Cale, John

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:17, 26 Gorffennaf 2018 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

(g.1942)

Ganed John Davies Cale, cerddor, cyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon a chynhyrchydd recordiau, yn y Garnant, Dyffryn Aman, ar 9 Mawrth 1942. Glöwr di-Gymraeg oedd ei dad, Willie Arthur George Cale, ac athrawes Gymraeg ei hiaith oedd ei fam, Margaret, y cedwir ei henw morwynol yn enw canol Cale. Mae Cale, a oedd yn unig blentyn, yn cofi o pedwar brawd ei fam yn glir, yn eu plith Davey Davies a gynhyrchai, gyda’i wraig, Mai Jones, sioe radio adloniant ysgafn BBC Wales, Welsh Rarebit; hi a gyfansoddodd y gerddoriaeth i ‘We’ll Keep a Welcome’, a glywyd gyntaf yn 1940. ‘Dyma beth oedd adloniant o ddifri’, meddai Cale (Cale a Bockris 1999). Roedd ewythr arall, ‘dylanwad mawr iawn arnaf’, yn canu’r ffidil, ac o ganlyniad dechreuodd Cale ddysgu’r piano a’r fi ola yn y man.

Roedd cerddoriaeth ac addysg o’i gwmpas ym mhobman wrth iddo dyfu, ac aeth yn ei flaen o Ysgol Gynradd Sirol y Garnant i Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Bu cyfres o drafferthion personol pan oedd oddeutu’r 13 oed yn rhwystr i’w yrfa academaidd; ond maes o law enillodd Cale le i hyfforddi fel athro yng Ngholeg Goldsmiths yn ne Llundain, lle bu’n astudio rhwng 1960 ac 1963. Yno, cyfrannodd at gyflwyno cerddoriaeth fodernaidd ac avant-garde ei ddydd, gan gynnwys ei waith ei hun. Yn sgil cyfarfod ag Aaron Copland cafodd le yng Nghanolfan Gerddoriaeth Berkshire yn Tanglewood, Massachusetts, ond buan y symudodd i Efrog Newydd, a fu ers hynny’n ganolbwynt daearyddol i’w fywyd.

Rhwng 1963 ac 1968 bu Cale yn ymwneud â’r gweithgaredd cerddorol y mae’n cael ei gofio fwyaf amdano. Fel rhan o avant-garde cerddorol, cymerodd ran mewn perfformiad cyntaf o Vexations Erik Satie (c.1893) o dan John Cage yn 1963 ac ymuno â’r Theater of Eternal Music, ynghyd â La Monte Young (g.1935) ac eraill. Ar ôl cwrdd â’r canwr Lou Reed ddiwedd 1964 bu’r ddau’n gweithio o dan enw un band ar ôl y llall, gan benderfynu yn y diwedd mai’r Velvet Underground fyddai’n mynd â hi. Daeth yr arlunydd enwog Andy Warhol (1928–87) yn rheolwr ar y band, ac ef a gyflwynodd y gantores Nico y byddai Cale yn cydweithio â hi o bryd i’w gilydd hyd ei marwolaeth yn 1988. Cwta bedair blynedd fu cyfnod Cale gyda’r Velvet Underground (VU); rhyddhawyd dwy record yn cynnwys cyfraniad ganddo cyn iddo gael ei gardiau gan y band ym mis Medi 1968 (chwalodd gweddill aelodau VU ym mis Awst 1970). Ond bu’r ddwy record hynny ymhlith y mwyaf dylanwadol mewn cerddoriaeth roc, ac mae cyfraniad Cale, gyda’i lais, sain bur y fiola, a disgyblaeth gerddorol o’r bydoedd clasurol ac avant-garde fel ei gilydd, yn allweddol.

Bu gyrfa gerddorol Cale ers y Velvet Underground yn amrywiol, ond gellir ei rhannu’n dri math o weithgaredd. Daliodd ati i weithio fel cerddor roc, ar recordiau ac mewn cyngherddau, gan ryddhau sawl albwm, fel cyfansoddwr caneuon (geiriau a cherddoriaeth), fel perfformiwr (llais, piano, gitâr, fiola), fel arweinydd a threfnydd bandiau, ac fel cynhyrchydd recordiau. Mae’r recordiau’n ymddangos ar amrywiaeth eang o labeli, sydd o bosib yn arwydd o aflonyddwch, anghysonder neu fethiant: Columbia (e.e. Vintage Violence), Reprise (e.e. Paris 1919), Island (e.e. Fear), A and M (Honi Soit), Spy (Sabotage/Live'), Ze (e.e. Music for a New Society), Beggars Banquet (Artificial Intelligence), Opal/Land (e.e. Words for the Dying), Hannibal (e.e. Walking on Locusts), EMI (e.e. HoboSapiens) a Double Six (Shifty Adventures in Nookie Wood). Mae rhai’n enwi cyd-gyfranwyr, fel Terry Riley (Church of Anthrax), Brian Eno (Wrong Way Up), Bob Neurith (Last Day on Earth) a Lou Reed (Songs for Drella).

