Cerddorfeydd, Corau, Cerddorfeydd Ieuenctid ac Ensemblau

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Un o brif fwriadau’r Cyngor Cerdd Cenedlaethol dan gadeiryddiaeth Henry Walford Davies yn gynnar yn yr 1920au oedd ffurfio cerddorfa genedlaethol. Ni lwyddwyd i wneud hynny hyd nes i Walford Davies ddod yn aelod o bwyllgor cerdd ymgynghorol y BBC yn 1925. Erbyn 1928 cafwyd cerddorfa fechan o 16 chwaraewr yng Nghaerdydd ac erbyn Rhagfyr 1935 cafwyd digon o ddatblygiad i gyfiawnhau teitl newydd, Cerddorfa Gymreig y BBC.

Fel llawer o weithgarwch y BBC rhoddwyd cynlluniau’r Gerddorfa o’r neilltu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond ar ôl y rhyfel aethpwyd ati i’w hatgyfodi. Gyda dyfodiad y Third Programme (Radio 3 yn ddiweddarach) gwelwyd cyfle am ddyfodol mwy diogel. Mansel Thomas oedd arweinydd y Gerddorfa ar ei newydd wedd, gyda 31 chwaraewr. (Roedd 37 ohonynt erbyn 1956 a 44 erbyn 1960, niferoedd tipyn llai na’r hyn a geid yn Llundain.) Cefnogwyd cyfansoddwyr Cymru, rhai fel David Wynne, Daniel Jones, Grace Williams a’r Alun Hoddinott ifanc. Dirprwy Mansel Thomas oedd Arwel Hughes, a fu’n arweinydd cynorthwyol tan 1950.

Arweinydd y Gerddorfa o 1950 hyd 1965 oedd Rae Jenkins (1903–85) (gw. Arweinyddion), gŵr a gafodd brentisiaeth gerddorol ymarferol iawn yn theatrau Llundain. Pan benodwyd William Glock yn bennaeth cerdd y BBC yn 1959, un o’i brif amcanion oedd hybu moderniaeth ar lefel Ewropeaidd ac yn sgil hynny dibrisiwyd anghenion a buddiannau cenedlaethol Cymru. Oherwydd fod Glock yn dwyn pwysau penodwyd John Carewe yn arweinydd i olynu Rae Jenkins a bu yn y swydd o 1966 hyd 1971. Roedd adeiladu canolfan newydd i’r BBC yn Llandaf yn 1967 o fantais i’r Gerddorfa gan ei galluogi i symud o Heol Siarl i gartref mwy pwrpasol yn Stiwdio 1, Llandaf, gyda lle i gynulleidfa o 200.

Ym Medi 1967 sefydlodd y BBC y sianeli radio sy’n bod hyd heddiw, gyda Radio 3 yn cymryd lle’r Third Programme. Y canlyniad oedd i’r Gerddorfa gael ei defnyddio fwyfwy at ddibenion Radio 3 ar draul ei chyfraniad i’r gwasanaeth Cymreig. Yn yr 1970au bu’r Gerddorfa’n ddiwyd yn teithio o gwmpas Cymru ond prin oedd y mannau addas i berfformio gweithiau cerddorfaol. Hyd yn oed yng Nghaerdydd nid oedd lleoliadau fel Eglwys Gadeiriol Llandaf, Neuadd y Ddinas, Stiwdio 1 neu’r Theatr Newydd yn bodloni. Ond gyda dyfodiad Neuadd Dewi Sant yn 1982 gwelwyd datblygiad cyffrous a fyddai’n diwallu anghenion cerddorion a chynulleidfaoedd. Yno gallai’r Gerddorfa berfformio i gynulleidfa o 2,000 a llwyddwyd i sefydlu’r Neuadd fel cartref teilwng iddi.

