Cerdd Dant, Corau

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Rhywbeth a ddatblygodd yn ystod ail hanner yr 20g. yw’r côr cerdd dant. Ar hyd y canrifoedd, crefft yr unigolyn oedd canu gyda’r tannau, ond o tua’r 1930au ymlaen gwelwyd deuawdau, triawdau a phartïon. Cyflwynwyd cystadlaethau parti cerdd dant yn gymharol gynnar: yn yr Ŵyl Cerdd Dant gyntaf yn y Felinheli yn 1947, er enghraifft.

Cam naturiol wedyn o hynny oedd ymddangosiad corau. Nid oes, ac ni fu erioed, reol bendant i wahaniaethu rhwng ‘parti’ a ‘chôr’. Ar gyfer ‘parti’, i ddibenion cystadleuaeth mewn gŵyl neu eisteddfod, nodir niferoedd penodol yn y rhestr testunau – ‘hyd at 20 mewn nifer’ yn amlach na pheidio (ar un adeg ‘16’ oedd yn arferol). Mae cystadleuaeth y côr felly yn cynnwys unrhyw nifer uwch na’r ffigwr a nodir ar gyfer y parti. Gall nifer y cantorion amrywio’n fawr, ond o bryd i’w gilydd gwelwyd corau sylweddol mewn cystadlaethau, rhai’n cynnwys cymaint â 70 o aelodau. Ar gyfer cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 2009, ffurfiwyd côr o dros gant o leisiau meibion dan arweiniad Dan Puw, Côr y Cewri. Corau merched neu gorau dynion yw’r mwyafrif llethol o gorau a ffurfiwyd; eithriad mewn gwirionedd yw corau cymysg.

Mae’n wir dweud hefyd fod aml i gôr wedi ei sefydlu yn wreiddiol fel parti, a’u bod wedi symud o un categori i’r llall, yn syml oherwydd fod nifer yr aelodau wedi cynyddu gydag amser. Dyna a ddigwyddodd gydag un o’r corau cerdd dant enwocaf, Côr Godre’r Aran o ardal Llanuwchllyn – criw a ddaeth ynghyd yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau, 1949, trwy ysgogiad teulu Tyddyn ’Ronnen, sef Einion Edwards a’i ddau nai, Geraint a Trefor Edwards. Yn ddiweddarach cymerwyd yr awenau gan Tom Jones.

Ymddangosodd cystadleuaeth ‘Côr deulais neu fwy’ (heb fod dan 16 mewn nifer) mor gynnar ag 1954, yng Ngŵyl Cerdd Dant Aberystwyth. Ond yn y cyfnod hwnnw nid oedd y gystadleuaeth yn ymddangos yn gyson bob blwyddyn; ambell i flwyddyn nid oedd neb yn cystadlu, ac yn gyffredinol peth cymharol brin oedd y côr cerdd dant. Ymhlith yr enwau sy’n ymddangos y mae Côr Godre’r Aran ei hun, Côr Cwm Eithin (Llangwm, dan arweiniad Emrys Jones), Parti’r Ffynnon (Treffynnon, dan arweiniad Morfudd Maesaleg) a Chôr Merched Prysor (Trawsfynydd, dan arweiniad Mrs L. E. Morris).

Yn ystod yr 1960au un o’r corau mwyaf llwyddiannus oedd Côr Pontrhydyfen, dan arweiniad Alwyn Samuel. Dyma hefyd gyfnod Bois y Blacbord, dan arweiniad Noel John, a aeth ymlaen i arwain Côr Telyn Teilo, côr prysur iawn yn yr 1970au. Y corau mwyaf amlwg yn y cyfnod hwn oedd Hogia’r Ddwylan (dan arweiniad Menai Williams, yna Ilid Anne Jones), Rhianedd Môn (dan arweiniad Bethan Bryn, yna Morfudd Maesaleg), Côr Gyfynys, Trawsfynydd (dan arweiniad L. E. Morris), Côr Caerdydd (dan arweiniad Lisa Erfyl), Côr Aelwyd Caerdydd (dan arweiniad Nan Elis) a Chôr Tannau Taf (dan arweiniad Carys Williams).

Mae’n debyg mai o ganol yr 1970au ymlaen y datblygodd ‘oes aur’ y corau cerdd dant, gyda nifer y corau ar gynnydd yn gyson, yn ogystal â niferoedd y cantorion o fewn y corau hynny (yng Ngŵyl Cerdd Dant y Bala, a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Corwen yn 1984, daeth tri ar ddeg o gorau i gystadlu). Ymhlith y corau amlycaf o’r cyfnod hwnnw ymlaen y mae Côr Pantycelyn (Coleg Aberystwyth, arweinydd Gareth Mitford), Côr Merched Dyffryn Dulais (arweinydd Iris Thomas), Côr Cantre’r Gwaelod (Aberystwyth, arweinydd Bethan Bryn), Côr Penyberth (Pwllheli, arweinydd Nan Elis), Merched Uwchllyn (Llanuwchllyn, arweinydd Dafydd Roberts), Côr Merched Carmel (arweinydd Maureen Hughes), Côr Arianrhod (arweinydd Glesni Jones), Merched y Garth (Pontypridd, arweinydd Alwena Roberts, yna Llinos Swain), Parti’r Ffin (Wrecsam, arweinydd Mair Carrington Roberts), Côr Llangwm (arweinydd Rhian Jones), Côr Ceinion Conwy (arweinydd Catherine Watkin), Merched Glyndŵr (Dyffryn Clwyd, arweinydd Leah Owen), Côr Prysor (Trawsfynydd), Côr Seiriol (Bangor, arweinydd Gwennant Pyrs), Côr Canna (Caerdydd, arweinydd Delyth Medi), Côr Gwrtheyrn (Pwllheli, arweinydd Alwena Roberts), Côr Lleisiau’r Nant (Dinbych, arweinydd Leah Owen) a Chôr Glanaethwy (arweinydd Cefin Roberts) (gw. hefyd Arweinydd, Arweinyddion).

Sioned Webb

Disgyddiaeth

  • Côr Telyn Teilo, Goreuon 1970–1991 (Sain SCD2093, 1995)
  • Côr Seiriol, Côr Seiriol 2 (Sain SCD2106, 1995)
  • Côr Caerdydd, Côr Caerdydd (Sain SCD2118, 1995)
  • Côr Godre’r Aran, Cwlwm Aur (Sain SCD2231, 1999)
  • Côr Seiriol, Goreuon Cerdd Dant (Sain SCD2329, 2001)
  • Côr Pantycelyn, Goreuon Cerdd Dant (Cyfrol 2) (Sain SCD2448, 2004)
  • Côr Godre’r Aran, Goreuon 1983–2003 (Sain SCD2659, 2012)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.