Canu Gwlad

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Daw canu gwlad yn wreiddiol o ddosbarth gweithiol Eingl-Americanaidd Unol Daleithiau America, lle crewyd genre newydd yn ystod yr 1920au drwy gyfuno elfennau o gerddoriaeth werin gyda chaneuon poblogaidd, alawon Celtaidd, caneuon cowbois a baledi traddodiadol y cyfnod (gw. Neal 2012). Daeth yr arddull yn fwyfwy poblogaidd yn ystod y 1930au a’r 40au yn sgil poblogrwydd cantorion megis Jimmie Rogers a Hank Williams, gan ddod i sylw rhyngwladol yn ystod y 1950au a’r 60au wrth i gantorion megis Elvis Presley, Carl Perkins a Johnny Cash fabwysiadu elfennau canu gwlad yn eu caneuon.

Pinacl yr arddull yn nhyb nifer oedd cyfnod y 1970au a’r 80au, gyda phoblogrwydd cantorion megis Kenny Rogers, Dolly Parton (ac yna’n fwy diweddar, Emmylou Harris, Garth Brooks ac Alison Krauss), yn sicrhau lle anhrydeddus i’r ffurf yn natblygiad cerddoriaeth boblogaidd yn ystod yr 20g, ac yn dod â sylw’r byd i ddinas Nashville, Tennessee, canolbwynt canu gwlad yn yr UDA.

Tua chyfnod y 1970au a’r 80au daeth canu gwlad yn boblogaidd ymysg cynulleidfaoedd yng Nghymru hefyd. Un o’r cyntaf i wneud ei marc yn y maes oedd Doreen Lewis, a ddisgrifiwyd fel ‘Brenhines y Canu Gwlad Cymraeg’. Ar ôl cystadlu mewn Eisteddfodau’r Urdd a’r Ffermwyr Ifanc, rhyddhaodd Lewis recordiau cynnar ar label Cambrian cyn cynhyrchu ei record hir gyntaf, Teimlad Cynnes, ar label Tryfan (îs-label Sain) yn 1979. Rhyddhaodd nifer o recordiau ar label Sain yn ystod yr 1980au a’r 90au cynnar, gan gynnwys Galw Mae ’Nghalon (1982), Pa Mor Hir? (1983) a Rhowch imi Ganu Gwlad (1993), gyda’r rhan helaeth o’i chaneuon yn rhai gwreiddiol.

Roedd cantorion protest megis Dafydd Iwan eisoes wedi dechrau mabwysiadu’r arddull canu gwlad mewn caneuon fel ‘Gad Fi’n Llonydd’ (1973) a ‘Weithiau Bydd y Fflam’ (1979), ond bu adfywiad pellach yn sgîl llwyddiant Doreen Lewis, ac fe ddaeth y syniad o ganu gwlad drwy’r iaith Gymraeg yn beth llawer mwy cyffredin erbyn yr 1980au a’r 90au.

Un o grwpiau mwyaf poblogaidd y cyfnod oedd Traed Wadin. Tra bod Lewis yn pwysleisio elfennau mwy telynegol a sentimental yr arddull, roedd sain mwy trydanol Traed Wadin yn arddangos parodrwydd i fentro i gyfeiriad roc gwladaidd (country rock). (Roedd grwpiau megis Hergest ac Edward H Dafis, o dan ddylanwad The Eagles, eisoes yn arbrofi gydag’r arddull yma yn rhai o’u caneuon.)

Ffurfiwyd Traed Wadin yn 1978 gyda Dylan Parry (llais a gitâr), gynt o’r grŵp poblogaidd o Ynys Môn, y Castaways, a Neville Jones (gitâr ddur). Yn dilyn poblogrwydd recordiau megis Potel Fach o Win a Tro i’r Fro ar label Sain yn 1978 ac 1980, rhyddhawyd dwy record hir, Fory Heb Ei Gyffwrdd (Sain, 1982) a Mynd Fel Bom (Sain, 1984). Yn ystod y 1990au aeth Dylan ati i ffurfio’r ddeuawd Dylan a Neil gyda’i fab, gan ryddhau tair record hir.