Bu’r cerddor o Ganada, Boris Brott, yn brif arweinydd o 1972 hyd 1978 ac yn 1979 fe’i holynwyd gan Bryden Thomson (1928–1991). Roedd Thomson yn benodiad poblogaidd. Fe’i dilynwyd yntau gan Erich Bergel (1930–1998), a oedd yn enedigol o Rwmania ac a oedd wedi ennill edmygedd neb llai na Herbert von Karajan. Roedd y swyddogion gweithredol, Arnold Lewis a Huw Tregelles Williams, yn awyddus i gyfoethogi a dwysáu profiadau artistig y chwaraewyr a’u cynulleidfaoedd trwy ddenu mwy o arweinyddion gwadd o fri rhyngwladol. O edrych ar gyngherddau tymor 1986/7, er enghraifft, gwelir enwau Andrew Davies, Colin Davis, Charles Groves, James Loughran, Jukka-Pekka Saraste ac, am amser byr cyn i’w yrfa gyrraedd yr uchelfannau rhyngwladol, Mariss Jansons.

Pan benodwyd Mervyn Williams yn bennaeth cerddoriaeth a diwylliant, pwysleisiwyd yr arlwy ar gyfer teledu. Ef a gychwynnodd gystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn 1983 gyda chefnogaeth rheolwr y BBC yng Nghymru, Geraint Stanley Jones, a oedd yn frwd iawn dros gerddoriaeth ac am weld presenoldeb grymus gan y Gerddorfa ar deledu’r rhwydwaith Prydeinig. Er bod penodiad Tadaaki Otaka yn brif arweinydd yn 1987 yn groes i ddymuniad y BBC yn Llundain, bu ei gyfnod yn llwyddiant mawr gan iddo ddatblygu rapport da iawn gyda’r chwaraewyr mewn perfformiadau o ansawdd uchel.

Ers dechrau’r 1980au bu’n fwriad i’r Gerddorfa deithio mwy yn Ewrop (yn enwedig o gofio bod Cerddorfa Symffoni’r BBC wedi bod yn teithio’n gyson yno ers yr 1930au). Gwelwyd ymweliadau â Dwyrain yr Almaen (â Leipzig Gewandhaus, er enghraifft) ac â Leningrad. Canmolwyd cyfnod Richard Hickox fel prif arweinydd (2000–6) ac i’w ddilyn ef daeth Thierry Fischer (2006–12) a Thomas Søndergård (2012–). Cafwyd ysgogiad pwysig i’r Gerddorfa yn 2009 pan adeiladwyd Neuadd Hoddinott, un o neuaddau ymarfer mwyaf soffistigedig Ewrop gyda 349 o seddi, sy’n estyniad i Ganolfan y Mileniwm. Yn ei gyngherddau yn Neuadd Hoddinott bu cyfraniad Jac van Steen fel prif arweinydd gwadd (2006–13) yn bwysig ac ar ddiwedd 2015 apwyntiwyd Xian Zhang yn brif arweinydd gwadd y Gerddorfa. Hi yw’r fenyw gyntaf i gael swydd gyffelyb gyda’r BBC.

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Anghyson fu hanes canu corawl dan nawdd y BBC o 1928 hyd at ganol yr 1970au. Cafwyd y BBC Repertory Choir yn 1928; wedyn Cantorion Cymreig y BBC o 1936 ymlaen; dim gweithgarwch yn ystod yr Ail Ryfel Byd; adfywiad dan gyfarwyddyd Arwel Hughes yn 1947; wedyn Wythawd rhannol broffesiynol, a’r Glendower Singers dan arweinyddiaeth Mansel Thomas o tua chanol yr 1950au ymlaen. Tyfodd y côr – eithaf niferus ei rif – yn ystod yr 1970au ac erbyn 1983 credid bod angen newid cyfeiriad artistig. Daeth adfywiad yn sgil penodi John Hugh Thomas yn gôr-feistr i Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, côr amatur ar newydd wedd gyda thua 60 aelod. Y bwriad oedd ymgyrraedd at y safon uchaf posibl gan fod gofyn i’r côr berfformio ar lefel broffesiynol gyda’r Gerddorfa (gw. hefyd Arweinyddion).

Ers 1999 cyfarwyddwr cerdd y Corws yw Adrian Partington, a oedd eisoes yn gofalu am Gôr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cymerodd ef y cyfle i gynnwys aelodau o Gôr y Coleg yng Nghorws y BBC gan sicrhau sain ifanc, ffres iddo, ac mae’r Corws erbyn hyn yn cael ei ystyried fel y côr ieuengaf o’r corau mawr Prydeinig. Mae enw da iddo am ei berfformiadau bob blwyddyn yng nghyfres Proms y BBC; ymhlith uchafbwyntiau’r Proms fu’r Noson Gyntaf yn 2015 gyda pherfformiad o Belshazzar’s Feast Walton, yn ogystal â pherfformiadau o Symffoni Gothig Havergal Brian yn 2011 ac Offeren Leonard Bernstein yn 2012.

