Categori:Daearyddiaeth

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:54, 31 Gorffennaf 2014 gan Marc Haynes (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Ers nifer o flynyddoedd bellach gwelwyd cynnydd sylweddol yn y nifer o fodiwlau daearyddiaeth a ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws Cymru. Bwriad casgliad Daearyddiaeth yr Esboniadur yw llenwi’r bwlch mewn adnoddau addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym meysydd daearyddiaeth ffisegol a dynol. Ar gyfer pob term, boed yn broses, tirffurf, damcaniaeth neu dechneg, ceir diffiniad, esboniad, enghreifftiau a llyfryddiaeth. Ysgrifennwyd yr esboniadau gan staff a myfyrwyr ol-raddedig adrannau daearyddiaeth Prifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.