Yn ystod y 1990au bu adfywiad pellach yn y maes yng Nghymru o ganlyniad i boblogrwydd deuawdau megis Iona ac Andy, Dylan a Neil, Brenda Edwards, y brodyr Alun a Dafydd Jones o Broc Môr, ac yn bennaf oherwydd llwyddiant y ddeuawd o Tudweiliog ym Mhen Llŷn, John ac Alun. Yn sgîl llwyddiant Iona ac Andy a John ac Alun, cynhaliwyd gŵyl ganu gwlad Gwlad y Gân yn Llandudno am nifer o flynyddoedd yn theatr Venue Cymru, Llandudno, gan osod llwyfan teilwng i artistiaid canu gwlad yn yr iaith Gymraeg. Bu bandiau poblogaidd eraill megis Cajuns Denbo yn barod i fentro tu hwnt i’r sain generig Americanaidd i gynnwys rhythmau cajun a zydeco o ardal De Orllewin Louisiana.

Tua’r cyfnod yma roedd gwerthiant recordiau canu gwlad yn aml yn rhagori ar werthiant recordiau roc a phop yn y Gymraeg, ac fe glywid dylanwad yr arddull ar recordiau Bryn Fôn a Steve Eaves, yng nghaneuon y gantores boblogaidd Gwenda Owen, yn arddull acwsdig artistiaid megis Gwyneth Glyn a The Gentle Good, ac yng ngherddoriaeth Cerys Matthews. Bu’r gantores hynod boblogaidd o Gwm Gwendraeth, Gwenda Owen, hefyd yn mabwysiadu’r arddull canu gwlad mewn rhai caneuon o blith ei recordiau hir yn ystod yr 1990au (Dagre’r Glaw, Teithio Nôl, a Neges y Gân, oll ar label Fflach), weithiau mewn cyfuniad effeithiol â sain Geltaidd ei naws, fel yng nghân fuddugol cystadleuaeth Cân i Gymru 1995, ‘Cân i’r Ynys Werdd’.

Parhaodd y genre i dderbyn sylw ar ddechrau’r ganrif newydd, gyda John ac Alun yn rhyddhau pedair record hir rhwng 2000–2010. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf daeth to newydd o artistiaid i’r amlwg, gan gynnwys Wil Tân, Gethin Fôn a Glesni Fflur, ac yn fwyaf arbennig y Welsh Whisperer (gw. Cymru Fyw 2018).

Tra bod y syniad o briodoli ffenomen cwbl anghymreig, Eingl-Americanaidd i iaith a diwylliant Cymru yn anathema i Gymry pybyr y ‘pethe’, ni ellir gwadu poblogrwydd canu gwlad. Bu’n apelio’n fwyaf arbennig i Gymry cefn gwlad, gyda nifer o gefndir dosbarth gweithiol yn dilyn y gerddoriaeth. A chan fod dylanwad cerddoriaeth werin, Gwyddelig a Cheltaidd yn treiddio drwy’r arddull, ynghyd â thraddodiad yr Emyn a chanu cynulleidfaol, efallai nad yw’n syndod fod nifer o Gymry yn medru uniaethu gyda’r gerddoriaeth.

Roedd y syniad o ‘hiraeth’ – un sy’n ganolog i’r psyche Cymreig a’r Noson Lawen – yn cyseinio gyda’r arddull canu gwlad yn ogystal. Ond efallai mai’r prif elfen oedd y modd y gallai’r gerddoriaeth gysylltu gyda chymunedau lleol ar lawr gwlad. Fel dywed Andrew Walton (y Welsh Whisperer): ‘mae’r geiriau am bynciau sy’n berthnasol i’r gynulleidfa ac mae’r gerddoriaeth hefyd yn llawer agosach at adre’.’ Tra bod cymunedau cefn gwlad Cymraeg yn parhau i fodoli mae’n debyg y bydd canu gwlad i’w glywed yno hefyd.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Doreen Lewis, Rhowch imi Ganu Gwlad (Sain SCD2054, 1993)
  • Dylan a Neil / Traed Wadin, Hen Wlad Llýn (Sain SCD2161, 1997)
  • Broc Môr, Goleuadau Sir Fôn (Sain SCD2325, 2001)
  • John ac Alun, Y Goreuon / Best Of (Sain SCD2456, 2004)
  • Iona ac Andy, Y Ffordd (Sain SCD2541, 2007)

Llyfryddiaeth

  • Pwyll ap Siôn, ‘Canu Gwlad yng Nghefn Gwlad’, Barn (Mehefin 1987) 42–3



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.