Cerddorfeydd a Grwpiau Ieuenctid Cenedlaethol

Yn dilyn ymdrechion arloesol Walford Davies a Chyngor Cenedlaethol Cerddoriaeth Cymru yn yr 1920au a’r 1930au i ledaenu chwarae offerynnau cerddorfaol yn yr ysgolion, paratowyd y ffordd tuag at sefydlu Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Digwyddodd hyn yn bennaf oherwydd dycnwch yr addysgwr cerddorol, Irwyn Walters (1902–92).

Gwahoddwyd Clarence Raybould i fod yn arweinydd cyntaf ac i’w ddilyn ef cafwyd gwasanaeth sawl arweinydd nodedig, fel Arthur Davison (1967– 1990), Elgar Howarth (1991–5), Christopher Adey (1996–2002) ac Owain Arwel Hughes (2003–10). Arweiniwyd ar ôl hyn am gyfnodau byr gan Takuo Yuasa, Carlo Rizzi, Grant Llewellyn, Paul Daniel a Jac van Steen. Mae gan y Gerddorfa 115 aelod a chânt amrywiaeth o brofiadau cerddorol gwerthfawr, er enghraifft y cyfle i gyd-berfformio mewn sefyllfa broffesiynol gyda Cherddorfa Symffoni Gymreig y BBC.

Tra caiff y Gerddorfa Ieuenctid (ynghyd â Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru) ei rheoli gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) (gw. Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth), mae Corau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Bres Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Jazz Cenedlaethol Ieuenctid yn dod o dan adain Tŷ Cerdd. Mae aelodau’r Côr Ieuenctid rhwng 16 a 21 oed. Fe’i sefydlwyd yn 1985 gyda George Guest yn arweinydd, a dewiswyd 46 canwr allan o’r 150 a glywelwyd i roi’r cyngerdd cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yr un flwyddyn (un o’r aelodau cyntaf oedd llywydd presennol y Côr, Bryn Terfel).

Oherwydd natur symffonig y Gerddorfa Ieuenctid, bychan yw’r nifer o chwaraewyr chwyth a phres y gellir eu cynnwys ynddi. Felly mae Cerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyflawni rôl bwysig yn diwallu anghenion cerddorol ehangach gan gynnig llwyfan i lawer o offerynwyr nad ydynt yn aelodau o’r Gerddorfa Genedlaethol. Mae’r Gerddorfa Bres yn batrwm o sut mae cynnal hen draddodiad – mae hanes anrhydeddus i fandiau pres yng Nghymru – mewn dull effeithiol a chreadigol gyda llygad ar y dyfodol. Ers ei ffurfio yn 1982 dan arweiniad Edward Gregson, mae’r Gerddorfa hon, sy’n cynnwys 60 o aelodau, wedi ffynnu. Mae llawer o’i chyn-aelodau wedi dod yn amlwg yn broffesiynol gyda phrif fandiau a cherddorfeydd Prydain, ac mae’n gwneud llawer i hybu cyfansoddwyr o Gymru a thu hwnt trwy gomisiynu darnau newydd.

Yn ddiweddar rhoddwyd y pwyslais ar gomisiynu cyfansoddwyr ifanc trwy gynnal cystadleuaeth Cyfansoddwyr Ifanc Tŷ Cerdd. Menter arall ddefnyddiol yn 2015 fu sefydlu’r Band Hyfforddi ar gyfer offerynwyr 16 mlwydd oed ac iau. Ensemble arall cysylltiedig â’r Gerddorfa Bres yw Pres Symffonig Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, sy’n cynnwys chwaraewyr sydd naill ai’n aelodau neu’n gyn-aelodau o gerddorfeydd eraill cenedlaethol ieuenctid Cymru. Oherwydd safon uchel yr ensemble hwn, cafodd y Pres Symffonig yr anrhydedd o chwarae yn agoriad dau o adeiladau mwyaf eiconig Cymru, Canolfan y Mileniwm a’r Senedd.