Cynhyrchodd Cale y mwyafrif o’i recordiadau ei hun, ond cynhyrchodd hefyd waith llawer iawn o artistiaid eraill: yn fwyaf cyson Nico (tri albwm i gyd), ond yn cynnwys recordiau sy’n enwog am amryfal resymau, gan gynnwys The Stooges (Elektra, 1969), The Modern Lovers (Home of the Hits, 1973) a record Patti Smith, Horses (Arista, 1975): mae’r casgliad Conflict and Catalysis (Big Beat Records, 2012) yn cynnig gorolwg o’i waith cynhyrchu. Cynhyrchodd record roc arall yn 2012 ac yntau’n 70 oed.

Yn ail, creodd Cale hefyd gerddoriaeth yn ystyr fwy cyfyng y gair ‘cyfansoddiad’: cerddoriaeth offerynnol a lleisiol at ei gilydd iddo ef ei hun neu eraill ei chanu a’i chwarae, wedi’i nodiannu neu’n fyrfyfyr. Mae ei waith yn cynnwys opera (Mata Hari, 1995), gweithiau bale (e.e. Nico, 1997) a llawer o draciau sain ar gyfer ffilmiau, nifer ohonynt wedi’u rhyddhau ar y label recordiau Belgaidd Crépuscule. Yn olaf, ac roedd hyn yn ddatblygiad o’i waith gyda Warhol, cynhyrchodd Cale weithiau celf amlgyfrwng yn cynnwys cerddoriaeth a sain, yn ogystal â geiriau a delweddau gweledol, er enghraifft, y gwaith Dyddiau Du/Dark Days a gynhyrchwyd ar ran Cyngor y Celfyddydau ar gyfer Biennale Fenis yn 2009.

Yn gyson â’i gynnyrch, mae iaith gerddorol Cale hefyd yn amrywiol, ac yn ymateb yn aml i ofynion comisiwn. Er enghraifft, mae’r gerddoriaeth biano i’r ffilm La Naissance d’amour yn cynnwys cerddoriaeth gyweiraidd (e.e. mae ‘If I Love You Still’ yn ddarn byr syml yn D fwyaf), tra mae’r gerddoriaeth biano i’r ffilm Process yn dangos meistrolaeth ar iaith gerddorol ôl-gyweiraidd: mae ‘Museum’, er enghraifft, yn cynnwys yn ei bedwar munud a deugain eiliad o wead piano uchel cynaledig, gordiau ac alawon anghytseiniol, sawl symudiad cyfochrog, brawddegau na ellir rhagweld eu hyd, ac ambell i fan gorffwys lled-gyweiraidd. O safbwynt caneuon, mae ‘Fear is a Man’s Best Friend’ yn crisialu nod amgen cynnar: y seicodrama gwrthdrawiadol sy’n chwalu’n anhrefn dan reolaeth.

Yng nghanol ei yrfa, mae’r albwm Music for a New Society yn ymestyn y thema honno, ond mae hefyd yn cynnwys harmoni cyfoethog yr allweddell yn ‘Taking Your Life In your Hands’, a sgwrs gerddorol â Beethoven yn ‘Damn Life’. Mewn blynyddoedd diweddarach, mae fersiwn Cale o’r gân werin ‘Ar Lan y Môr’, ar gyfer y ffilm Dal: Yma, Nawr (2003), hefyd yn dangos cynhaliaeth harmonig gyfoethog i’r alaw werin, ond yn ogystal â hynny mae’n amlygu ei barodrwydd i ddefnyddio dulliau cerddorol gwrthgyferbyniol.

