Mae’r araith ‘Achau’r Cwrw’, er enghraifft, yn adrodd hanes ymladdfa rhwng meddwon yn arddull aruchel y chwedl arwrol; yn ‘Breuddwyd Gruffydd ap Adda ap Dafydd’ cawn hanes dyn meddw yn breuddwydio am ferch sy’n ei wrthod yn ddi-flewyn-ar-dafod ar ffurf gweledigaeth ganoloesol; ac yn ‘Breuddwyd Iolo Goch’ defnyddir fformiwla cwestiwn-ac-ateb Culhwch ac Olwen at yr un pwrpas.

Diana Luft

Llyfryddiaeth

Baldick, C. (2015), The Oxford Dictionary of Literary Terms (Rhydychen: Oxford University Press, [fersiwn ar lein, gwelwyd 01/01/2018]).

Jones, D. G. (gol., 1934), Yr Areithiau Pros (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.