Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Calan"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
Llinell 18: Llinell 18:
 
=Disgyddiaeth=
 
=Disgyddiaeth=
  
:''Bling'' (Sain SCD2577, 2008)
+
*''Bling'' (Sain SCD2577, 2008)
  
:''Jonah'' (Sain SCD2657, 2012)
+
*''Jonah'' (Sain SCD2657, 2012)
  
:''Giggly'' [EP] (Sain SCD2704, 2013)
+
*''Giggly'' [EP] (Sain SCD2704, 2013)
  
:''Dinas'' (Sain SCD2715, 2015)
+
*''Dinas'' (Sain SCD2715, 2015)
  
:''Solomon'' (Sain SCD2749, 2017)
+
*''Solomon'' (Sain SCD2749, 2017)
  
 
=Llyfryddiaeth=
 
=Llyfryddiaeth=
  
:Nathaniel Handy, ‘Calan: Bling’, ''Songlines'', 58 (2009), 66
+
*Nathaniel Handy, ‘Calan: Bling’, ''Songlines'', 58 (2009), 66
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Diwygiad 09:36, 26 Mawrth 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp gwerin deinamig a ddaeth i amlygrwydd yn ystod degawd cyntaf yr 21g. ac a fu’n weithgar iawn ers hynny.

Daeth y syniad o gychwyn grŵp pan fynychodd tri o’r aelodau gwrs Ethno yn Sweden yn 2003, rhan o raglen gyfnewid ar gerddoriaeth draddodiadol wedi ei threfnu gan trac (Traddodiadau Cerdd Cymru) rhwng y wlad honno a Chymru. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ffurfiwyd Calan. Yr aelodau gwreiddiol oedd Bethan Rhiannon Williams- Jones (acordion, piano, llais a chlocsio), Angharad Siân Jenkins (ffidil), Patrick Rimes (ffidil, pibau a chwibanogl), Llinos Eleri Jones (telyn Geltaidd) a Chris ab Alun (gitâr). Bu’r aelodaeth yn newid yn achlysurol gydag Alaw Ebrill Jones (telyn) yn perfformio o dro i dro, ynghyd â Gwenan Gibbard yn ddiweddarach, a daeth Sam Humphreys (gitâr) yn aelod parhaol o 2013 ymlaen.

Eu hymddangosiad cyntaf oedd yn Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2008. Ers hynny perfformiodd y grŵp mewn gwyliau ym Mhrydain a thu hwnt, gan gynnwys Caergrawnt, Amwythig a Cropredy, ynghyd â theithio i’r Eidal, Gwlad Belg, Ffrainc ac Unol Daleithiau America. Fel yn achos Ar Log gynt, roedd eu perfformiadau hefyd yn cynnwys clocsio. Bu iddynt ymddangos droeon ar S4C ar raglenni megis Noson Lawen, Stiwdio Gefn a’r Sioe Gelf, a chafodd eu cerddoriaeth ei chwarae’n gyson ar donfeddi Radio Cymru a gorsafoedd megis Radio 2 a 3.

Daethant i sylw’n gyntaf ar ôl rhyddhau eu halbwm cyntaf, Bling (Sain, 2008), record a roddai bwyslais ar drefniannau chwaethus ac afieithus o alawon dawns, jigiau, riliau, pibddawnsiau ac ati, gan roi sylw i dechneg gerddorol gaboledig Bethan ar yr acordion, Angharad ar y ffidil a’r amldalentog Patrick ar y ffidil a’r pibau. Deuai sain pibau Patrick ac acordion Bethan â sain fwy ‘Celtaidd’ i’r grŵp, gyda dylanwad pibau a ffidil Northumbria Kathryn Tickell, grŵp rhyng-Geltaidd Jamie Smith, Mabon, a’r grŵp Albanaidd Breabach i’w glywed. O bryd i’w gilydd ceid cân a oedd yn perthyn yn nes i ganu poblogaidd, gyda llais Bethan yn fwyaf blaenllaw, gan annog Nathaniel Handy i’w chymharu â’r cerddor Julie Fowlis sy’n canu’n bennaf yng Ngaeleg yr Alban (gw. Handy 2009).

Clywid mwy o wrthgyferbyniadau ar yr ail albwm, Jonah (Sain 2012), gyda thraciau megis ‘Slip Jigs’ a’r ‘Swansea Hosepipe Set’ yn ychwanegu drymiau ac yn swnio’n fwy ergydiol ac egnïol o ganlyniad. Eto, rhoddwyd sylw i ochr delynegol y band mewn caneuon megis ‘Y Gwydr Glas’. Dilynwyd yr albwm hwn gan yr EP Giggly (Sain, 2013). Aeth y band ymhellach i gyfeiriad caneuon roc-gwerin yn Dinas (Sain, 2015), gyda’r gân ddramatig a theatrig ‘Chwedl y Ddwy Ddraig’.

Trwy safon eu perfformiadau byw egnïol, eu hagwedd ffres a chyfoes tuag at y traddodiad a’u recordiadau safonol, prin fod unrhyw grŵp arall yn ystod y degawd diwethaf wedi gwneud mwy na Calan i boblogeiddio cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru, ac i ledaenu ei hapêl ymysg pobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Bling (Sain SCD2577, 2008)
  • Jonah (Sain SCD2657, 2012)
  • Giggly [EP] (Sain SCD2704, 2013)
  • Dinas (Sain SCD2715, 2015)
  • Solomon (Sain SCD2749, 2017)

Llyfryddiaeth

  • Nathaniel Handy, ‘Calan: Bling’, Songlines, 58 (2009), 66



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.