Mae’r grŵp arloesol Band Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn rhoi cyfle i gerddorion jazz ifanc talentog ddatblygu eu sgiliau byrfyfyr a’u sgiliau ensemble dan gyfarwyddyd arbenigwyr jazz gorau Prydain. Mae’r 30 aelod yn perfformio arlwy amrywiol sy’n cynnwys swing a ffefrynnau’r siartiau cyfoes. Dan arweinyddiaeth y trwmpedwr Percy Pursglove mae aelodau’r Band wedi gwella’u dealltwriaeth o wahanol arddulliau a chonfensiynau’r byd jazz.

Sinfonia Cymru

Chwaraewyr proffesiynol ifanc yw aelodau’r Gerddorfa arloesol hon a gychwynnwyd yn 1996 gan yr arweinydd Gareth Jones, sy’n dal yn brif arweinydd y Gerddorfa. Hon yw’r unig gerddorfa o’i math sy’n cael ei hariannu gan refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae nifer fawr iawn o brif unawdwyr Ewrop wedi perfformio gyda hi, gan gynnwys Bryn Terfel, Dennis O’Neill, Carlo Rizzi, Rebecca Evans, Catrin Finch, Llŷr Williams, Simon Keenlyside, Joseph Calleja, Gwyn Hughes Jones, Jean Phillipe Collard, Peter Donohoe, Paul Watkins, Michael Collins a Chloë Hanslip. Mewn cydweithrediad â chynllun ysgoloriaeth Professional Pathway Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’r Young Classical Artists Trust, mae’n hybu posibiliadau proffesiynol y genhedlaeth nesaf o offerynwyr cerddorfaol proffesiynol. Yn 2013 dechreuwyd menter Curate i gryfhau’r gefnogaeth i dalentau newydd sydd â’u bryd ar gynnig syniadau artistig beiddgar, mwy anghyffredin o bosibl.

Roedd 2014 yn flwyddyn eithriadol o brysur i’r Gerddorfa gan iddi roi 44 cyngerdd i fwy na 13,000 o bobl. Hefyd, yn 2015 cymerwyd y cyfle i ehangu’r gweithgarwch er mwyn perfformio, gyda Rachel Podger, mwy o weithiau o gyfnod y Baróc. Deil y chwaraewyr i berfformio repertoire eang yn gyson ledled Cymru, yn enwedig yng Nghanolfan Glan yr Afon yng Nghasnewydd.

Ensemble Cymru

Cafodd Ensemble Cymru ei sefydlu yn 2001 a bu’n gweithio’n ddyfal er mwyn hyrwyddo cerddoriaeth yng nghymunedau gogledd Cymru. Ers y dechrau y bwriad fu cynhyrchu cerddoriaeth siambr ar gyfer lleisiau ac offerynnau mewn ystod eang o weithgarwch ar gyfer neuaddau cyngerdd, gweithgarwch sy’n aml wedi’i anelu at blant a theuluoedd. Cynhelir tua chant o ddigwyddiadau bob blwyddyn. Felly, cenhadaeth yr Ensemble yw addysgu, ysbrydoli a chyfoethogi bywydau pobl o bob oedran ar draws Cymru ac yn enwedig yn y gogledd. Bu’n ddyfeisgar yn diwallu anghenion a meithrinwyd rhyngweithio effeithiol mewn ysgolion a chanolfannau celfyddydol. Bu cysylltiad agos gyda llawer o sefydliadau eraill ac ers 2015 y mae wedi cynnig hyfforddiant a chyngor i berfformwyr ifanc trwy fenter newydd, yr Academi Cerddoriaeth Siambr. Oherwydd ei ddyfalbarhad cydnabuwyd yr Ensemble gan Gyngor Celfyddydau Cymru am bwysigrwydd ei waith strategol. Bu’r Ensemble ar restr fer Gwobr y Gymdeithas Frenhinol Ffilharmonig yn 2006 ac anrhydeddwyd y sylfaenydd, Peryn Clement-Evans, yn 2008 am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru.

Richard Elfyn Jones



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.