Mae Cale yn dechrau ac yn gorffen ei hunangofiant, What’s Welsh for Zen (Bloomsbury, 1999), yn ne Cymru, a ffotograff o’i fam yw’r llun olaf yn y llyfr. ‘I was thinking about my mother,’ meddai yn ‘Dying on the Vine’ o’r albwm Artificial Intelligence (BeggarsBanquet, 1985), un o’i ganeuon mwyaf trawiadol, ac yn aml roedd rhaglen ei gyngherddau’n cynnwys ‘Ship of Fools’, sy’n enwi Abertawe, y Mwmbwls, Rhydaman a’r Garnant. Yn ddiweddarach yn ei fywyd daeth Cale yn ôl i Gymru ar gyfer prosiectau a oedd at ei gilydd yn derbyn nawdd cyhoeddus, er enghraifft i gyflwyno rhaglen ddogfen i Week In Week Out BBC Wales y defnydd o heroin yn ne Cymru (2009), ac i gymryd rhan mewn ffilm a gynhyrchwyd ar gyfer S4C ac a gyfarwyddwyd gan Marc Evans, Camgymeriad Gwych (2000), lle’r oedd Cale yn chwarae rhan hen law a gydweithiai’n gyfeillgar ond yn feirniadol â tho newydd o gerddorion Cymreig ifanc. Yno bu ffrwgwd byr â James Dean Bradfield a oedd yn arwydd o densiwn parhaus ym mywyd cerddorol Cale y gellid ei olrhain yn ôl i’w blentyndod: Cale, gyda pharch at ysgol, yn awyddus i ddysgu, yn gerddor disgybledig a chanddo brofiad helaeth, ond yn benderfynol o amddiffyn ‘greddf’, y ddelfryd Ramantaidd o fynegiant personol.

Dyfarnwyd iddo OBE yn 2010 yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines ‘am wasanaeth i gerddoriaeth ac i’r celfyddydau’. Barn Nigel Jenkins am Cale yw ‘mai ef mae’n debyg, ar draws pob genre, yw cerddor Cymreig mwyaf yr ugeinfed ganrif’ (Jenkins 1991). Mae safle Cale yn ddiogel fel un o gerddorion Cymreig mwyaf blaenllaw’r 20g., cerddor ac iddo enw rhyngwladol, ac un a bontiodd rhwng y meysydd ‘poblogaidd’ a ‘chlasurol’.

Dai Griffiths

Disgyddiaeth

[recordiau unawdol oni nodir yn wahanol]

Vintage Violence (Columbia CS1037, 1971)

The Academy in Peril (Reprise MS2079, 1972)

Paris 1919 (Reprise MS2131, 1973)

Fear (Island ILPS9301, 1974)

Slow Dazzle (Island ILS80345, 1975)

Helen of Troy (Island ILPS9350, 1975)

Honi Soit (A&M L37586, 1981)

Music for a New Society (Ze 6313-416, 1982)

Caribbean Sunset (Ze 818.290-1, 1984)

Artificial Intelligence (Beggars Banquet SNIR25114, 1985)

Words for the Dying (Opal 9-26024-4, 1989)

Walking on Locusts (Hannibal HNCD1395, 1996)

Hobo Sapiens (EMI 5939092, 2003)

Black Acetate (EMI 0946-334, 2005)

Shifty Adventures in Nookie Wood (Double Six DS047CD, 2012)

Cyweithiau:

Church of Anthrax [gyda Terry Riley] (Columbia C30131, 1971)

Songs for Drella [gyda Lou Reed) (Sire CD26140, 1990)

Wrong Way Up [gyda Brian Eno] (Land CD12, 1990)

Last Day on Earth [gyda Bob Neurith] (MCA MCD11037, 1994)

Cyn y Velvet Underground:

Sun Blindness Music (Table of the Elements TOE-CD-75, 2001)

Day of Niagara [gyda Tony Conrad, Angus MacLise, La Monte Young, Marian Zazeela] (Table of the Elements TOE-CD-74, 2000)

Dream Interpretation (Table of the Elements TOE-CD-79, 2001)

Stainless Gamelan (Table of the Elements TOE-CD-80, 2001)

Gyda’r Velvet Underground:

Velvet Underground and Nico (Verve V6-5008, 1966)

White Light, White Heat (Verve V-5046, 1968)

Live MCMXCIII (Sire 9362-45465-2, 1993)

Gwaith fel cynhyrchydd:

Conflict and Catalysis: Production and Arrangements 1966–2006 (Big Beat/Ace Records CDWIKD299, 2012)

Llyfryddiaeth

Victor Bockris a Gerard Malanga, Uptight: The Velvet Underground Story (Llundain, 1983)

John Cale a Victor Bockris, What’s Welsh for Zen: The Autobiography of John Cale (Llundain, 1999)

Nigel Jenkins, ‘The Scars of Imagination: A Profile of John Cale’, Planet 79 (1991), yn Footsore on the Frontier: Selected Essays and Articles (Llandysul, 2001), 75–86

Dai Griffiths, ‘“Home is Living Like a Man on the Run”: John Cale’s Welsh Atlantic’, yn Sally Harper (gol.), Welsh Music History (2000), 159–85, cyfieithiad Cymraeg, 186–211; ailargraffwyd yn Martin Stokes a Philip V. Bohlman (goln.), Celtic Modern: Music at the Global Fringe (Lanham, Maryland, 2003), 171–99

Tim Mitchell, Sedition and Alchemy: a Biography of John Cale (Llundain, 2003)

Richard Witts, The Velvet Underground (Llundain, 2006)